CLWB GWEITHGAREDDAU AWYR AGORED YN UCHELGEISIOL

2 Medi 2008

Mae clwb gweithgareddau awyr agored o Fae Cinmel ar fin cychwyn ar ei daith fwyaf uchelgeisiol hyd yma: dringo copa uchaf Prydain ac yna canŵio ar un o ddyfrffyrdd mwyaf y DG - a’r cyfan yn ystod yr un wythnos.

Mae Clwb Gweithgareddau Awyr Agored Bae Cinmel yn bwriadu cynnal taith wythnos yn dringo Ben Nevis ac yna’n canŵio’r Great Glen – rhwyfo am 60 milltir ar hyd Camlas Caledonia, o Fort William i Inverness drwy Loch Ness. Fel rhan o’u paratoadau, mae’r aelodau wedi mynychu sesiynau hyfforddi gyda hyfforddwyr cymwys, yn ogystal â sesiynau stamina a dygnedd yn y gym leol, a sesiynau cerdded wythnosol. Mae’r daith yn cael ei chynnal yr wythnos nesaf, rhwng 6 a 13 Medi.

Mae’r clwb yn rhannol gynaladwy ac yn cael ei gyllido’n rhannol gan Gyngor Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru, dan y cynllun Hyrwyddwr Cymunedol a Chymunedau yn Gyntaf. Mae’r rhaglen Hyrwyddwr Cymunedol yn targedu unigolion proactif yn y gymuned, er mwyn cael mwy o oedolion i godi oddi ar y soffa ac i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol rheolaidd.

Mae Andrea Faulkner, Ysgrifennydd y Clwb, wedi bod yn rhedeg y Clwb Gweithgareddau Awyr Agored yn wirfoddol o’r Tŷ Cymunedol ar Chester Avenue ym Mae Cinmel, Gogledd Cymru, ers tair blynedd.

Meddai, "Rydym yn hynod gyffrous am y daith hon. Rydym wedi bod yn gwneud llawer o ymarfer. Fe wnaethom ddringo i ben Crib Goch yn ddiweddar i fagu stamina. Ac rydym wedi bod yn canŵio ac yn dringo creigiau. Rydym yn gwbl barod ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn at yr her."

Yr hyn sy’n gwneud y daith yn fwy nodedig fyth yw nad oedd gan Andrea a’i chydweithwyr, cyn ymuno â’r cynllun Hyrwyddwr Cymunedol, fawr o brofiad o weithgareddau awyr agored. Mae’r cynllun Hyrwyddwr Cymunedol yn rhoi grym i gymunedau fentro a rheoli eu cyllideb eu hunain i dalu am hyfforddiant ac i brynu offer.

Meddai Andrea wedyn, "Mae’n bositif iawn i Fae Cinmel. Rydym yn gwneud ein rhan ac rydym yn brysur yn ymarferol. Rydym wedi dysgu llawer iawn ar hyd y daith ac rydym eisiau rhoi’r cyfle rydym ni wedi’i gael i bobl eraill. Oni bai am Gyngor Chwaraeon Cymru a Phartneriaeth Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru, ’fyddem ni ddim wedi gallu mynd mor bell gyda’r clwb gweithgareddau awyr agored."

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Ein nod yw cael mwy o bobl yng Nghymru i fod yn fwy egnïol yn amlach. Diben y prosiect Hyrwyddwr Cymunedol yw defnyddio sgiliau unigolion unigryw yn ein cymunedau i sefydlu cyfleoedd corfforol ar gyfer oedolion, grwpiau segur a theuluoedd."

Mae Clwb Gweithgareddau Awyr Agored Bae Cinmel yn cyflwyno gweithgareddau fel beicio mynydd, canŵio a mynydda. Mae’r clwb yn chwilio’n awr am gyfleoedd nawdd i gyllido bws mini.

Am wybodaeth bellach neu i fod yn aelod, cysylltwch ag Andrea Faulkner ar: angefaulkner@hotmail.co.uk.