ROBINSON WEDI’I HUDO GAN GAMPAU’R DDRAIG I GAEL PLANT ALLAN AR Y CAE

22 Ion 2009

Wedi sicrhau lle yn rowndiau gogynderfynol Cwpan Heineken gyda pherfformiad rhagorol yn erbyn Caerloyw y penwythnos diwethaf, mae rhif 10 Gleision Caerdydd, Nicky Robinson, yn camu ymlaen i annog plant i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Hanerwr rhagorol Gleision Caerdydd, Nicky Robinson, 27, yw’r diweddaraf o blith llu o sêr y byd chwaraeon yng Nghymru i fod yn Llysgennad i Gampau’r Ddraig, gan ddilyn yn ôl troed ei gyd-chwaraewyr rygbi, Gavin Henson a James Hook, cricedwr buddugol yng Nghyfres y Lludw, Simon Jones a seren chwaraeon Paralympaidd Cymru, Y Fonesig Tanni Grey-Thompson.

Mae 94% o ysgolion cynradd ledled Cymru’n ymwneud â chynllun Campau’r Ddraig, a ariennir gan y loteri – ymgyrch fwyaf Cymru erioed i gael plant ysgolion cynradd i fwynhau chwaraeon y tu allan i oriau ysgol – gyda chyfleoedd pellach yn cael eu cynnig gan tua 800 o glybiau y tu allan i’r ysgol.

Wedi’i eni a’i fagu yng Nghaerdydd, dilynodd Robinson yn ôl troed ei gyd-chwaraewr gyda’r Gleision a’i frawd hŷn, Jamie, drwy ymddangos yn rheolaidd gyda’i dîm cartref ar lefel Ieuenctid Caerdydd a Dan 21. Ers chwarae am y tro cyntaf ym myd rygbi hŷn ar ddiwedd tymor 2000/01, mae wedi sgorio 656 o bwyntiau gan sicrhau iddo deitl Prif Sgoriwr y Clwb a chyfrannu at ei 12 galwad i fod yn rhan o sgwad Cymru.

Wedi tyfu i fyny’n teimlo’n angerddol ynghylch rygbi, mae’r rhif 10 talentog yn awyddus i daclo ieuenctid Cymru drwy eu hannog i ddilyn yn ôl ei droed a chydio mewn pêl a chwarae.

"Er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus i chwaraeon yng Nghymru, mae’n hanfodol ein bod yn meithrin yr un math o angerdd dros chwaraeon a gweithgarwch ymhlith ieuenctid fel a deimlais i wrth dyfu i fyny, a dyna pam fy mod wrth fy modd yn ymwneud â chynllun Campau’r Ddraig.

"Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i blant gymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol mewn amgylchedd sy’n hwyl a gyda phobl sy’n gwybod beth maen nhw’n ei wneud, ac ni fyddent yn cael y cyfle yma fel arall o bosibl. Po fwyaf o blant sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon o oed ieuainc, po ehangaf fydd y sylfaen a bydd safon dynion a merched y byd chwaraeon yn y dyfodol yn well."

Meddai’r Cynghorydd Nigel Howells, Aelod Gweithredol dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant:

"Mae’r Cyngor yn falch o weld bod eu partneriaeth drwy gyfrwng Sport.Cardiff gyda Gleision Caerdydd wedi galluogi i Gampau’r Ddraig gael ei ymestyn. Bellach mae gan Sport.Cardiff 87 o ysgolion yn ymwneud â rhaglen Campau’r Ddraig, sydd wedi helpu i drawsnewid chwaraeon ysgol ar lefel iau."

Meddai Philip Carling, Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, i groesawu Robinson yn rhan o’r cynllun:

"Rydym yn eithriadol falch o allu croesawu Nicky’n llysgennad ar gyfer cynllun Campau’r Ddraig. Gan fod Gornest y Chwe Gwlad ar fin dechrau, rydym yn gobeithio y bydd bechgyn a merched ar hyd a lled Cymru’n manteisio ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael i gamu ar y cae. Mae Campau’r Ddraig yn gwneud yn llawer gwell na’r disgwyl ac rwy’n falch iawn bod cymaint o ysgolion a chlybiau’n darparu sesiynau chwaraeon hwyliog a diogel ar gyfer plant ysgolion cynradd."

Un o brif amcanion Campau’r Ddraig yw recriwtio a hyfforddi trefnyddion, arweinwyr a hyfforddwyr chwaraeon gwirfoddol i dreulio amser yn cyflwyno ieuenctid i chwaraeon fel rygbi, tenis a hoci – yn enwedig rhieni ac athrawon, sef y gwir arbenigwyr ar ddenu plant allan ar y cae.

Os ydych eisiau gwybod mwy am Gampau’r Ddraig yn eich ardal chi, cysylltwch â’ch awdurdod lleol a gofynnwch am Gydlynydd Campau’r Ddraig neu ewch i www.campau-draig.co.uk

Bydd cefnogwyr ieuainc y Gleision ledled y rhanbarth yn falch iawn o glywed y bydd y Gleision, yn dilyn llwyddiant y gwersylloedd hyfforddi yn ystod y gwyliau y tymor diwethaf, yn cynnal mwy o wersylloedd yn 2009, ar y cyd â Warburtons.

Mae dyddiadau’r gwersylloedd fel a ganlyn -

Hanner Tymor mis Chwefror 17eg, 18fed a 19eg Chwefror 2009 yn Stadiwm Athletau Lecwydd.

Pasg 7fed, 8fed a 9fed Ebrill 2009 yn Stadiwm Athletau Lecwydd a’r 14eg, 15fed a’r 16eg o Ebrill yn Ysgol Uwchradd Pontypridd.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â nadine.griffiths@cardiffblues.com