SEFYDLIAD Y MERCHED NEW BROUGHTON YN TROI AT T’AI CHI
30 Awst 2007
Mae aelodau Sefydliad y Merched mewn ardal yn Wrecsam ar fin tynnu’r llwch oddi ar eu hesgidiau ymarfer a chynyddu curiad eu calon wrth iddynt elwa o grant gwerth £1000 gan Gist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru.
Mae sesiynau T’ai Chi addas ar gyfer gallu amrywiol aelodau Sefydliad y Merched New Broughton a Caego yn cael eu cyflwyno yn y cyfarfodydd yng Nghanolfan Gymunedol New Broughton, er mwyn rhoi sylw i’r diffyg gweithgarwch corfforol y cymerir rhan ynddo gan y grŵp ar hyn o bryd.

Mewn ymdrech i annog yr aelodau, eu ffrindiau a’u teulu a’r gymuned yn ehangach i wella eu hiechyd a’u lles yn gyffredinol, bydd rhaglen o ddosbarthiadau bob yn ail wythnos yn cael ei chyflwyno fis Medi eleni.
Bydd y dosbarthiadau’n darparu cyfleoedd gweithgarwch iach ar garreg y drws i’r gymuned a byddant o fudd arbennig i’r rhai sy’n ei chael yn anodd i yrru i’r ganolfan hamdden leol.
Gobeithir y bydd y cyfleoedd gweithgarwch corfforol newydd a gyflwynir i’r grŵp yn meithrin gwell cyfeillgarwch rhwng yr aelodau ac yn eu haddysgu am y llu o fanteision iechyd hirdymor y bydd y dosbarthiadau newydd yn gallu eu creu.
Ers sefydlu cynllun Cist Gymunedol Cyngor Chwaraeon Cymru yn 1999, mae cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi bod yn buddsoddi’n helaeth mewn prosiectau chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Yn wir, yn ystod ei gyfnod byr, mae’r cynllun cymorth grant a ariennir gan y loteri wedi dosbarthu mwy na £250,000 i brosiectau ledled Wrecsam.
Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:
"Mae’r Gist Gymunedol wedi bod yn llwyddiant mawr ac mae’n parhau felly, ac yn boblogaidd ar hyd a lled bwrdeistref Wrecsam. Bydd y cynnydd mewn cyllid a sgôp ehangach y cynllun yn sicrhau ei fod yn fwy effeithiol.
"Gan y panelau ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru mae’r cyllid ac mae ganddynt awdurdod dirprwyol i ddyfarnu grantiau i brosiectau gwerth chweil. Rydym eisiau clywed am syniadau gwreiddiol a phrosiectau a fydd yn cael mwy o bobl yn Wrecsam yn fwy egnïol yn amlach."