CLYBIAU HEINI’N HELPU POBL YNYS MÔN I GOLLI PWYSAU
24 Hyd 2008
Rheol gyntaf y Clybiau Heini yw eich BOD yn siarad amdanynt ac wedi canlyniadau llwyddiannus mewn dau grŵp colli pwysau ar Ynys Môn, maent yn awyddus i ledaenu’r gair.
Hefyd, mae canolfannau hamdden Caergybi a Biwmares wedi bod yn cynnal Clybiau Heini Cymunedol wythnosol ers mis Ionawr, diolch i gyllid o £1,000 gan y Loteri Genedlaethol drwy gyfrwng menter Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru. Am £5 yr wythnos, mae’r cyfranogwyr yn cael eu pwyso ac yna maent yn mynychu gweithdy byw’n iach a dau sesiwn gweithgarwch yn y ganolfan. Yna maent yn llunio cofnod personol o’u cynnydd tuag at nodau cytunedig, gan feithrin hyder, gwybodaeth a sgiliau. Mae’r Clwb Heini Cymunedol yn glwb colli pwysau cynaladwy sy’n rhoi pwyslais arbennig ar weithgarwch corfforol i gyd-fynd â chefnogaeth i fwyta a byw yn iach ac i golli pwysau’n ddiogel a chynnal hynny yn yr hirdymor.
Denodd Clwb Heini Cymunedol Biwmares 29 o aelodau, sydd wedi mynychu 156 o sesiynau dros gyfnod o 18 wythnos, gan colli 5 stôn 7 bwys rhyngddynt. Cofrestrodd un ar bymtheg o gyfranogwyr ar gyfer cynllun Caergybi, gan gymryd rhan mewn sesiynau ffitrwydd, nofio ac aerobics a cholli 48 pwys rhyngddynt. Mae disgwyl i Glwb Heini Caergybi barhau oherwydd y galw mawr amdano, gan ddyblu fel llwybr cynnydd ar gyfer y cynllun Heini ar gyfer Bywyd newydd ac, o’r mis yma ymlaen, bydd yn cynnig Aquafit fel opsiwn gweithgarwch.
Mae’r trefnyddion yn gobeithio y bydd rhaglenni’r Clybiau Heini’n cyfrannu’n sylweddol at gynyddu presenoldeb mewn canolfannau hamdden a gwella iechyd y cymunedau lleol ar Ynys Môn.
Meddai Karen Owen, Rheolwr Canolfan Hamdden Biwmares: "Mae lleihau gordewdra a chynyddu cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol yn ganlyniadau alweddol y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ceisio esgor arnynt. Mae’r Clwb Heini Cymunedol wedi cael pobl i fod yn heini, gan feddwl am ddeiet iach a chyfuno hynny gydag ymarfer corfforol. Mae gennym lawer iawn o bobl wedi ymddeol yn y rhan hon o’r ynys ac, ar un adeg, roedd Ynys Môn ymhlith yr ardaloedd gyda’r ffigyrau uchaf o afiechyd y galon yng Nghymru. Rydym drws nesaf i’r ganolfan iechyd ac rydym yn gweithio gyda hwy ac maent yn cyfeirio pobl atom."
Ers sefydlu cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Ynys Môn. Bydd cynyddu’r cyllid ac ehangu sgôp y cynllun yn cynyddu ei effeithiolrwydd.
"Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Ynys Môn i fod yn fwy egnïol yn amlach."
O ganlyniad i boblogrwydd a llwyddiant diamheuol y cynllun, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynyddu lefel y grant. Bellach, gall y sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.
Mae sgôp y cynllun wedi ehangu hefyd. Yn draddodiadol, dyfarnwyd grantiau i glybiau a chyrff chwaraeon. Nawr, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sydd eisiau datblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys am ddyfarniad.
Yn ddiweddar, mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn treiddio i feysydd gwaith ychwanegol, fel y sector gwirfoddol (e.e. Clybiau Ieuenctid Gwirfoddol, Sefydliad y Merched) a’r gweithle, yn ogystal â pharhau i gefnogi prosiectau ym maes iechyd ac addysg. Felly tra bydd cyllido’r clwb pêl droed lleol yn cael aelodau ieuengaf y gymuned i gymryd rhan efallai, fe all cefnogi grŵp cerdded annog mwy o oedolion i fod yn egnïol.