THERAPI TAI CHI YN HELPU DIODDEFWYR ARTHRITIS YNG NGWYNEDD

18 Medi 2008

Gallai Therapi Tai Chi helpu i leddfu’r boen i’r rhai sy’n dioddef o arthritis yng Ngwynedd, diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol ar gyfer datblygu cynlluniau newydd yn yr ardal.

Mae Tai Chi fel Therapi (T.C.T), sydd wedi’i leoli yn Harlech, wedi sicrhau grant gwerth £300 gan Gist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru.

Mae T.C.T yn sefydliad gwirfoddol sy’n dysgu’r grefft ymladd Tsieineaidd effaith isel gyda’r bwriad o helpu’r rhai sy’n dioddef o gyflyrau cyhyrysgerbydol, fel arthritis, drwy wella hyblygrwydd a lleddfu poen. Seilir eu sesiynau ar ddamcaniaethau Dr Paul Lam, meddyg a meistr ar tai chi o Sydney, Awstralia, sy’n enwog yn fyd-eang ym maes tai chi ar gyfer gwella iechyd.

Bydd yr arian yn mynd tuag at dystysgrif hyfforddi newydd, tri o grwpiau i ddechreuwyr a chynllun newydd ym Mlaenau Ffestiniog.

Meddai’r hyfforddwr a’r cydlynydd, Celia Brown, "Mae’r cyllid hwn o gymorth mawr yn ariannol. Rwyf mewn ardal lle nad oes llawer o gymorth ar gael ac mae hwn yn ein cadw i fynd.

"Mae’r ffurf ar tai chi a ddysgir gennym ni wedi cael ei addasu i sicrhau ei fod mor ddiogel ag y bo modd. Mae pobl yn teimlo’n well ac yn fwy ystwyth. Mae hefyd yn dda iawn ar gyfer cydsymudiad a chydbwysedd a dyna’r pethau rydym yn eu colli wrth i ni fynd yn hŷn."

Ers sefydlu cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

O ganlyniad i boblogrwydd a llwyddiant diamheuol y cynllun, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynyddu lefel y grant. Bellach, gall y sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.

Mae sgôp y cynllun wedi ehangu hefyd. Yn draddodiadol, dyfarnwyd grantiau i glybiau a chyrff chwaraeon. Nawr, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sydd eisiau datblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys am ddyfarniad.

Yn ddiweddar, mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn treiddio i feysydd gwaith ychwanegol, fel y sector gwirfoddol (e.e. Clybiau Ieuenctid Gwirfoddol, Sefydliad y Merched) a’r gweithle, yn ogystal â pharhau i gefnogi prosiectau ym maes iechyd ac addysg. Felly tra bydd cyllido’r clwb pêl droed lleol yn cael aelodau ieuengaf y gymuned i gymryd rhan efallai, fe all cefnogi grŵp cerdded annog mwy o oedolion i fod yn egnïol.

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Gwynedd. Bydd cynyddu’r cyllid ac ehangu sgôp y cynllun yn cynyddu ei effeithiolrwydd.

"Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Gwynedd i fod yn fwy egnïol yn amlach."