HYFFORDDWR BOCSIO CENEDLAETHOL YN BOSITIF YNGHYLCH
9 Ion 2009
Mae prif hyfforddwr bocsio Cymru’n credu mai dim ond mater o amser yw hi nes bod ‘cawr cwsg’ y byd bocsio elitaidd yng Ngogledd Cymru’n deffro i sylweddoli ei botensial aruthrol.
Mae’r Hyfforddwr Bocsio Cenedlaethol, Tony Williams, a’i Hyfforddwr Cenedlaethol Cynorthwyol, Colin Jones, yn teithio o’u canolfan yn Ne Cymru i gymeradwyo dyrchafiad deg hyfforddwr llawn a 35 o hyfforddwyr cynorthwyol i rengoedd hyfforddi Cymru yn Gym Sparta, Prestatyn, y penwythnos hwn. Bydd yr hyfforddwyr yn gorfod gweithio’n galed gan arddangos technegau cymorth cyntaf, gwaith pad ac ymarferion diogel mewn ymgais i ennill eu cymwysterau hyfforddi swyddogol.
Fe all y criw mawr yma o hyfforddwyr fod yn arwydd o wawr newydd yn y byd bocsio yng Ngogledd Cymru ac mae’r sylw manwl gan ddau o brif hyfforddwyr Cymru’n awgrymu pa mor bwysig yw datblygu talent focsio yng Ngogledd Cymru i CFAC (Cymdeithas Focsio Amatur Cymru). Un bocsiwr sy’n prysur greu enw da iawn iddo fo’i hun ymhlith y rhengoedd amatur yng Nghymru yw’r llanc 25 oed, Andrew Jones, uwch-bwysau trwm, sy’n bocsio i Ganolfan Focsio Deva yn Saltney – clwb sydd wedi derbyn cefnogaeth ariannol o hyd at £9,520 gan Gyngor Chwaraeon Cymru. Mae’n cael ei gefnogi hefyd gan Athrofa Chwaraeon Gogledd Cymru, sef rhwydwaith o gyfleusterau, darparwyr gwasanaeth a hyfforddwyr sy’n cydweithio i sicrhau bod athletwyr elitaidd a thalentog Gogledd Cymru’n cael y cyfle gorau posibl i gyflawni eu potensial.
Meddai’r Hyfforddwr Bocsio Cenedlaethol, Tony Williams,
"Rwy’n credu bod gennym gawr cwsg yn y byd bocsio yng Ngogledd Cymru. Mae’r dalent yna, gydag Andy Jones, a wnaeth yn dda yn y cystadlaethau Ewropeaidd yn Lerpwl nes colli yn y rownd olaf, er yn agos iawn at y Rwsiad (Denis Sergeev, a drechwyd yn y rownd derfynol). Mae o’n addawol iawn ac fe gyrhaeddodd dau fachgen arall o Ogledd Cymru rownd derfynol y DG.
"Rwy’n credu y bydd yr arholiadau hyn yn gwneud byd o les i focsio yng Ngogledd Cymru. Os oes gennych chi 30 o fechgyn mewn gym, mae synnwyr yn dweud na allwch chi eu hyfforddi nhw i gyd ar eich pen eich hun, felly bydd y bechgyn yn elwa’n sicr o gael mwy o hyfforddwyr o’u cwmpas. A dyma’r nifer fwyaf o bobl rydym wedi’u cael ar un tro yn mynd am gymwysterau hyfforddi.
"Pe baech chi wedi gofyn i mi am Gryfder a Siapio rai blynyddoedd yn ôl, dwi ddim yn siwr fyddwn i’n gallu sillafu’r geiriau, ond cyfleusterau felly, diolch i Gyngor Chwaraeon Cymru ac, yn arbennig, Athrofa Chwaraeon Gogledd Cymru ar gyfer bocswyr Gogledd Cymru, sydd wedi gwneud y gwir wahaniaeth. Rydym wedi datblygu o ennill pedwar neu bump medal rai blynyddoedd yn ôl i gipio 39 eleni."
Ymhlith perfformiadau disglair bocswyr Cymru yn 2008 roedd y bachgen o’r Barri, Daniel Chapman, yn cipio’r aur yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Pune yn yr India ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf ac Andrew Selby, o bentref Blaengwynfi ger Castell-nedd, yn sicrhau lle iddo’i hun yn y llyfrau hanes fel y bocsiwr hŷn cyntaf o Gymru i ennill medal yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd – ’wnaeth Calzaghe hyd yn oedd ddim llwyddo i wneud hynny!
Ni all bocswyr Cymru ofyn am fodel rôl mwy ysbrydoledig na’r Hyfforddwr Cenedlaethol Cynorthwyol, Colin Jones, chwaith. Ganed Jones y Punch ar 21 Mawrth 1959 yng Ngorseinon, Abertawe, ac roedd yn focsiwr pwysau welter dros Gymru, gan gynrychioli Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Haf 1976 ym Montreal, Canada.
Ef oedd y bocsiwr ieuengaf o Brydain i gymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd nes i Amir Khan ymddangos yng Ngemau Olympaidd Haf 2004 a gellir dadlau mai ef oedd y pwysau welter cryfaf ei ergyd yn ei genhedlaeth, gan allu cnocio bocswyr allan gydag un ergyd gan ddefnyddio’r naill law neu’r llall.
Mae oddeutu 100 o glybiau’n perthynas i CFAC ledled Cymru, gyda thua 4,600 o aelodau a swyddogion.