PLAS MENAI AR Y BWRDD
30 Ion 2009
Mae pennaeth hwylio Prydain wedi bod yn helpu i lansio menter OnBoard newydd i annog mwy o ieuenctid yng Ngogledd Cymru i ddechrau hwylio.
Ymunodd Rod Carr, prif weithredwr y Gymdeithas Iotio Frenhinol, â chynrychiolwyr o’r byd hwylio yng Nghymru a thua 30 o glybiau o ardal Gogledd Cymru ym Mhlas Menai er mwyn lansio’r cynllun yn ddiweddar.
Mae’r gŵr sy’n gyfrifol am oruchwylio’r holl hwylio ym Mhrydain, o hamdden ar brynhawn Sul i gystadlu yn y Gemau Olympaidd, yn credu mai Gogledd Cymru yw un o’r ardaloedd gorau yn y DG i elwa o amcanion OnBoard.
Nod cynllun OnBoard y GIF yw gwneud hwylio’n fwy cyfleus i bawb drwy gysylltu clybiau hwylio ag ysgolion a grwpiau ieuenctid er mwyn sefydlu mwy o sesiynau hwylio i blant. Yn genedlaethol, mae mwy na 132,000 o blant wedi profi’r cynllun eisoes, gyda 125 o glybiau’n cymryd rhan mewn 24 rhanbarth, gyda Gogledd Cymru bellach yn 25ain. Cai Roberts yw swyddog datblygu cymunedol llawn amser newydd OnBoard er mwyn annog mwy o gyfranogiad yng Ngogledd Cymru.
Meddai Rod yn y lansiad: "Mae hwylio am weld plant nad yw eu teuluoedd yn hwylio eisoes yn cymryd rhan, pobl o’r gymuned leol, mae hynny’n gwbl hanfodol er budd dyfodol hwylio.
"Rydym yn gwneud yn dda iawn ar lwyfan y byd gyda llwyddiant yn y Gemau Olympaidd a’r rasys rownd y byd, ond er mwyn i hynny fod yn gynaladwy mae’n rhaid i ni fanteisio ar lwyddiant pobl fel Ben Ainslie ac Ellen MacArthur.
"Ond nid dim ond sôn am lwyddiant yn y Gemau Olympaidd yn y 2020’au ydym ni, mae gennym system dda ar gyfer sicrhau bod talent yn dal i ddod drwodd, ond mae lefelau cyfranogiad yn hollbwysig hefyd, a dyna sy’n cael sylw yma.
"Rydym wedi cael llwyddiant ysgubol mewn rhai rhannau o’r wlad ac mae’n rhaid i ni ehangu hynny i gynnwys y fan yma. Does gan yr un ardal arall yn y wlad yr un cyfleusterau hwylio â sydd gan Blas Menai i helpu clybiau i gyflwyno."
Mae’r gogleddwr, Cai Roberts, yn dechrau ar ei waith yn helpu clybiau i sefydlu cyfleoedd tra’n mynd i mewn i ysgolion ledled y rhanbarth hefyd i annog disgyblion ac athrawon i fanteisio ar y cyfleoedd hyn.
"Fy ngwaith i yw mynd allan i’r ysgolion, y clybiau a’r sefydliadau ieuenctid lleol, unrhyw rai sydd eisiau cael blas ar hwylio, a ffurfio cyswllt rhyngddynt â’u clwb lleol," meddai Roberts.
"Yna byddwn yn helpu clybiau i oresgyn rhwystrau, er enghraifft, os nad oes ganddynt ddigon o gychod. Byddwn yn cael hyd i ffyrdd o oresgyn pob rhwystr.
"Yn y pen draw, y clybiau fydd yn gyfrifol am y niferoedd allwn ni eu denu at y cynllun hwn, a faint allant eu derbyn, ond roedd brwdfrydedd mawr ynghylch y cynllun yn y lansiad.
"Mae’n rhaid i’r clybiau fod yn ganolfan hyfforddi ond, os nad ydynt, yna gallwn ni helpu i’w gwthio i’r cyfeiriad hwnnw fel eu bod yn ganolfan OnBoard."
Croesawyd y datblygiad gan lywydd Clwb Hwylio Llandudno, Paul Morton. "Rydym yn ffodus iawn ein bod newydd ddod yn ganolfan hyfforddi ac felly rydym yn barod i fynd," meddai.
"Roedd yn braf cael Rod Carr o’r GIF yn ymweld â Phlas Menai, mae’n dangos pa mor bwysig ydi’r cynllun yma ac yn sicrhau bod y clybiau’n ymwybodol o i ba gyfeiriad mae’r GIF eisiau mynd.
"Bydd yn gwthio nifer o glybiau i fod yn ganolfannau hyfforddi cydnabyddedig ac mae Cai yn gwybod bod raid iddo fo fynd i mewn i’r ysgolion. Rydym ni eisoes wedi ffurfio partneriaeth gyda dwy ysgol yn Llandudno, ond fe allem ni wneud mwy."
Meddai Swyddog Datblygu’r Gymdeithas Iotio Frenhinol ar gyfer Gogledd Cymru, Ruth Iliffe, "Roedd mor braf teimlo awyrgylch mor bositif yn y lansiad, mae pawb yma wedi cyffroi’n llwyr."