10 FFORDD I FOD YN SIAPUS…HEB FYND I’R GYM!
9. CERDDED
Mae cefn gwlad Cymru’n frith o lwybrau a thraciau cerdded ac mae’r opsiynau’n ddiddiwedd. Bydd cerdded yn gyflym yn rheolaidd yn gwella lefel eich ffitrwydd corfforol ac yn eich gwneud yn fwy effro’n feddyliol. Bydd hefyd yn llesol i’ch emosiynau.
Gallwch gerdded o le i le gyda’ch bag ar eich cefn, neu aros mewn pentref am wythnos neu fwy, yn archwilio’r ardal ac yn cerdded am y diwrnod.
Mae cerdded milltir mewn chwarter awr yn llosgi’r un faint o galorïau’n fras â rhedeg milltir mewn 8.30 munud. Mae cerdded dwy filltir y dydd deirgwaith yr wythnos yn gallu gostwng eich pwysau bwys bob tair wythnos, o fwyta’n iach hefyd.
CEFNOGWYR O BLITH Y SÊR – Davina McCall, Hermione Norris
CYSWLLT – Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru’n ymroddedig i greu cyfleoedd i bawb fwynhau’r awyr agored. Am wybodaeth bellach am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol a Llwybrau Cenedlaethol ledled Cymru, ac i fwynhau cerdded yng nghanol tirlun godidog Cymru, ewch i www.ccw.gov.uk
10. PRAMYMARFER
Pramymarfer yw’r math diweddaraf o ymarfer wedi geni babi sy’n boblogaidd iawn ymhlith mamau newydd ledled y wlad – ac yn cadw’r rhai bychain yn ddiddig yr un pryd.

Y syniad yw defnyddio eich pram fel darn o offer ffitrwydd a gwneud ymarferion sy’n dibynnu arni, neu ymarferion y gellir eu gwneud tra bo eich plentyn ynddi.
Dechreuwch yn araf am ryw bum munud er mwyn cynhesu’r cyhyrau, ac yna cyflymu. Cerddwch yn gyflym, gan sicrhau ystum ac anadlu da. Wedi 30 munud, gallech fod wedi llosgi mwy na 100 o galorïau.
Os oes gennych fabi newyddanedig, dylech gymryd pethau’n araf deg i ddechrau. Cofiwch y bydd cerdded yn unig yn gweithio’r cyhyrau, yn ymarfer eich calon a’ch ysgyfaint ac yn ymlacio eich meddwl.
Holwch eich meddyg teulu bob amser os ydych yn bwriadu dechrau cymryd rhan mewn gweithgaredd ffitrwydd newydd wedi cael babi.
CEFNOGWYR O BLITH Y SÊR – Kacey Ainsworth, Davina McCall