CYLLID YN CADW PEN CLWB HWYLIO YNYS MÔN UWCH WYNEB Y DŴR
6 Tach 2008
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi helpu i wireddu uchelgais clwb hwylio a chwaraeon dŵr ar Ynys Môn, gan gyfrannu cyllid y Loteri Genedlaethol ar gyfer cyrsiau hyfforddi.
Bydd grant gwerth £1,000 gan y Gist Gymunedol o gymorth i Glwb Hwylio a Chwaraeon Dŵr Traeth Coch anfon pedwar o bobl ar gyrsiau hyfforddi Lefel 2 i fod yn Hyfforddwyr Dingi a Chychod Pŵer, a bydd chwe hyfforddwr arall yn mynychu cyrsiau cymorth cyntaf.
Ar hyn o bryd, mae’r clwb, sy’n perthyn i Gymdeithas Hwylio Cymru ac sy’n ymarfer yn Nhraeth Bychan a Phlas Menai, yn hyfforddi 12 o enethod a 12 o fechgyn dan 16 oed mewn sesiynau dwywaith yr wythnos, ac mae ganddo nifer sylweddol o oedolion yn aelodau. Mae’n gobeithio y bydd y safonau hyfforddi newydd yn codi safon y sesiynau hyfforddi a gyflwynir i’r aelodau i gyd ac yn cynyddu nifer y bobl leol sy’n ymwneud â hwylio a chwaraeon dŵr ar Ynys Môn.
Meddai Cydlynydd Hwylio’r Ieuenctid, David Griffiths, "Rydym eisiau darparu mwy o hyfforddiant hwylio o safon i blant, ieuenctid ac oedolion. Bydd hyn yn galluogi’r clwb i ehangu ei aelodaeth a’i gyfranogiad mewn gweithgareddau hwylio.
"Mae angen mawr am fwy o hyfforddwyr dingi cymwys fel bod yr hyfforddiant yn cyrraedd safon y Gymdeithas Iotio Frenhinol. Rydym eisiau cael hyd i nifer o gyrsiau i hyfforddwyr dingi ar gyfer morwyr medrus y clwb a hefyd cefnogi cymwysterau eraill."
Ers sefydlu cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Ynys Môn. Bydd cynyddu’r cyllid ac ehangu sgôp y cynllun yn cynyddu ei effeithiolrwydd.
"Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Ynys Môn i fod yn fwy egnïol yn amlach."
O ganlyniad i boblogrwydd a llwyddiant diamheuol y cynllun, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynyddu lefel y grant. Bellach, gall y sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.
Mae sgôp y cynllun wedi ehangu hefyd. Yn draddodiadol, dyfarnwyd grantiau i glybiau a chyrff chwaraeon. Nawr, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sydd eisiau datblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys am ddyfarniad.
Yn ddiweddar, mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn treiddio i feysydd gwaith ychwanegol, fel y sector gwirfoddol (e.e. Clybiau Ieuenctid Gwirfoddol, Sefydliad y Merched) a’r gweithle, yn ogystal â pharhau i gefnogi prosiectau ym maes iechyd ac addysg. Felly tra bydd cyllido’r clwb pêl droed lleol yn cael aelodau ieuengaf y gymuned i gymryd rhan efallai, fe all cefnogi grŵp cerdded annog mwy o oedolion i fod yn egnïol.
I ddileu’r rhwystrau ac i sefydlu eich prosiect, ffoniwch swyddfa ranbarthol Cyngor Chwaraeon Cymru:
Gogledd Cymru: 0845 045 0908
Neu ewch i www.cyngor-chwaraeon-cymru.org.uk