POBL SIR Y FFLINT SYDD WEDI DIODDEF O STRÔC YN DOD AT EI GILYDD AM GEFNOGAETH

24 Hyd 2008

Mae criw o bobl yn Sir y Fflint sydd wedi dioddef o strôc wedi sefydlu eu sesiynau ymarfer wythnosol eu hunain a rhwydwaith cefnogi cymdeithasol, diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol gan Gyngor Chwaraeon Cymru.

Mae Clwb Dioddefwyr Strôc Y Glöynnod Byw, sydd wedi’ i leoli ym Mwcle, wedi sicrhau grant gwerth £1,000 gan y Gist Gymunedol ar gyfer cynnal ugain sesiwn gweithgarwch, yn addas yn benodol i gleifion sydd wedi cael strôc. Mae’r 25 aelod yn y clwb yn cymryd rhan mewn ymarferion ysgafn bob bore dydd Iau, cyn cael cinio ac yna treulio’r prynhawn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, fel dominos, neu wrando ar siaradwyr gwadd yn cynnig cyngor ynghylch eu ffordd o fyw i bobl sydd wedi dioddef o strôc.

Bob blwyddyn, mae tua 150,000 o bobl yn y DG yn cael strôc – un person bob pum munud. Mae’r rhan fwyaf o bobl a effeithir dros 65 oed, ond gall unrhyw un gael strôc ac mae tua 1,000 o bobl dan 30 oed yn cael strôc bob blwyddyn. Mae’r salwch yn y trydydd safle am achosi marwolaethau yn y DG ac mae’n gallu creu anabledd difrifol mewn oedolion. Mae mwy na 250,000 o bobl yn y DG yn byw gydag anableddau wedi’u hachosi gan strôc.

Meddai Brenda Smith, Ysgrifennydd Clwb Dioddefwyr Strôc Y Glöynnod Byw, "Rydym yn dechrau fel grŵp annibynnol yn awr wedi i Wasanaeth Dydd y Gymdeithas Strôc yr oeddem yn ei fynychu fethu sicrhau cyllid i barhau. Rydym wedi elwa cymaint o’r rhaglen ymarfer fel ein bod yn ceisio dal ati ein hunain. Bydd y grant hwn o gymorth i ni wneud hyn ac rydym hefyd yn edrych ar gynnal achlysuron codi arain ein hunain er mwyn codi arian i barhau."

Meddai wedyn, "Yn Sir y Fflint, does fawr ddim i ddioddefwyr strôc ac i rai o’n haelodau, dyma’r unig gyfle i godi allan o’r tŷ. Mae’n rhywbeth cymunedol a chymdeithasol, yn cadw pobl gyda’i gilydd fel nad ydynt yn teimlo ar eu pen eu hunain."

Meddai Leighton Veale o’r Gymdeithas Strôc:

"Mae dim ond 30 munud o weithgarwch bum niwrnod yr wythnos yn ddigon i leihau’r risg o strôc. Mae gweithgarwch corfforol rheolaidd yn helpu i ostwng pwysedd gwaed, yn creu cydbwysedd iach o frasterau yn y gwaed ac yn gwella gallu eich corff i ddelio ag inswlin. Does dim rhaid i chi wneud popeth ar unwaith – mae yr un mor effeithiol ymarfer fwy nag unwaith y dydd, gyda sesiynau o 10, 15 neu 20 munud. Mae ymarfer yn chwarae rhan hanfodol mewn adfer wedi strôc a waeth pa mor anodd yw hi i chi symud, mae modd dal ati i wneud rhai ymarferion syml a fydd yn gwella eich lles yn gyffredinol."

Ers sefydlu cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Sir y Fflint. Bydd cynyddu’r cyllid ac ehangu sgôp y cynllun yn cynyddu ei effeithiolrwydd.

"Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Sir y Fflint i fod yn fwy egnïol yn amlach."

O ganlyniad i boblogrwydd a llwyddiant diamheuol y cynllun, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynyddu lefel y grant. Bellach, gall y sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.

Mae sgôp y cynllun wedi ehangu hefyd. Yn draddodiadol, dyfarnwyd grantiau i glybiau a chyrff chwaraeon. Nawr, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sydd eisiau datblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys am ddyfarniad.

Yn ddiweddar, mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn treiddio i feysydd gwaith ychwanegol, fel y sector gwirfoddol (e.e. Clybiau Ieuenctid Gwirfoddol, Sefydliad y Merched) a’r gweithle, yn ogystal â pharhau i gefnogi prosiectau ym maes iechyd ac addysg. Felly tra bydd cyllido’r clwb pêl droed lleol yn cael aelodau ieuengaf y gymuned i gymryd rhan efallai, fe all cefnogi grŵp cerdded annog mwy o oedolion i fod yn egnïol.