10 FFORDD I FOD YN SIAPUS…HEB FYND I’R GYM!

3. MARCHOGAETH CEFFYLAU

Pa well ffordd i fwynhau copaon uchel, traethau hir a bryniau agored Cymru nag ar gefn ceffyl!

Efallai y gwelwch chi bod pedair coes yn well na dwy! Hyd yn oed os ydych yn ddechreuwr llwyr, mae cwrs ar eich cyfer. Mae cefn gwlad Cymru’n frith o stablau marchogaeth ceffylau yn cynnig gwersi ar gyfer pobl o bob oed a gallu. Pa well ffordd o weld tirlun Cymru nag ar gefn ceffyl!

Gall awr yn marchogaeth ceffyl losgi mwy na 400 calori ac mae’n arbennig o effeithiol i wella ystum a siapio’r coesau, y breichiau a’r cluniau. Mae hefyd yn ffordd ragorol o ymlacio a lleddfu unrhyw straen.

A does dim rhaid cael unrhyw offer arbennig i ddechrau arni – dim ond esgidiau cadarn. Bydd yr ysgol farchogaeth yn darparu helmed i chi. Gwnewch yn siwr eich bod yn dewis ysgol farchogaeth sydd wedi’i chymeradwyo gan Gymdeithas Geffylau Prydain (BHS) neu Gymdeithas Ysgolion Marchogaeth Prydain (ABRS). Bydd hyfforddwr profiadol yn dewis ceffyl neu ferlen briodol i chi, yn dibynnu ar eich taldra, eich pwysau a’ch gallu.

CEFNOGWYR O BLITH Y SÊR – Katie Price, Jodie Kidd, Sara Cox, Rachel Hunter

CYSWLLT: Edrychwch yn y Llyfr Melyn am fanylion yr ysgolion marchogaeth yn eich ardal chi. Fel dewis arall, ewch i wefan Cymdeithas Geffylau Prydain yn www.bhs.org.uk neu cysylltwch â hwy ar 08701 202244

4. GOLFF

Mae llu o gyrsiau’n cynnig opsiwn braf yn lle cerdded ar y felin gerdded yn y gym. Mae rownd o golff yn berffaith ar gyfer ymarfer yn yr awyr agored ac mae wedi profi’n gamp lesol i chi yn gorfforol, yn feddyliol ac yn ysbrydol!

Catherine Zeta Jones

Mae’r gamp yn mwynhau’r proffil gorau erioed yng Nghymru ers cyhoeddi ymweliad Cwpan Ryder â’r wlad yn 2010 a cheir mwy na 160 o gyrsiau yng Nghymru yn aros am gael eu darganfod.

Ar lefel gorfforol, mae’r cerdded buan sy’n angenrheidiol yn gwella gallu cardiofasgiwlar ac yn lleihau colesterol. Am bob rownd o golff a chwaraeir, byddwch yn cerdded rhwng pedair ac wyth milltir ac yn llosgi ryw 1000 o galorïau. Mae codi eich clwb neu blygu i lawr i godi eich pêl o gymorth i gadw’r cymalau’n ystwyth. Gyda golffwyr yn taro pêl 30-40 gwaith ar gyfartaledd mewn rownd, byddwch yn gweithio cymaint o gyhyrau ac yn defnyddio cymaint o egni ag mewn campau fel pêl droed a chwaraeon ymladd.

CEFNOGWYR O BLITH Y SÊR – Catherine Zeta Jones, Cameron Diaz, Jodie Kidd, Jane Seymour, Heather Locklear

CYSWLLT – Mae Datblygu Golff Cymru – hyrwyddwyr golff ar lefel gyffredin yng Nghymru – yn cynnig cynlluniau sy’n hysbysebu golff fel camp hwyliog, gyfeillgar a fforddiadwy i bawb ei chwarae.

Mae hefyd yn cynnig cyfle i ferched sy’n newydd-ddyfodiaid roi cynnig ar sgiliau oes newydd drwy drefnu Dyddiau Blasu a gwahodd merched a genethod o bob oedran i fynychu a derbyn cyflwyniad am ddim i’r gamp.

Am wybodaeth bellach am y clybiau yn eich ardal chi, ewch i wefan DGC www.golfdevelopmentwales.org neu ffoniwch 01633 423798.

5. SGIPIO

Os yn chwilio am ymarfer a fydd yn eich helpu i golli pwysau heb wario gormod, beth am fwynhau un o gampau eich plentyndod a chwilio am yr hen raff sgipio yna! Mae sgipio’n ymarfer cardiofasgiwlar da a gallech losgi hyd at 300 o galorïau mewn awr.

Y cyfan rydych ei angen yw rhaff sgipio, digon o ofod ac esgidiau ymarfer da!

CEFNOGWYR O BLITH Y SÊR – Seren ‘I’m a Celebrity, Get Me Out of Here’, Mylenne Class, a Jennifer Lopez