CAMP YMLADD O FRASIL YN PROFI’N BOBLOGAIDD YMHLITH IEUENCTID YNYS MÔN
16 Rhag 2008
Mae camp o Frasil ar y cyd â rhaglen 5x60 Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cynorthwyo ieuenctid Ynys Môn i gadw’n heini.
Camp ymladd ar ffurf dawns yw Capoeira, yn tarddu o Frasil ac wedi’i datblygu o draddodiadau Affricanaidd. Cyrhaeddodd Brasil gyda’r caethweision a dyma’r ysbrydoliaeth wreiddiol ar gyfer torddawnsio, wedi ei chyflwyno i America ac Ewrop yng nghanol y 1970au. Mae’n cynnwys dawns, chwaraeon ymladd, cerddoriaeth, athroniaeth a theatreg. Yn anghyfreithlon ym Mrasil tan y 1930au, mae Capoeira bellach yn boblogaidd yn fyd-eang.
Mae ugain o ddisgyblion o Ysgol David Hughes yn mynychu sesiynau wythnosol yn rheolaidd ac mae 40 o ddisgyblion eraill eisiau rhoi cynnig arni hefyd. Dim ond lle i 20 o bobl sydd yn eu stiwdio ddawns ac felly cyflwynir mwy o sesiynau er mwyn darparu ar gyfer y galw mawr. Mae pedwar disgybl wedi cymryd at y gelfyddyd Samba gymaint fel eu bod wedi mynd gam ymhellach ac ymuno â chlwb cymunedol.
Meddai Swyddog Pobl Ieuainc Egnïol Cyngor Sir Ynys Môn, Barry John Edwards,
"Mae’r sesiynau 5x60 yn Ysgol David Hughes yn cynyddu o ran niferoedd wythnos ar ôl wythnos. Y gweithgareddau amrywiol, fel Capoeira, dawnsio stryd, pêl fasged, badminton, caiacio, canŵio a dringo sy’n sicrhau bod y cynllun 5x60 yn creu amrywiaeth eang o weithgareddau ar gyfer amrywiaeth eang o ddisgyblion. Gan weithio ochr yn ochr â Dawns i Bawb a Phartneriaeth Awyr Agored Gogledd Cymru, sicrheir cyfleoedd gwych i ddisgyblion 5x60."
Mewn Capoeira, mae dau gyfranogwr yn ceisio cael y gorau ar ei gilydd gyda gwaith troed athletig a champau acrobatig yng nghanol cylch o bobl. Mae’r Capoeiristas yn cymryd rhan mewn gêm o gath a llygoden, gan symud o gwmpas a cheisio cornelu eu gwrthwynebydd i’w atal rhag cwblhau symudiad. Mae natur a chyflymdra’r ddawns yn cael ei reoli’n llwyr gan rythm y gerddoriaeth.
Cyflwynir y sesiynau Capoeira fel rhan o raglen 5x60 ar Ynys Môn gan y cwmni dawns, Dawns i Bawb – y sefydliad ymbarél ar gyfer dawnsio cymunedol yng Ngogledd Orllewin Cymru. Mae’r cwmni o Gaernarfon yn gweithio gyda phobl leol, gan ddefnyddio dawnswyr a choreograffyddion amatur a phroffesiynol i annog dawnsio yn yr ardal.
Yn siarad am eu hymwneud â’r rhaglen 5x60, yn cyflwyno Capoeira i ieuenctid Ynys Môn, meddai Cyfarwyddwr Dawns i Bawb, Karine Décorne,
"Mae Dawns i Bawb yn hynod falch o fod yn rhan o’r rhaglen 5x60 ac o’r diddordeb mae Capoeira wedi’i ennyn yn Ysgol David Hughes. Dim ond ychydig o arbenigwyr ar y gamp a geir yng Nghymru ac rydym yn ffodus iawn bod un o’r goreuon yn rhan o’n tîm ni. Mae torddawnsio a dawnsio hip-hop, sef dau arddull dawnsio poblogaidd iawn ymhlith pobl ieuainc, yn tarddu o ddawnsio Capoeira. Mae Capoeira’n weithgaredd ffantastig, nid yn unig i gadw’n heini ond hefyd i ddysgu am ddiwylliant cwbl wahanol."