POBL DWYFOR YN DRINGO’N UWCH, DIOLCH I GYLLID

20 Tach 2008

Mae pobl Dwyfor, yn hen ac ifanc, yn dringo’n uwch wedi i glwb gweithgareddau awyr agored newydd sicrhau cyllid gan Gyngor Chwaraeon Cymru.

Mae Clwb Antur Dwyfor wedi derbyn £993 o gyllid y Loteri Genedlaethol drwy gyfrwng cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru, i ffurfio clwb dringo newydd ar gyfer plant ac oedolion yn yr ardal. Y gobaith yw y bydd y sesiynau dechreuol, a fydd yn gwneud defnydd o’r wal ddringo newydd yng Nghanolfan Hamdden Dwyfor, yn arwain at ddiddordeb pellach, gan alluogi i’r clwb drefnu sesiynau awyr agored unwaith y mae strwythurau aelodaeth a hyfforddi gwirfoddol wedi’u sefydlu.

Mae’r clwb yn derbyn cefnogaeth sylweddol gan sawl partner, yn cynnwys cyllid gan Gymunedau yn Gyntaf (Cyngor Gwynedd) ar gyfer llogi cyfleusterau a chan y Bartneriaeth Awyr Agored ar gyfer addysgu hyfforddwyr, i anfon dau wirfoddolwr ar gyrsiau dringo. Bydd cyllid y Gist Gymunedol yn darparu i’r clwb gyllid i brynu offer dringo, fel carabinas a harneisiau, a hefyd i dalu ffïoedd hyfforddwyr y clwb, tra bo’u gwirfoddolwyr a’u haelodau hwy eu hunain yn ennill cymwysterau.

Meddai Ysgrifennydd Clwb Antur Dwyfor, John G. Owen, "Mae’r cyllid ar gyfer cynnig cyfleoedd i bobl ieuainc fynd allan i’r awyr agored a mwynhau’r gweithgareddau sydd ar gael iddynt yma yng Ngogledd Cymru. Does dim clwb arall fel hwn yn bodoli yn ardal Dwyfor ac mae’r adnoddau awyr agored yng Ngwynedd yn cael eu tanddefnyddio gan y gymuned leol. Mae llawer o bobl o Loegr yn dod yma ond dydi’r bobl leol ddim yn mynd allan ryw lawer. Rydym eisiau datrys hynny drwy greu mwy o ymwybyddiaeth a chael y plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored o oedran cynnar."

Yn y diwedd, mae’r trefnyddion yn gobeithio ehangu i wahanol weithgareddau, a darparu tripiau dydd i leoliadau dan do fel Canolfan Ddringo Beacon a chynnig cyfleoedd dringo awyr agored.

Ers sefydlu cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Gwynedd. Bydd cynyddu’r cyllid ac ehangu sgôp y cynllun yn cynyddu ei effeithiolrwydd.

"Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Gwynedd i fod yn fwy egnïol yn amlach."

O ganlyniad i boblogrwydd a llwyddiant diamheuol y cynllun, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynyddu lefel y grant. Bellach, gall y sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.

Mae sgôp y cynllun wedi ehangu hefyd. Yn draddodiadol, dyfarnwyd grantiau i glybiau a chyrff chwaraeon. Nawr, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sydd eisiau datblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys am ddyfarniad.

Yn ddiweddar, mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn treiddio i feysydd gwaith ychwanegol, fel y sector gwirfoddol (e.e. Clybiau Ieuenctid Gwirfoddol, Sefydliad y Merched) a’r gweithle, yn ogystal â pharhau i gefnogi prosiectau ym maes iechyd ac addysg. Felly tra bydd cyllido’r clwb pêl droed lleol yn cael aelodau ieuengaf y gymuned i gymryd rhan efallai, fe all cefnogi grŵp cerdded annog mwy o oedolion i fod yn egnïol.

I ddileu’r rhwystrau ac i sefydlu eich prosiect, ffoniwch swyddfa ranbarthol Cyngor Chwaraeon Cymru:

Gogledd Cymru: 0845 045 0908

Neu ewch i www.cyngor-chwaraeon-cymru.org.uk