CYLLID O GYMORTH I GLWB GYMNASTEG YNYS MÔN
6 Tach 2008
Mae cefnogaeth gan Gyngor Chwaraeon Cymru wedi bod o gymorth mawr i Glwb Gymnasteg Ynys Môn, gan sicrhau bod ei hyfforddwyr gam yn nes at ennill cymwysterau hyfforddi newydd.
Bydd grant gwerth £700 gan y Gist Gymunedol o gymorth i Glwb Gymnasteg Ynys Môn anfon dau riant ar gwrs Gymnasteg THDG (Tystysgrif Hyfforddi’r DG) a bydd yn talu am aelodaeth o Gymnasteg Prydain a Chymru.
Mae’r clwb yn hyfforddi 40 o enethod deirgwaith yr wythnos yng Nghanolfan Chwaraeon Maes Glas ym Mangor. Mae’r trefnyddion yn gobeithio y bydd y ddarpariaeth hyfforddi newydd yn darparu mwy o amser hyfforddi i gymnastwyr ac yn denu mwy o ieuenctid at y gamp.
Meddai Ysgrifennydd Clwb Gymnasteg Ynys Môn, Ellen Williams, "Rydym yn bwriadu cynyddu nifer yr hyfforddwyr cymwys yn y clwb er mwyn eu helpu gyda chyfranogiad cynyddol ac i gymryd lle hyfforddwyr eraill.
"Ar hyn o bryd, mae gennym rieni sy’n awyddus i helpu yn y clwb ond er mwyn sicrhau diogelwch y cyfranogwyr, mae’n ddymunol iddynt fynychu cyrsiau hyfforddi ac ennill cymwysterau perthnasol."
Ers sefydlu cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Ynys Môn. Bydd cynyddu’r cyllid ac ehangu sgôp y cynllun yn cynyddu ei effeithiolrwydd.
"Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Ynys Môn i fod yn fwy egnïol yn amlach."
O ganlyniad i boblogrwydd a llwyddiant diamheuol y cynllun, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynyddu lefel y grant. Bellach, gall y sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.
Mae sgôp y cynllun wedi ehangu hefyd. Yn draddodiadol, dyfarnwyd grantiau i glybiau a chyrff chwaraeon. Nawr, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sydd eisiau datblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys am ddyfarniad.
Yn ddiweddar, mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn treiddio i feysydd gwaith ychwanegol, fel y sector gwirfoddol (e.e. Clybiau Ieuenctid Gwirfoddol, Sefydliad y Merched) a’r gweithle, yn ogystal â pharhau i gefnogi prosiectau ym maes iechyd ac addysg. Felly tra bydd cyllido’r clwb pêl droed lleol yn cael aelodau ieuengaf y gymuned i gymryd rhan efallai, fe all cefnogi grŵp cerdded annog mwy o oedolion i fod yn egnïol.
I ddileu’r rhwystrau ac i sefydlu eich prosiect, ffoniwch swyddfa ranbarthol Cyngor Chwaraeon Cymru:
Gogledd Cymru: 0845 045 0908
Neu ewch i www.cyngor-chwaraeon-cymru.org.uk