TEIGROD TRIMSARAN YN LLWYDDIANT YSGUBOL
14 Ion 2009
Bydd mwy o blant yn Nhrimsaran yn cael cyfle i droelli, saethu a sgorio nawr, diolch i hwb ariannol gwerth £1,000 gan y Loteri Genedlaethol drwy gyfrwng Cyngor Chwaraeon Cymru.
Sicrhaodd Tîm Pêl Rwyd Teigrod Trimsaran grant gan y Cyngor Chwaraeon ar gyfer ffurfio tîm pêl rwyd newydd dan 14 oed, pan ddatgelwyd bod plant yn y gymuned eisiau cael cymryd rhan mewn mwy o weithgareddau chwaraeon ar garreg eu drws.
Bydd y cyllid a ddyfarnwyd i’r Teigrod yn cyllido’r gwaith o ddarparu bibiau a pheli newydd, llogi cyfleusterau a chit a thalu i rai o’r aelodau fynychu cyrsiau hyfforddi. Meddai Cadeirydd y Clwb, Shirley Griffiths, "Rydym yn hynod falch o fod wedi derbyn y grant gan y Cyngor Chwaraeon; bydd o gymorth i ni sefydlu gweithgareddau chwaraeon yn yr ardal."
A hefyd meddai Griffiths, sydd â merch fach wyth oed ei hun, "Roedd yn glir oddi wrth yr adborth a gawsom gan y plant lleol, a’r genethod yn arbennig, eu bod eisiau gweld mwy o weithgareddau a chystadlaethau chwaraeon yn cael eu cynnal yn yr ardal. Felly, penderfynodd criw ohonom fel rhieni wneud rhywbeth ynghylch hyn, a ffurfio tîm pêl rwyd newydd.
"Y nod yw darparu mwy o gyfleoedd i bobl ieuainc yn Nhrimsaran a chynyddu’r gweithgarwch corfforol yn yr ardal. Mae sesiynau pêl rwyd wedi’u sefydlu eisoes ac maent yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Trimsaran unwaith yr wythnos. Dylai’r rhai sydd â diddordeb mewn ymuno yn y sesiynau hyn gysylltu â ni."
Os oes gennych chi syniad ar gyfer cael mwy o bobl yn fwy egnïol yn amlach – fe allech sicrhau cymorth grant gan Gyngor Chwaraeon Cymru.
Mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn elwa o gynllun y Gist Gymunedol ers ei sefydlu yn 1999.
O ganlyniad i boblogrwydd a llwyddiant diamheuol y cynllun, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynyddu lefel y grant. Bellach, gall y sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.
Mae sgôp y cynllun wedi ehangu hefyd. Yn draddodiadol, dyfarnwyd grantiau i glybiau a chyrff chwaraeon. Nawr, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sydd eisiau datblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys am ddyfarniad.
Yn ddiweddar, mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn treiddio i feysydd gwaith ychwanegol, fel y sector gwirfoddol (e.e. Clybiau Ieuenctid Gwirfoddol, Sefydliad y Merched) a’r gweithle, yn ogystal â pharhau i gefnogi prosiectau ym maes iechyd ac addysg. Felly tra bydd cyllido’r clwb pêl droed lleol yn cael aelodau ieuengaf y gymuned i gymryd rhan efallai, fe all cefnogi grŵp cerdded annog mwy o oedolion i fod yn egnïol.
Meddair Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Sir Gaerfyrddin. Bydd cynyddu’r cyllid ac ehangu sgôp y cynllun yn cynyddu ei effeithiolrwydd.
"Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Sir Gaerfyrddin i fod yn fwy egnïol yn amlach."