PLANT ANABL AR BEN EU DIGON YM MANGOR
30 Medi 2008
Dydi effeithiau positif trampolinio ddim yn cael eu cydnabod bob amser ond ym Mangor, mae bownsio’n rheolaidd ar drampolîn yn codi ysbryd plant anabl i’r entrychion.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Clwb Trampolinio Bangaroos wedi bod yn cynnal dosbarthiadau bownsio wythnosol ar nos Fawrth i ddeg o blant gydag Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig (ASA) a sesiynau peilot misol ar gyfer oedolion a phlant gyda nam ar y clyw ac anableddau corfforol. Yn dilyn cymeradwyaeth feddygol, mae’r clwb hefyd wedi integreiddio nifer o blant gyda namau eraill, fel Parlys yr Ymennydd a Syndrom Down, mewn dosbarthiadau prif lif.
John Peake yw’r Aelod Pwyllgor dros Hyfforddi yng Nghlwb Trampolinio Bangaroos. Mae wedi rhyfeddu at yr effaith fuddiol mae wedi bod yn dyst iddi yn y dosbarthiadau.
Meddai: "Mae fy nghefndir i mewn Gweithgareddau Awyr Agored ac rwyf wedi mynd â llawer o grwpiau o bobl gydag anableddau amrywiol i’r awyr agored, ond mae’r effaith hyfryd y mae trampolinio’n ei gael yn rhywbeth cwbl nodedig. Mae’n gyfrwng mor bwerus, oherwydd rydych yn cael teimlad o symud a chyffro ar unwaith. Mae’n gallu helpu gydag amrywiaeth mor eang o anableddau. Doeddwn i ddim wedi sylwi ar y manteision pellgyrhaeddol o’r blaen. Mae wir wedi agor fy llygaid yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
"Weithiau mae codi troed oddi ar y llawr yn gallu bod yn heriol ond mae’n gwneud byd o wahaniaeth i’w hyder. Mae gennym nifer o gyfranogwyr awtistig sydd wedi llwyddo i addasu eu hymddygiad yn sylweddol, diolch i drampolinio. Mae un bachgen yn defnyddio cadair olwyn ac mae wedi bod yn uchafbwynt iddo ef – gallu dod i drampolinio unwaith y mis."
Mae grant o £1,000 gan gynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru wedi helpu gyda chymhwyso chwe hyfforddwr mewn hyfforddi’r anabl. Ac oherwydd prinder hyfforddwyr trampolinio yng Ngwynedd, mae’r Bangaroos wedi creu perthynas gref gyda Chlwb Trampolinio Prifysgol Bangor, gan gyflwyno hyfforddiant i’r myfyrwyr, i helpu gyda’r hyfforddi.
Meddai John wedyn, "Mae cyllid y Gist Gymunedol wedi bod yn allweddol i’n goroesiad ac wedi bod yn gyfrwng i’r clwb ddal ati. Mae wedi bod yn anodd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, pan symudodd ein prif hyfforddwr yn ei flaen, felly mae’n rhaid i ni gymhwyso llawer o hyfforddwyr a sicrhau eu bod yn ennill eu cymeradwyaethau hyfforddi ar gyfer anghenion arbennig.
"Rydym wedi datblygu perthynas dda iawn gyda Chlwb Trampolinio Prifysgol Bangor, sydd wedi gweithio’n arbennig o dda. Rydym ni’n eu cefnogi nhw gyda’u hyfforddiant ac mae’n edrych yn dda ar eu CV."
Ond er gwaetha’r gefnogaeth, mae John yn cyfaddef bod trosiant rheolaidd yr hyfforddwyr yn ei gwneud yn anodd i gynnal y dosbarthiadau.
Meddai, "Rydym yn gorfod rhedeg drwy’r amser dim ond er mwyn aros yn yr un sefyllfa. Fe gawsom lwyddiant ffantastig gyda’r plant lleol yn cael eu hyfforddi i fod yn hyfforddwyr ond wrth gwrs, cyn gynted ag y maent yn troi’n 18 oed, beth sy’n digwydd? Maen nhw’n mynd i’r brifysgol. Maent yn dod yn ôl yn ystod y gwyliau, fis Mehefin neu fis Gorffennaf, ond rydym yn wynebu sefyllfa heriol tu hwnt ar hyn o bryd."
Mae sesiwn hyfforddi ar gyfer hyfforddwyr trampolinio – i ddysgu plant ag anghenion arbennig – yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Maes Glas, Bangor ddydd Sadwrn 8 Tachwedd rhwng 1.30pm a 4.30pm a ddydd Sul 9 Tachwedd rhwng 12pm a 3.30pm. Mae’r clwb yn chwilio am blant gydag anghenion arbennig i fynychu’r dyddiau hyfforddi, i weithredu fel perfformwyr ymarfer ar gyfer yr hyfforddiant trampolinio i hyfforddwyr. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gysylltu â John Peake ar 01248 602227.
Ers sefydlu cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Gwynedd. Bydd cynyddu’r cyllid ac ehangu sgôp y cynllun yn cynyddu ei effeithiolrwydd.
"Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Gwynedd i fod yn fwy egnïol yn amlach."
O ganlyniad i boblogrwydd a llwyddiant diamheuol y cynllun, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynyddu lefel y grant. Bellach, gall y sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.
Mae sgôp y cynllun wedi ehangu hefyd. Yn draddodiadol, dyfarnwyd grantiau i glybiau a chyrff chwaraeon. Nawr, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sydd eisiau datblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys am ddyfarniad.
Yn ddiweddar, mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn treiddio i feysydd gwaith ychwanegol, fel y sector gwirfoddol (e.e. Clybiau Ieuenctid Gwirfoddol, Sefydliad y Merched) a’r gweithle, yn ogystal â pharhau i gefnogi prosiectau ym maes iechyd ac addysg. Felly tra bydd cyllido’r clwb pêl droed lleol yn cael aelodau ieuengaf y gymuned i gymryd rhan efallai, fe all cefnogi grŵp cerdded annog mwy o oedolion i fod yn egnïol.