10 FFORDD I FOD YN SIAPUS…HEB FYND I’R GYM!

6. SGLEFROLIO

Camwch yn ôl i’r gorffennol ac estynnwch am eich sglefrolwyr ferched, oherwydd mae’r gamp yn boblogaidd eto fyth!

Jessica Simpson

Bu Heather Graham yn chwarae’r sglefrolwraig yn "Boogie Nights." Mae Britney Spears wedi rhoi ei henw ar sglefrolwyr Sketchers trendi yn 2002. Ac mae Jessica Simpson a’i ffrindiau, Eva Longoria a Christina Applegate, yn sglefrio drwy ddisgo sglefrolio yn Nhecsas yn y fideo ar gyfer ei sengl newydd, "A Public Affair."

Mae sglefrio’n ymarfer cardiofasgiwlar sy’n llosgi braster ac yn magu cryfder yn y cyhyrau, yn union fel rhedeg, heb yr effaith ar y cymalau. Gall sesiwn egnïol o sglefrio am awr losgi hyd at 600 o galorïau. Ac mae’n rhaid cadw cydbwysedd i aros ar eich traed. Ychwanegwch yr esgidiau pum pwys rydych yn eu gwisgo a dyna i chi ymarfer aerobig gwerth chweil!

CEFNOGWYR O BLITH Y SÊR - Jessica Simpson, Eva Longoria, Kylie

CYSWLLT: Mae llawer o ganolfannau chwaraeon a hamdden yn cynnig sesiynau sglefrolio rheolaidd dan do. Gwnewch yn siwr bod gennych offer diogelwch addas!

7. BEICIO

Ewch allan drwy ddrws y ffrynt gyda’ch teulu ac ewch ati i ddarganfod rhai o ardaloedd hyfrytaf cefn gwlad Cymru. Os oes gennych awydd mynd ychydig ymhellach, fe allech fentro ar y llwybrau arfordirol a’r llwybrau beicio niferus ledled y wlad i fwynhau golygfeydd gwych, parciau gwledig, llynnoedd, mynyddoedd ac arfordir. Chwiliwch am ganolfan sy’n llogi beiciau yn eich ardal leol ac ewch amdani!

Y cyfan rydych ei angen yw beic, helmed feicio, esgidiau ymarfer da a man diogel i feicio.

Os ydych yn byw yn ddigon agos at eich gwaith, tyrchwch eich beic allan o gefn y sied a mentrwch ar ei gefn. Os yw teithio i’r gwaith ar ddwy olwyn yn amhosibl, defnyddiwch y gyda’r nosau a’r penwythnosau.

CEFNOGWYR O BLITH Y SÊR - Pink, Edith Bowman, Kelly Brook, Madonna

CYSWLLT – Cysylltwch â SUSTRANS – www.sustrans.org.uk a 0845 113 0065 – am fanylion y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol neu Undeb Beicio Cymru – www.cyclewales.org.uk a 01633 670540 – am fanylion am y clybiau yn eich ardal.

8. LONCIAN

Mae loncian yn ffordd wych o gadw’n heini. Mae’n rhad a gellir loncian yn unrhyw le ar unrhyw adeg. Yn bwysicach na dim, mae’n effeithiol iawn.

Ar yr amod eich bod yn iach ac yn dechrau arni’n raddol, gall unrhyw un redeg. Rhedwch ar gyflymdra sy’n eich galluogi i gynnal sgwrs hefyd. Os ydych yn colli gormod ar eich gwynt i siarad, arafwch a cherddwch nes eich bod yn teimlo’n well. Ailddechreuwch arni wedyn.

CEFNOGWYR O BLITH Y SÊR - Nell McAndrew, Madonna, Reese Witherspoon

CYSWLLT: Gyda’r ras fywyd ar y gorwel, dyma’r amser perffaith i wisgo eich esgidiau ymarfer. Nid yw’n rhy hwyr i gymryd rhan – ewch i www.raceforlife.org am wybodaeth am y rasys yn eich ardal chi.