10 FFORDD I FOD YN SIAPUS…HEB FYND I’R GYM!

I’r rhai sy’n casáu camu ar beiriannau ymwrthedd a theclynnau cyfrif calorïau anodd eu deall, ceir nifer fawr o opsiynau eraill. I’ch arbed rhag talu ffïoedd misol mewn gym ac i’ch rhyddhau rhag rhedeg i unlle ar y felin gerdded, beth am chwilio am well gwobrau yn rhywle arall.

Gall cadw’n heini, gwella eich iechyd a cholli rhyw faint o bwysau yr un pryd fod mor hawdd â mynd am dro yn y parc – yn llythrennol. Dim ond hanner awr o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos sydd ei angen i wneud gwahaniaeth. I gefnogi strategaeth Dringo’n Uwch Llywodraeth Cynulliad Cymru – ffocws cenedlaethol newydd i wella lefelau ffitrwydd ac iechyd Cymru - mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi meddwl am ddeg opsiwn arall er mwyn bod yn siapus, heb orfod camu i mewn i unrhyw gym.

Felly, i’ch cymell, beth am gymryd dalen o lyfr eich hoff seren a rhoi cynnig ar ffordd wahanol o gadw’n heini – wedi’r cwbl, os yw’n ddigon da iddynt hwy, mae’n ddigon da i ni!

1 SYRFFIO

Mae syrffio’n gamp boblogaidd iawn ymhlith y sêr gan greu delweddau o haul a thraethau Home and Away! Ganol gaeaf ym Mae Langland, Abertawe, mewn siwt rwber ac yn gwisgo menig, dydi’r darlun ddim cweit mor atyniadol!

Cameron Diaz

Ond i fwy a mwy o bobl, mae’r profiad o lithro’n osgeiddig ar hyd brig y don yn un i’w drysori. Ac mae mwy o ferched a genethod, waeth beth yw eu hoedran a’u gallu – yn mentro ar ddyfroedd Cymru ac yn neidio ar fwrdd syrffio.

Os ydych wedi meddwl amdanoch eich hun fel dipyn o syrffiwr ac os yw’n eithaf gwyntog, anelwch am yr arfordir i roi cynnig ar syrffio tonnau Cymru. Does dim rhaid cael bwrdd syrffio llawn a siwt wlyb bob amser – prynwch fwrdd corff rhad (fersiwn llai o fwrdd syrffio) a dysgwch ymarfer y tu ôl i’r tonnau torri. Ymarfer gwych, a threndi hefyd!

Bydd raid i chi feistroli rhai sgiliau sylfaenol i ddechrau – felly efallai ei bod yn werth buddsoddi mewn gwersi – ac mae’n hawdd llogi byrddau syrffio a siwtiau gwlyb ar draethau.

CEFNOGWYR O BLITH Y SÊR - Cameron Diaz, Denise Richards, Evangeline Lilly

CYSWLLT: Cysylltwch ag Ysgol Syrffio Ffederasiwn Syrffio Cymru ar 01792 386426 neu ewch i www.wsfsurfschool.co.uk

Neu ewch i www.bbc.co.uk/wales/surfing/ am awgrymiadau ynghylch sut i gymryd rhan ac am ganllaw ynghylch ble mae’r tonnau gorau yng Nghymru.

2 DAWNSIO

Dathlwch ben-blwydd y ffilm enwog Dirty Dancing yn 25 oed drwy fentro i fyd y ddawns.

Gethin Jones

Boed yn ddawnsio burlesque, tango neu dap, mae camu ar y llawr dawnsio a dechrau symud a jeifio am 30 munud yn gallu llosgi hyd at 160 o galorïau – sy’n cyfateb i wydraid mawr o win!

Mae dawnsio’n addas i bob siâp, maint, oedran a gallu. Felly, os am ddawnsio bale neu fol, y cha cha, y jeif neu’r disgo, dewiswch arddull rydych yn ei fwynhau a rhowch gynnig arni – ymunwch â dosbarth.

CEFNOGWYR O BLITH Y SÊR - Emma Bunton, Jennifer Lopez

CYSWLLT: Ewch i www.bbc.co.uk/strictlycomedancing a chliciwch ar y cyswllt Dawnsio i gael hyd i ddosbarth dawns yn eich ardal chi.