IEUENCTID PORTHMADOG YN DRINGO’N UWCH, DIOLCH I GYLLID

18 Medi 2008

Mae ieuenctid Porthmadog wedi cael hwb yn y byd dringo, diolch i gyllid y Lotetri Genedlaethol gan Gyngor Chwaraeon Cymru.

Mae Clwb Antur Glaslyn, sy’n gweithredu ym Mhorthmadog a’r cyffiniau, wedi sicrhau grant gwerth £1000 gan Gist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru, i ddatblygu sesiynau dringo dan do ac yn yr awyr agored ar gyfer y gymuned leol.

Mae’r clwb yn darparu gweithgareddau awyr agored ar gyfer pobl ieuainc lleol, gan ganolbwyntio’n bennaf ar ganŵio a chaiacio, ond hefyd mae’n cynnig cerdded ceunentydd, adeiladu rafftiau a bellach, dringo. Bydd y cyllid o gymorth i dalu am offer a hyfforddiant ar gyfer teithiau dringo rheolaidd i safleoedd dringo naturiol ac o wneuthuriad dyn ledled Gogledd Cymru. Dewisodd ugain o aelodau iau ddringo fel y gweithgaredd y byddent yn hoffi cymryd rhan ynddo fwyaf pe baent yn cael y cyfle.

Meddai Trysorydd Clwb Antur Glaslyn, Dylan Wyn Hughes,

"Rydym wedi cynnal rhai sesiynau dringo o’r blaen ac fe gafodd y plant bleser mawr. Bydd dringo’n rhywbeth gwahanol i gyd-fynd â’r gweithgareddau a gynigir gennym eisoes. Credaf ei bod yn bwysig rhoi opsiynau i blant, i gynnal eu diddordeb.

"Bydd cyllid y Gist Gymunedol yn mynd tuag at offer newydd, fel rhaff statig 200 metr a charabinas arbenigol. Rydym hefyd yn bwriadu sicrhau bod pobl yn ennill Dyfarniadau PS (mae’r Dyfarniad Pitsh Sengl yn ddyfarniad a gydnabyddir yn genedlaethol ac sy’n galluogi i’r rhai sydd wedi’i ennill oruchwylio pobl amhrofiadol ac eraill ar glogwyni pitsh sengl a waliau dringo) er mwyn cynyddu nifer y bobl sy’n gallu helpu i gynnal y sesiynau."

Ers sefydlu cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

O ganlyniad i boblogrwydd a llwyddiant diamheuol y cynllun, mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cynyddu lefel y grant. Bellach, gall y sefydliadau sy’n awyddus i ddatblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru dderbyn hyd at £1000 ar gyfer prosiect cymwys dros gyfnod o 12 mis.

Mae sgôp y cynllun wedi ehangu hefyd. Yn draddodiadol, dyfarnwyd grantiau i glybiau a chyrff chwaraeon. Nawr, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau sydd eisiau datblygu prosiectau gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn gymwys am ddyfarniad.

Yn ddiweddar, mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn treiddio i feysydd gwaith ychwanegol, fel y sector gwirfoddol (e.e. Clybiau Ieuenctid Gwirfoddol, Sefydliad y Merched) a’r gweithle, yn ogystal â pharhau i gefnogi prosiectau ym maes iechyd ac addysg. Felly tra bydd cyllido’r clwb pêl droed lleol yn cael aelodau ieuengaf y gymuned i gymryd rhan efallai, fe all cefnogi grŵp cerdded annog mwy o oedolion i fod yn egnïol.

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod, ac mae’n parhau i fod, yn llwyddiant ysgubol ac mae’n hynod boblogaidd ledled Gwynedd. Bydd cynyddu’r cyllid ac ehangu sgôp y cynllun yn cynyddu ei effeithiolrwydd.

"Panelau wedi’u lleoli ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru sydd yng ngofal yr arian ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau a phrosiectau gwreiddiol a fydd yn cael mwy o bobl Gwynedd i fod yn fwy egnïol yn amlach."