AELODAU CLWB COLLI PWYSAU BAE CINMEL YN YMARFER AR EU HEISTEDD
24 Hyd 2008
Mae aelodau clwb colli pwysau ym Mae Cinmel yn cynnal eu pwysau mewn mwy nag un ffordd, gyda sesiynau ymarfer mewn cadair, diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol gan Gyngor Chwaraeon Cymru.
Mae Clwb Heini Cymunedol Bae Cinmel wedi bod yn cynnal wyth o sesiynau awr yr wythnos ar gyfer eu 54 o aelodau ers mis Ionawr 2007. Wedi’i enwi fel un o’r grwpiau colli pwysau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru, mae’r clwb yn bwriadu adeiladu ar ei lwyddiant, diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol a gyflwynwyd drwy gyfrwng menter Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru.
Bydd y grant o £300 yn talu am hyfforddwr i gyflwyno sesiynau blasu 12 wythnos ar gyfer ymarfer mewn cadair. Os bydd y dosbarthiadau’n profi’n boblogaidd, bydd y Clwb Heini’n parhau â dosbarthiadau drwy gyfrwng eu cynllun talebau gweithgarwch. Mae’r clwb wedi datgan bod ymarfer mewn cadair yn flaenoriaeth uchel iddo er mwyn helpu trawsdoriad o’r aelodau, a fyddai’n elwa o ffurf ysgafnach ar ymarfer oherwydd oedran, pwysau neu anabledd.
Mae i ymarferion mewn cadair fanteision penodol fel dull ymarfer. Mae’n sefydlogi gwaelod asgwrn y cefn gan ddarparu sylfaen gadarn, gwell amrediad o symudiad drwy ddarparu pwyntiau i symud a chefnogi a lleihau’r problemau gyda chynnal llwyth a chadw cydbwysedd i’r rhai gyda symudoledd gwan a phoen yn y cymalau.
Meddai Jacqui Richmond, cydlynydd y Clwb Heini, "Byddai dosbarthiadau ymarfer mewn cadair yn galluogi i’r aelodau na fyddent yn gallu manteisio ar y Cynllun Talebau cyfredol i fod yn fwy egnïol wrth iddynt fynd ati i golli pwysau. Mae’n bwysig bod pob aelod o’r grŵp yn cael cyfle cyfartal i gymryd rhan mewn gweithgareddau."
Ers sefydlu cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Conwy. Bydd cynyddu’r cyllid ac ehangu sgôp y cynllun yn cynyddu ei effeithiolrwydd.
"Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Conwy i fod yn fwy egnïol yn amlach."
O ganlyniad i boblogrwydd a llwyddiant diamheuol y cynllun, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynyddu lefel y grant. Bellach, gall y sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.
Mae sgôp y cynllun wedi ehangu hefyd. Yn draddodiadol, dyfarnwyd grantiau i glybiau a chyrff chwaraeon. Nawr, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sydd eisiau datblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys am ddyfarniad.
Yn ddiweddar, mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn treiddio i feysydd gwaith ychwanegol, fel y sector gwirfoddol (e.e. Clybiau Ieuenctid Gwirfoddol, Sefydliad y Merched) a’r gweithle, yn ogystal â pharhau i gefnogi prosiectau ym maes iechyd ac addysg. Felly tra bydd cyllido’r clwb pêl droed lleol yn cael aelodau ieuengaf y gymuned i gymryd rhan efallai, fe all cefnogi grŵp cerdded annog mwy o oedolion i fod yn egnïol.