CYLLID YN ARWAIN AT EHANGU CYFLYM MEWN CLWB CANŴIO A CHAIACIO
20 Tach 2008
Mae trefnwyr clwb chwaraeon rhwyfo yng Ngwynedd mewn hwyliau da wedi i gyllid y Loteri Genedlaethol eu helpu i ehangu a chroesawu mwy o aelodau.
Mae Clwb Padlo Blaenau wedi derbyn £1000 i’w alluogi i ddal ati i ddarparu’r sesiynau canŵio a chaiacio ar gyfer plant ac oedolion. Bydd y cyllid yn mynd tuag at logi cyfleusterau ym Mhwll Nofio Blaenau Ffestiniog er mwyn darparu sesiynau pwll wythnosol gyda chymhorthdal fel rhan o raglen y gaeaf, i gael y bobl leol i gymryd rhan mewn chwaraeon rhwyfo am bris fforddiadwy.
Y gaeaf diwethaf, cynhaliodd y clwb sesiynau blasu Cymunedau yn Gyntaf ac Antur Stiniog ar gyfer oedolion a phlant, ac maent wedi bod yn orlawn, er mawr foddhad i’r trefnyddion. Cynhaliwyd hefyd ddiwrnod cymunedol ar Gronfa Ddŵr Tanygrisiau ym mis Awst, gan ddenu 50 o bobl o bob oed i roi cynnig ar rwyfo canŵ neu gaiac. Bydd y sesiynau newydd, ychwanegol hyn yn darparu ar gyfer y galw uchel ac yn eu galluogi i ddarparu sesiynau ar gyfer bron i 50 o aelodau, yn cynnwys cyfranogwyr anabl. Hefyd, bydd y cyllid o gymorth i bedwar hyfforddwr pellach ennill safonau hyfforddi perthnasol.
Meddai ysgrifennydd Clwb Padlo Blaenau, Katherine Garwood, "Yn economaidd, gwelwyd dirywiad yn y Blaenau yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf a chyfeirir at y dref fel un ‘wedi’i hesgeuluso gyda lefel uchel o ddiweithdra.’ Nid yw’r gymuned ym Mlaenau Ffestiniog yn gallu cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau awyr agored yn lleol oherwydd prinder offer a thiwtoriaid. Rydym eisiau hybu ffordd o fyw iach, her, hwyl a hunanfoddhad – y pethau a gyflawnir wrth gymryd rhan mewn chwaraeon rhwyfo.
"Rydym eisiau codi proffil gweithgareddau awyr agored yn yr ardal, datblygu cyfleoedd fforddiadwy, hyfforddi hyfforddwyr Cymraeg eu hiaith, datblygu cysylltiadau ag addysg ac efelychu ar y dŵr y gwaith da y mae clybiau eraill yn ei wneud ar wynebau creigiau, traciau beicio a mynyddoedd Gwynedd.
"Mae dŵr gwyn rhagorol ar gael yn y sir, ymhlith y gorau ym Mhrydain, ac mae’n rhaid i’r bobl leol ddatblygu sgiliau i hybu’r safle fel atyniad twristaidd, gan helpu i adfywio’r economi leol a darparu cyfleoedd hirdymor ar gyfer cyflogaeth leol yn y diwydiant chwaraeon a hamdden."
Ers sefydlu cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Gwynedd. Bydd cynyddu’r cyllid ac ehangu sgôp y cynllun yn cynyddu ei effeithiolrwydd.
"Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Gwynedd i fod yn fwy egnïol yn amlach."
O ganlyniad i boblogrwydd a llwyddiant diamheuol y cynllun, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynyddu lefel y grant. Bellach, gall y sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.
Mae sgôp y cynllun wedi ehangu hefyd. Yn draddodiadol, dyfarnwyd grantiau i glybiau a chyrff chwaraeon. Nawr, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sydd eisiau datblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys am ddyfarniad.
Yn ddiweddar, mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn treiddio i feysydd gwaith ychwanegol, fel y sector gwirfoddol (e.e. Clybiau Ieuenctid Gwirfoddol, Sefydliad y Merched) a’r gweithle, yn ogystal â pharhau i gefnogi prosiectau ym maes iechyd ac addysg. Felly tra bydd cyllido’r clwb pêl droed lleol yn cael aelodau ieuengaf y gymuned i gymryd rhan efallai, fe all cefnogi grŵp cerdded annog mwy o oedolion i fod yn egnïol.
I ddileu’r rhwystrau ac i sefydlu eich prosiect, ffoniwch swyddfa ranbarthol Cyngor Chwaraeon Cymru:
Gogledd Cymru: 0845 045 0908
Neu ewch i www.cyngor-chwaraeon-cymru.org.uk