CHESHIRE JETS YN CREU LLWYDDIANT CYMUNEDOL

20 Tach 2008

Unwaith eto mae BiG Storage Cheshire Jets yn arwain y gwaith o gyflwyno Strategaeth Ffordd o Fyw Iach i blant ysgol lleol ledled Sir y Fflint a Gogledd Cymru, diolch i gefnogaeth gan Gyngor Chwaraeon Cymru.

Lansiwyd y rhaglen ‘Cylchoedd er Iechyd’ gan y BIG Storage Cheshire Jets fis Medi 2007 ac mae wedi llwyddo oherwydd yn 2008/2009 bydd BiG Storage Cheshire Jets yn cyflwyno ‘Cylchoedd er Iechyd’ i 120 o ysgolion, mewn partneriaeth â Heddlu Sir Gaer.

Prif amcan y cynllun yw cyflwyno rhaglen fyw’n iach drwy gyfrwng modelau rôl proffesiynol o’r byd chwaraeon, gan ddefnyddio pêl fasged fel y gweithgaredd i gyfathrebu amrywiaeth o negeseuon iechyd positif i’r bobl ieuainc yn yr ysgolion cynradd.

Prif ffocws yr addysg a’r gweithredu corfforol yw:-

- Maeth iach
- Rhoi’r gorau i ysmygu
- Pwysigrwydd cadw’n heini a chyswllt hynny â chalon iach
- Rheolaeth ar alcohol
- Ffitrwydd corfforol yn cael ei arddangos drwy gyfrwng pêl fasged – yn cynnwys hyfforddiant a chynnwys tîm ysgol yn y gystadleuaeth bêl fasged leol

Daw’r rhaglen i ben fis Mai pryd bydd enillydd cyffredinol rownd derfynol Caer yn symud ymlaen i rownd derfynol genedlaethol y ‘Cylchoedd er Iechyd’ yn yr NIA yn Birmingham, i gystadlu o flaen mwy na 7,000 o gefnogwyr pêl fasged.

Eleni, bydd 120 o ysgolion ledled y Gogledd Orllewin yn cael cyfle i gyflwyno tîm i’w cynrychioli yn y rownd derfynol genedlaethol yn Birmingham.

Yn cael ei gyflwyno’n broffesiynol gan chwaraewyr allweddol y BiG Storage Cheshire Jets, mae’r cynllun, sydd wedi derbyn grant gwerth £20,000 gan Sportsmatch Cymru – cynllun denu nawdd gan fusnes Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer chwaraeon yng Nghymru ac a reolir gan Gyngor Chwaraeon Cymru – yn cael ei gyflwyno y tymor hwn mewn ysgolion ledled Sir y Fflint a Gogledd Cymru.

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Gyda chyllid a chefnogaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Loteri Genedlaethol, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n helpu i drawsnewid y tirlun chwaraeon yng Nghymru. Mae’r buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau cymunedol, offer a hyfforddwyr wedi cael effaith ar gymunedau ledled y wlad ac mae’n helpu i gynyddu cyfraddau cymryd rhan yn gyffredinol.

"Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau da a fydd yn ein helpu i barhau â’n nod o gael mwy o bobl yng Nghymru i fod yn fwy egnïol yn amlach."

Gyda materion iechyd yn rheoli agenda’r Llywodraeth, mae’r rhaglen ‘Cylchoedd er Iechyd’ yn prysur ennill cefnogaeth y Cynghorau Lleol a’r Gwasanaethau Tân ac Achub.