CYMUNED AMLWCH YN PRYNU I MEWN I BWERAU GWERTHU JOHN SIOP

26 Ion 2009

Mae pwerau gwerthu ceidwad siop ar Ynys Môn yn hudo llu o bobl tref Amlwch i brynu i mewn i’w raglen o weithgareddau corfforol.

John Llywelyn Pritchard, 51, yw Cydlynydd yr Hyrwyddwyr Cymunedol yn Amlwch, rôl a gafodd ei chreu a’i chyllido gan Gyngor Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cael mwy o oedolion i godi oddi ar y soffa ac i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol rheolaidd.

Yn cael ei adnabod yn lleol fel ‘John Siop’, wedi bod yn berchen ar siop bapur newydd am 27 mlynedd yn Amlwch, mae’r tad i bedwar o blant wedi datblygu a sefydlu clybiau, grwpiau chwaraeon a digwyddiadau niferus ers iddo dderbyn y swydd y llynedd, ac mae wedi recriwtio nifer o Hyrwyddwyr Cymunedol i greu brwdfrydedd ymhlith y bobl leol i fod yn egnïol.

Ymhlith y llu o weithgareddau y mae John wedi’u lansio’n egnïol a brwd mae bowlio dan do, tenis, badminton, Cyrlio’r Oes Newydd*, Frisbee Golff**, rownderi a phêl droed hwyl. Hefyd, mae wedi cyflwyno bocsarfer, aerobics a pilates yng nghymunedau gwledig Penysarn a Rhosybol a sesiynau Wii Fit ar gyfer y Monwysion medrus ar gyfrifiaduron.

Meddai John, "Rwyf wedi’m geni a’m magu yn Amlwch, felly rwy’n adnabod y rhan fwyaf o’r bobl yn yr ardal. Fy ngwaith i yw cymell pobl y gymuned ac rwyf wedi canfod mai tafod lleferydd, a rhyw feddylfryd o ‘roi cynnig arni’ a gwneud gweithgareddau’n hwyl sy’n gyfrifol am lwyddiant y cynllun.

"Hon yw ein hail flwyddyn yn rhedeg y rhaglen Hyrwyddwyr Cymunedol yn ardal Amlwch, gan gynnig gweithgareddau ar gyfer unrhyw rai sydd rhwng 16 a 67 oed, yn ddynion a merched. Gall pobl wneud cymaint neu gyn lleied ag y maent yn dymuno. Rydym wedi cael pobl yn cymryd rhan yn Ras Hwyl Ynys Môn, Ras Filltir Sports Relief, Ras Hwyl Santa Tŷ Gobaith a hefyd buom yn arwain cymal cyntaf Gŵyl Gerdded Ynys Môn, gyda 47 ohonom yn cymryd rhan."

Er mai swydd ran-amser yw hon, mae John yn cael cryn lwyddiant wrth ddenu dynion a merched, yn ogystal â bechgyn a genethod, i ryngweithio gyda’i gilydd mewn amgylchedd heb fod yn rhy gystadleuol.

Mae’r gweithgareddau wedi cael eu cynnal ochr yn ochr â Chlwb Cinio Amlwch a Sefydliad y Merched Amlwch ac rydym wedi cynnig bowlio a dawns, ac mae Grŵp Amlwch o Ddysgwyr Cymraeg wedi bod yn chwarae badminton, yn cerdded ac yn bowlio. Hefyd, mae staff Ysgol Gynradd Amlwch wedi bod yn gollwng stêm gyda sesiynau bocsarfer.

Mae tîm pêl droed newydd Amlwch ar gyfer y Gynghrair Sul wedi cael dechrau da ac, yn eu hail flwyddyn yn unig, cafwyd presenoldeb da ar deithiau cerdded hir a byr Hyrwyddwyr Cymunedol Amlwch dros gyfnod y Nadolig, gyda 27 o bobl yr ynys yn cymryd rhan, gan godi £50 ar gyfer Tŷ Gobaith.

Hefyd, cynhaliodd Hyrwyddwyr Cymunedol Amlwch daith gerdded Nadolig "Camu Allan" eleni, gyda 100 o bobl yr ynys yn mwynhau’r golygfeydd godidog sydd i’w gweld ar hyd Llwybr Arfordirol Ynys Môn.

Hyd yma, mae John wedi ysgogi gwirfoddolwyr dirifedi i ennill cymwysterau, i’r graddau fel bod ganddo bellach chwe arweinydd cerdded, naw swyddog cymorth cyntaf, dau arweinydd pêl droed ac un gwirfoddolwr arall yn ennill cymwysterau hyfforddi ar hyn o bryd.

Yn ychwanegol at y campau hyn, mae brwdfrydedd diflino John wedi ysbrydoli un o’r Hyrwyddwyr Cymunedol i gyflawni pethau mawr iawn. Enillodd Wilf Sharpe, 67, o Borth Llechog deitl Gwirfoddolwr y Flwyddyn 2008 yng Ngwobrau Chwaraeon Ynys Môn fis Tachwedd.

Meddai Wilf, "Roedd y wobr yn syndod mawr i mi ac yn annisgwyl iawn oherwydd y cyfan rwyf i wedi bod yn ei wneud yw mwynhau fy hun. Fe ddechreuais helpu ddwy neu dair blynedd yn ôl, hefo John. Roeddwn i a ffrind i mi’n cerdded llawer yn lleol ac yna dyma ddechrau mynd yng nghwmni John a’i griw cerdded ac yna fe ddechreuais helpu gyda’r pêl droed a’r rownderi. Mae pawb yn cyd-wneud yn arbennig o dda ac yn cael llawer o hwyl. I mi, fe agorodd ddrws newydd ac fe ddechreuais gymryd rhan mewn pethau newydd yn y gymuned."

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Ein nod ni yw cael mwy o bobl yng Nghymru i fod yn fwy egnïol yn amlach. Diben y prosiect Hyrwyddwyr Cymunedol yw defnyddio sgiliau unigolion unigryw yn ein cymunedau i sefydlu cyfleoedd corfforol ar gyfer oedolion, grwpiau segur a theuluoedd."