Y DDRAIG YN RHUO YN TECHNIQUEST AM HAF O CHWARAEON A GWYDDONIAETH

22 Gorff 2008

Mae’n fwrlwm o weithgarwch yn Techniquest yr haf hwn, wrth i Gampau’r Ddraig ymweld â’r Ganolfan Wyddoniaeth fywiog ym Mae Caerdydd mewn ymgais i gael plant i fod yn egnïol ac i ymddiddori mewn deall sylfeini gwyddoniaeth!

Wrth i Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Beijing agosáu, mae Techniquest – ynghyd â Chyngor Chwaraeon Cymru – yn gobeithio ennyn diddordeb mewn iechyd, ffitrwydd, chwaraeon a defnydd o wyddoniaeth.

Mae cynllun Campau’r Ddraig, a ariennir gan y Loteri – ymgyrch fwyaf Cymru i gael plant ysgolion cynradd i fwynhau chwaraeon y tu allan i oriau ysgol – yn helpu i ddenu mwy o blant at chwaraeon a chynyddu lefelau gweithgarwch. Ac mae Techniquest yn gartref i raglen fyrlymus o weithgarwch drwy gydol gwyliau’r haf (tan 7 Medi 2008).

Mae’r gweithgarwch yn cychwyn ddydd Sadwrn 26 Gorffennaf gyda rhai ymwelwyr arbennig yn helpu i lansio’r penwythnos cyntaf.

Bydd Is-Gadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Yr Athro Laura McAllister, yn torchi ei llewys i gymryd rhan yn yr ŵyl chwaraeon a gwyddoniaeth. Hefyd, mae disgwyl AC De Caerdydd a Phenarth, Lorraine Barratt, y sbrintiwr sydd wedi ennill medal Olympaidd, Jamie Baulch, a’r seren badminton yng Ngemau’r Gymanwlad, Matt Hughes, sydd ill dau’n cynrychioli Uwch-Ysgolion Cymru yn awr, yn y lansiad, yn ogystal ag aelodau o Leision Caerdydd. Byddant i gyd yn cymryd rhan mewn rhai gweithgareddau a gynhelir y tu allan i’r ganolfan, ar lan y dŵr.

Os bydd y tywydd yn caniatáu, cynhelir y gweithgareddau awyr agored rhwng 11am a 4pm bob dydd ac maent yn rhad ac am ddim.

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru yn Bartner Swyddogol i’r Digwyddiad a bydd gwahanol weithgareddau ar gael i roi cynnig arnynt drwy gydol yr haf, yn ogystal ag ymweliadau gan bersonoliaethau chwaraeon.

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Mae Campau’r Ddraig yn parhau i gynnwys ein plant cynradd mewn chwaraeon ac rydym yn hynod falch o allu creu partneriaeth gyda Techniquest er mwyn cynnig cyfleoedd drwy gydol gwyliau’r haf. Bydd y pwyslais ar roi cynnig ar y gweithgareddau a dysgu trwy hwyl. Rwy’n credu ei bod yn eithriadol bwysig dangos effaith gweithgarwch corfforol ar y corff dynol fel bod ein cenhedlaeth ifanc yn tyfu i fyny’n deall pa mor bwysig yw bod yn egnïol."

Ceir hefyd sioe newydd sbon yn rhan o’r achlysur Gwyddoniaeth Chwaraeon. Bydd Theatr Wyddoniaeth Techniquest yn cael ei thrawsnewid yn arena chwaraeon ryngwladol ar gyfer sioe newydd a reolir gan y gynulleidfa, "Ar Eich Marc, Byddwch yn Barod, Ewch!". Bydd gwirfoddolwyr o’r gynulleidfa’n profi eu sgiliau mewn pob math o chwaraeon – yn cynnwys pêl fasged, hwylio, golff a sbrintio – i gyd oddi mewn i’r Theatr Wyddoniaeth!

Yn y brif neuadd arddangos, cynhelir arddangosfeydd ar y llawr, yn egluro gwyddoniaeth dillad chwaraeon ac yn rhoi cyfle i brofi cryfder eich gafael. Hefyd bydd llwybr arbennig yn cael ei greu o amgylch yr arddangosfeydd, yn gysylltiedig a chwaraeon a’r corff dynol, a bydd yr ymwelwyr yn gallu rasio’n erbyn y cloc er mwyn cwblhau tasgiau wahanol.