DAWNS Y GLOCSEN YN CAEL BYWYD NEWYDD YN LLANARTHNE

14 Ion 2009

Mae Adran yr Urdd yn Llanarthne wedi diogelu dyfodol dawns y glocsen yng Nghaerfyrddin, wedi cipio grant gwerth £620 gan y Loteri Genedlaethol drwy gyfrwng rhaglen Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru.

Derbyniodd yr Urdd, sef mudiad deinamig ar gyfer plant a phobl ieuainc sy’n trefnu amrywiaeth o wahanol weithgareddau ledled Cymru, gyllid ar gyfer prynu clocsiau i blant a phobl ieuainc yn y gymuned, ac i logi cyfleusterau.

Meddai Rhiannon Dafis, arweinydd Adran yr Urdd yn Llanarthe, "Rydym yn eithriadol ddiolchgar i Gyngor Chwaraeon Cymru am y grant yma, a fydd o gymorth i ni brynu’r offer diweddaraf a denu mwy o bobl ieuainc i Adran yr Urdd. Wedyn, byddwn yn gallu cymryd rhan mewn mwy o gystadlaethau, fel yr Eisteddfod.

"Yn y gorffennol, rydym wedi bod yn gorfod benthyg offer a chlocsiau er mwyn ymarfer a chystadlu a thydi hynny ddim yn ddelfrydol o gwbl. Bydd cael ein hoffer ein hunain o gymorth mawr a bydd yn cynnig sicrwydd i ni fel ein bod yn gallu symud ymlaen, datblygu ac ehangu.

"Ar hyn o bryd, mae gennym ryw 10 o bobl ieuainc yn mynychu sesiynau wythnosol a’r nod yw cynyddu’r nifer hwnnw, yn enwedig y bechgyn rhwng 10 a 18 oed. Rydym eisiau cadw’r grefft arbennig hon yn fyw a bydd y grant a ddyfarnwyd o gymorth i ni wneud hynny."

Os oes gennych chi syniad ar gyfer cael mwy o bobl yn fwy egnïol yn amlach – fe allech sicrhau cymorth grant gan Gyngor Chwaraeon Cymru.

Mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn elwa o gynllun y Gist Gymunedol ers ei sefydlu yn 1999.

O ganlyniad i boblogrwydd a llwyddiant diamheuol y cynllun, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynyddu lefel y grant. Bellach, gall y sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.

Mae sgôp y cynllun wedi ehangu hefyd. Yn draddodiadol, dyfarnwyd grantiau i glybiau a chyrff chwaraeon. Nawr, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sydd eisiau datblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys am ddyfarniad.

Yn ddiweddar, mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn treiddio i feysydd gwaith ychwanegol, fel y sector gwirfoddol (e.e. Clybiau Ieuenctid Gwirfoddol, Sefydliad y Merched) a’r gweithle, yn ogystal â pharhau i gefnogi prosiectau ym maes iechyd ac addysg. Felly tra bydd cyllido’r clwb pêl droed lleol yn cael aelodau ieuengaf y gymuned i gymryd rhan efallai, fe all cefnogi grŵp cerdded annog mwy o oedolion i fod yn egnïol.

Meddair Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Sir Gaerfyrddin. Bydd cynyddu’r cyllid ac ehangu sgôp y cynllun yn cynyddu ei effeithiolrwydd.

""Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Sir Gaerfyrddin i fod yn fwy egnïol yn amlach."