SEREN HOCI MERTHYR AR EI FFORDD I BEIJING
24 Mehef 2008
Heddiw, dewiswyd y seren hoci o Gymru, Sarah Thomas, gan Gymdeithas Olympaidd Cymru i gystadlu yng Ngemau Olympaidd Beijing 2008.
Y ferch o Ferthyr Tudful fydd y drydedd chwarewraig hoci erioed o Gymru i gynrychioli Prydain Fawr mewn Gemau Olympaidd.
Y tro diwethaf i Gymru fod â chynrychiolaeth yn sgwad hoci’r merched oedd ym Marcelona yn 1992, pan gynorthwyodd y golgeidwad, Helen Morgan, y tîm i sicrhau medal efydd. Dim ond 11 oed oedd Sarah, sydd bellach yn 27 oed, bryd hynny.
Hefyd, Thomas, 27, yw’r ferch gyntaf erioed o Gymru i gystadlu allan ar y cae yn y Gemau.
Wedi clywed ei bod wedi cael ei dewis, meddai, "Rwyf ar ben fy nigon. Dydw i ddim cweit yn credu’r peth a dweud y gwir, ond mae’n mynd i fod yn ffantastig."
Dechreuodd Thomas, a fynychodd Ysgolion y Faenor a Phenderyn ym Merthyr, ar ei gyrfa hoci yn yr ysgol, yn 12 oed, cyn ymuno â Merched Dowlais ac yna symud ymlaen at Ferched Abertawe. Chwaraeodd dros Gymru ar bob lefel, o dan 16 i lefel hŷn.
Wedi astudio am radd mewn Gwyddoniaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Exeter, symudodd y chwaraewraig canol cae / flaenwraig i Rotterdam i chwarae mewn gwlad sy’n rhagori mewn hoci a chafodd ei chynnydd y tymor diwethaf ei wobrwyo gyda dyfarniad chwaraewr y flwyddyn yn y clwb.
Mae Sarah wedi bod yn Bisham Abbey ers mis Medi, lle mae’r rhai sydd wedi bod yn gobeithio cystadlu dros PF wedi bod yn hyfforddi am yr wyth mis diwethaf.
Meddai Danny Kerry, Prif Hyfforddwr Sgwad y Merched:
"Yn dilyn cytundeb fframwaith PF a Merched Lloegr yn cymhwyso i PF yn uniongyrchol drwy gyfrwng Cwpan Gwledydd Ewrop 2007, rydym wedi gallu cael y cyfnod paratoi hiraf erioed. Gellir gwella o hyd mewn perthynas â chylch o bedair blynedd yn PF, ac mae cynlluniau yn eu lle ar gyfer 2012. Fodd bynnag, rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol o gymharu â’r cylchoedd blaenorol.
"O’r herwydd, rydym wedi bod yn ystyried natur sgwad PF ers 2006 ac yn asesu’n fanwl ers Ionawr 2007. Mae cyhoeddi’r sgwad heddiw’n ganlyniad i broses drwyadl sydd wedi cynnwys mesur y chwaraewyr yn erbyn timau gorau’r byd mewn amodau hinsawdd heriol dros ben.
"Mae gan y sgwad ei hun gnewyllyn da o chwaraewyr profiadol, gyda rhai ohonynt wedi cystadlu eisoes yn y Gemau Olympaidd yn 2000. Yn yr un modd, mae’r sgwad yn cynnwys elfen o ieuenctid, sydd wedi profi’n effeithiol yn erbyn timau rhyngwladol yn y safleoedd uchaf yn y byd. Mae gennym sgwad hynod athletig gyda lefelau uchel o ffitrwydd corfforol ac rydym wedi gweithio’n eithriadol galed ar ein hoci fel ei bod yn gêm gadarn gennym bellach, yn barod i wynebu pwysau cystadlaethau Olympaidd.
"Byddwn yn wynebu pob gêm fel y daw yn y Gemau, gan osgoi unrhyw ragdybiaethau ynghylch safle terfynol a chanolbwyntio yn hytrach ar y dasg i’w chyflawni."
Meddai Simon Clegg, Prif Weithredwr Tîm PF ar gyfer 2008:
"Rwy’n eithriadol falch bod timau hoci’r dynion a’r merched yn rhan o Dîm PF ar gyfer Gemau Olympaidd Beijing 2008. Dymunaf y gorau i’r ddau sgwad wrth iddynt baratoi’n derfynol yng Ngwersyll Paratoi Tîm PF yn Macau ac edrychaf ymlaen at wylio eu cynnydd yn Beijing."
Nodiadau i Olygyddion
Cymdeithas Olympaidd Prydain (COP) yw’r Pwyllgor Olympaidd Cenedlaethol ar gyfer Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Ei swyddogaeth yw paratoi athletwyr gorau’r wlad ar gyfer Gemau Olympaidd yr haf, y gaeaf a’r ieuenctid, gan roi arweiniad iddynt. Mae COP yn cyflwyno gwasanaethau cefnogi helaeth ar lefel elitaidd i athletwyr Olympaidd Prydain a’u Cyrff Rheoli Cenedlaethol drwy gydol pob cylch Olympaidd ac, yn y DG, mae’n gyfrifol am ddatblygu a gwarchod y Mudiad Olympaidd.