IEUENCTID YNYS MÔN YN MWYNHAU GWEITHGAREDDAU ANTUR
16 Rhag 2008
Cafodd disgyblion ysgol ar Ynys Môn gyfle i roi cynnig ar weithgareddau awyr agored a oedd yn ddigon i wneud i Ray Mears grïo’n ddiweddar, diolch i Gyngor Chwaraeon Cymru ac Uned Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir Ynys Môn.
Mwynhaodd yr ieuenctid o Ysgol Uwchradd Caergybi ac Ysgol David Hughes bedwar diwrnod o hyfforddiant llawn antur ac ymarferion adeiladu tîm, yn cynnwys abseilu, canŵio, hwylio, dringo creigiau a sesiwn ar y cwrs rhaffau uchel 60 troedfedd. Anelwyd y gweithgareddau at roi hwb i hyder yr unigolion a’u dysgu i ymddiried yn ei gilydd. Hefyd, buont yn cydweithio i wneud tân yn eu gwersyll, gan dostio marshmallows wedyn yn ei wres, i ddathlu.
Ar y cyd â chynllun 5x60 Llywodraeth Cynulliad Cymru a Phartneriaeth Awyr Agored Gogledd Cymru, mae Swyddog Pobl Ieuainc Egnïol Ynys Môn, Barry John Edwards, a’r Swyddog Gweithgareddau Awyr Agored, Simon Jones, wedi cyflwyno’r sesiynau yng Nghanolfan Conway, Llanfairpwll.
Meddai Barry John Edwards, "Mae gweithio gyda Simon Jones o’r Bartneriaeth Awyr Agored, gan ddarparu profiad o addysg awyr agored ar gyfer y disgyblion 5x60, wedi eu galluogi i brofi gweithgareddau newydd na fyddent wedi cael cyfle i gymryd rhan ynddynt oni bai am gynlluniau o’r fath."
Mae Ysgol Uwchradd Caergybi ac Ysgol David Hughes yn aelodau newydd o raglen 5x60 Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Ynys Môn. Nod y rhaglen a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru yw cael disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru – yn enwedig y disgyblion nad ydynt yn cymryd rhan fel rheol – i fod yn fwy egnïol yn amlach. Mynychir sesiynau badminton yn Ysgol David Hughes gan 85 o ddisgyblion yn wythnosol ac mae gweithgareddau amrywiol eraill fel dawnsio stryd, pêl fasged, bocsarfer, hyfforddiant cylchedau, camp ymladd o Frasil a dawns o Capoeira i gyd wedi profi’n boblogaidd.
Meddai Barry wedyn, "Wedi ychydig fisoedd yn unig, mae’r cynllun 5x60 wedi magu gwreiddiau, mae’r sesiynau’n llawn disgyblion ysgol bob amser cinio ac ar ôl ysgol ac mae’r cyfleoedd ychwanegol a gynigir drwy gyfrwng y cynllun 5x60 yn targedu ei gynulleidfa allweddol tra hefyd yn hybu pwysigrwydd iechyd a ffitrwydd a rhoi sylw i ordewdra.
"Drwy weithio ochr yn ochr â chlybiau a Chyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol amrywiol, does dim amheuaeth y bydd y cynllun 5x60 yn cael effaith hynod bositif ar fywydau cannoedd ar filoedd o ddisgyblion."
Mae’n fwriad gan y rhaglen 5x60 gyfrannu’n sylweddol at darged Llywodraeth Cynulliad Cymru o sicrhau bod 90% o ddisgyblion ysgolion uwchradd yn cymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos erbyn 2020. Y nod yw cael gwared ar ordewdra drwy wneud chwaraeon yn hwyl ac yn bleserus i bawb, tra hefyd yn targedu sgiliau allweddol fel gwaith tîm ac ymdrech.