CYLLID Y LOTERI O GYMORTH I GLWB CARATE YN WRECSAM

31 Awst 2007

Mae Clwb Carate’r Waun yn Wrecsam, sydd wedi ailffurfio’n ddiweddar, yn mynd i elwa o fanteision hwb ariannol gan Gyngor Chwaraeon Cymru a fydd yn ychwanegu at nifer y sesiynau chwaraeon ymladd a fydd ar gael i blant yr ardal.

Karate

Bydd grant gwerth £940 gan y Gist Gymunedol, a gyllidir gan y Loteri, yn sicrhau bod modd i arweinydd y clwb, Ian Davies – sydd â gwregys ddu pedwerydd dan yn y gelfyddyd – ychwanegu llu o sesiynau at ei amserlen bresennol yng Nghanolfan Hamdden Y Waun, fel rhan o’i ymdrech i geisio atal yr ymddygiad gwrthgymdeithasol cynyddol a welir yn yr ardal ac annog pobl hen ac ifanc i fyw yn iach.

Ailgyflwynwyd sesiynau carate yn ardal Y Waun fis Gorffennaf eleni wedi absenoldeb am 12 mlynedd. Dywedodd Mr Davies ei fod wedi gwneud penderfyniad i ailffurfio’r clwb wedi derbyn anogaeth gan gynghorwyr lleol, swyddogion cymunedol yr heddlu ac arweinwyr grwpiau ieuenctid yn yr ardal.

Fodd bynnag, dywedodd Mr Davies bod mwy i’r clwb na dim ond cael y plant oddi ar y strydoedd a’u cadw allan o helynt.

"Mae carate’n dysgu hunanreolaeth drwy hyfforddiant llym, mae’n dysgu cyfrifoldeb moesol i blant. Yr athroniaeth yw sut i’ch rheoli eich hun a bod yn berson da," meddai.

"Gall fod o gymorth i lawer o bobl hyfforddi’n briodol. Bydd o gymorth i chi fod yn berson cryfach. Does gennym ni ddim ystod oedran pendant ond mae ar gyfer unrhyw un o bum mlwydd oed i fyny. Rydym yn gobeithio y bydd pobl o bob oed yn dod yma i ymarfer gyda’i gilydd.


"Gall pobl ymuno er mwyn cadw’n heini neu os oes ganddynt ddiddordeb mewn dysgu carate, neu gallant ymuno os oes ganddynt ddiddordeb mewn ymwneud â’r gamp a gweithio tuag at y gwregysau neu ymwneud â chystadlaethau."

Ers sefydlu cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Yn wir, yn ystod ei gyfnod byr, mae’r cynllun cymorth grant a ariennir gan y loteri wedi dosbarthu mwy na £250,000 i brosiectau ledled Wrecsam.

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn llwyddiant mawr ac mae’n parhau felly, ac yn boblogaidd ar hyd a lled bwrdeistref Wrecsam. Bydd y cynnydd mewn cyllid a sgôp ehangach y cynllun yn sicrhau ei fod yn fwy effeithiol.

"Gan y panelau ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru mae’r cyllid ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau gwreiddiol a phrosiectau a fydd yn cael mwy o bobl yn Wrecsam yn fwy egnïol yn amlach."