CLWB BOWLIO FARDRE’N ENNILL CYMWYSTERAU NEWYDD
13 Hyd 2008
Mae Clwb Bowlio Lawnt Coron Conwy’n gobeithio y bydd ieuenctid lleol yn cael eu darbwyllo i droi eu cefn ar eu gemau cyfrifiadurol a dechrau ymddiddori mewn bowlio, gan eu denu at y gamp.
Mae Clwb Bowlio Fardre wedi sicrhau cyllid y Loteri Genedlaethol gan Gyngor Chwaraeon Cymru, i’w roi tuag at gymwysterau hyfforddi ac offer newydd. Mae’r Clwb Bowlio Lawnt Coron yn gobeithio defnyddio’r grant gwerth £880 gan y Gist Gymunedol er mwyn hyfforddi dau aelod i fod yn hyfforddwyr cymwys yn unol â rheolau Cymdeithas Bowlio Lawnt Coron Prydain (CBLCP), i hyfforddi plant ac oedolion sy’n newydd i chwarae’r gêm.
Yn ddiweddar, enillodd y clwb dwrnament bowlio rhyng-genhedlaeth a drefnwyd gan Swyddogion Cefnogi Cymunedol Heddlu Gogledd Cymru yn Neganwy a Glan Conwy, gan roi hwb sylweddol i’w hymdrechion i ddenu aelodau iau at y gamp. Ysgogodd y gystadleuaeth ymateb da gan ieuenctid lleol, a oedd eisiau dysgu mwy, ac nid oedd rhai ohonynt erioed wedi bowlio o’r blaen yn eu bywyd.
Meddai Jennie Danher, Trysorydd Clwb Bowlio Fardre, "Fe gawsom y grant am ein bod eisiau denu’r ieuenctid. Mae’n rhaid rhoi cyfle i blant. Does dim cymaint â hynny o hyfforddwyr wedi cymhwyso i safonau CBLCP ar gael yn yr ardal hon felly rydym yn ceisio edrych ymlaen."
Ers sefydlu cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Conwy. Bydd cynyddu’r cyllid ac ehangu sgôp y cynllun yn cynyddu ei effeithiolrwydd.
"Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Conwy i fod yn fwy egnïol yn amlach."
O ganlyniad i boblogrwydd a llwyddiant diamheuol y cynllun, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynyddu lefel y grant. Bellach, gall y sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.
Mae sgôp y cynllun wedi ehangu hefyd. Yn draddodiadol, dyfarnwyd grantiau i glybiau a chyrff chwaraeon. Nawr, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sydd eisiau datblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys am ddyfarniad.
Yn ddiweddar, mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn treiddio i feysydd gwaith ychwanegol, fel y sector gwirfoddol (e.e. Clybiau Ieuenctid Gwirfoddol, Sefydliad y Merched) a’r gweithle, yn ogystal â pharhau i gefnogi prosiectau ym maes iechyd ac addysg. Felly tra bydd cyllido’r clwb pêl droed lleol yn cael aelodau ieuengaf y gymuned i gymryd rhan efallai, fe all cefnogi grŵp cerdded annog mwy o oedolion i fod yn egnïol.