PLANT I FWYNHAU HANNER TYMOR CARIBÎAIDD
21 Hyd 2008
Bydd Canolfan Hamdden y Barri’n troi’n baradwys drofannol yr hanner tymor yma, diolch i Fenter Nofio Am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Bydd offer chwythadwy Caribïaidd ei naws gyda choed palmwydd yn cael eu defnyddio i hwyluso sesiynau hwyliog, am ddim i blant yn ystod wythnos hanner tymor, gan helpu rhieni i leddfu unrhyw ddiflastod.
Mae mwy na £6,000 o gyllid grant drwy gyfrwng Cronfa Wella Nofio Am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cael ei ddefnyddio i brynu offer chwythadwy ar gyfer Canolfannau Hamdden Penarth a’r Barri.
Wedi’u defnyddio am y tro cyntaf yn ystod gwyliau’r haf, dywedir bod y canolfannau wedi profi cynnydd iach yn nifer y plant yn defnyddio’r offer, yn arbennig y rhai rhwng 10 a 15 oed.
Meddai Jamie Morgans, Rheolwr Gwasanaethau Hamdden Cyngor Sir Bro Morgannwg:
"Mae’r offer newydd rydym wedi’i brynu wedi cael croeso brwd gan y plant yn yr ardal – yn arbennig y rhai 10 i 15 oed. Rydym yn credu bod raid i nofio fod mor amrywiol ag y bo modd a dim ond un ffordd arall yw hon o ychwanegu hwyl at y gamp o nofio.
"Mae wedi bod yn braf gweld cymaint o bobl ieuainc yn manteisio ar yr offer newydd a’r gweithgareddau rhagorol eraill a gynigir fel rhan o’r Fenter Nofio Am Ddim, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu plant i’n canolfannau eto yn ystod hanner tymor mis Hydref."
Meddai Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog Treftadaeth:
"Mae Cronfa Wella Nofio Am Ddim yn cyd-fynd yn dda â’r Fenter Nofio Am Ddim drwy gefnogi prosiectau bach a mawr sy’n ceisio annog y defnyddwyr presennol a defnyddwyr newydd i fod yn fwy egnïol yn amlach.
"Rydym yn cydnabod yn llawn y cyfraniad aruthrol y mae gwasanaethau hamdden awdurdodau lleol yn ei wneud at chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru ac mae’r cyllid ychwanegol hwn yn cyfrannu at helpu i annog defnydd mwy rheolaidd o’r cyfleusterau."
Am fanylion pellach am Nofio Am Ddim, cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol neu ewch i www.free-swimming-wales.org.uk