CYFLEOEDD NEWYDD I CHWARAEWYR SBONCEN LLANELWY

28 Hyd 2008

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi dangos cefnogaeth i glwb sboncen newydd i bobl ieuainc yn Sir Ddinbych, gan gynnig cyllid y Loteri Genedlaethol ar gyfer hyfforddiant ac offer.

Bydd grant gwerth £1,000 gan y Gist Gymunedol o gymorth i Glwb Sboncen Iau Llanelwy brynu offer newydd ac anfon hyfforddwr ar gwrs hyfforddi Lefel Dau a thri hyfforddwr arall ar gyrsiau cymorth cyntaf.

Ar hyn o bryd, mae’r clwb, sy’n aelod o Sboncen Cymru ac sy’n ymarfer yng Nghanolfan Hamdden Llanelwy, yn hyfforddi pedair o enethod 8-11 oed a phedwar o fechgyn 9-15 oed yn ystod sesiynau wythnosol 40 munud. Y gobaith, wedi sicrhau safonau hyfforddi uwch, yw gallu dyblu eu haelodaeth a chyflwyno sesiwn ymarfer arall, a’r nod yn y pen draw yw bwydo’r chwaraewyr i dimau sboncen lleol yn ardal Llanelwy.

Meddai’r Hyfforddwr, Arthur Jones, "Rwyf i a’m ffrindiau’n gwneud hyn am ein bod wrth ein boddau gyda’r gamp. Does dim byd gwell na dysgu a gwylio datblygiad sgiliau pobl ieuainc dros gyfnod o amser, a chynnwys pobl ieuainc mewn gweithgarwch corfforol."

Ers sefydlu cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Sir Ddinbych. Bydd cynyddu’r cyllid ac ehangu sgôp y cynllun yn cynyddu ei effeithiolrwydd.

"Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Sir Ddinbych i fod yn fwy egnïol yn amlach."

O ganlyniad i boblogrwydd a llwyddiant diamheuol y cynllun, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynyddu lefel y grant. Bellach, gall y sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.

Mae sgôp y cynllun wedi ehangu hefyd. Yn draddodiadol, dyfarnwyd grantiau i glybiau a chyrff chwaraeon. Nawr, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sydd eisiau datblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys am ddyfarniad.

Yn ddiweddar, mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn treiddio i feysydd gwaith ychwanegol, fel y sector gwirfoddol (e.e. Clybiau Ieuenctid Gwirfoddol, Sefydliad y Merched) a’r gweithle, yn ogystal â pharhau i gefnogi prosiectau ym maes iechyd ac addysg. Felly tra bydd cyllido’r clwb pêl droed lleol yn cael aelodau ieuengaf y gymuned i gymryd rhan efallai, fe all cefnogi grŵp cerdded annog mwy o oedolion i fod yn egnïol.

I ddileu’r rhwystrau ac i sefydlu eich prosiect, ffoniwch swyddfa ranbarthol Cyngor Chwaraeon Cymru:

Gogledd Cymru: 0845 045 0908

Neu ewch i www.cyngor-chwaraeon-cymru.org.uk