HAWL I HOLI EFO GOLFFIWR ELITE CYMRU, RHYS DAVIES
Sut ddaru chi ddechrau cymryd rhan yn eich camp?
Pan oeddwn i yn yr ysgol gynradd, roeddwn yn chwarae llawer o wahanol gemau – rygbi, pêl droed, criced, tenis ac athletau. Chwaraeais golff am y tro cyntaf ar gwrs naw twll bychan yn y Barri pan oedd fy nhad yn arfer mynd â mi bob hyn a hyn ar benwythnos, ond roeddwn yn 11 oed cyn ymuno â chlwb.

Pwy oedd y prif ddylanwadau arnoch?
Yn Ysgol Gynradd Oldcastle, roeddwn yn ffodus bod gennyf athrawon a oedd yn frwdfrydig ynghylch chwaraeon. Dysgai Mrs Ryder denis (byr) i ni a dysgai Mr Oldfield rygbi. Yng Nghlwb Criced Pen-y-bont ar Ogwr, Charles Griffiths oedd ein hyfforddwr a Peter Evans oedd fy hyfforddwr yng Nghlwb Golff Porthcawl. Mae John Collins wedi helpu llawer arnaf hefyd ac arferai drefnu hyfforddiant i blant ym Morgannwg. Mae’r bobl hyn i gyd, ac eraill, wedi dylanwadu’n fawr arnaf a byddaf yn ddiolchgar bob amser am eu cefnogaeth.
Pwy oedd eich arwr yn y byd chwaraeon pan oeddech yn tyfu i fyny, a pham?
Fel y rhan fwyaf o bobl ieuainc, roedd y teledu’n cael effaith fawr arnaf ac un o’r cystadlaethau chwaraeon cyntaf rwy’n eu cofio yw Ian Woosnam yn ennill gornest y Meistri. Roeddwn eisiau bod fel Woosie wedyn ond roeddwn hefyd eisiau bod yn Mark Hughes, Ryan Giggs, Steve Watkins a Darren Gough. Dydi hynny ddim yn gofyn llawer nac ydi?!
Pa achlysur chwaraeon fyddech chi’n talu am ei weld?
Mae hynny’n hawdd – Cyfres y Lludw. Hyd yn oed pan wyf yn yr Unol Daleithiau, rwyf yn cael negeseuon testun yn rhoi sgôr y criced i mi. Oes gan unrhyw un docynnau ar gyfer gêm y gyfres yng Nghaerdydd yn 2009·
A pha un fyddech chi ddim yn talu am ei weld?
Y Derby neu unrhyw gystadleuaeth rasio ceffylau!
Beth yw’r peth gorau am fod yn olffiwr?
Fel pob camp arall, y peth gorau yw chwarae’n dda. Rwyf wrth fy modd yn bod yn athletwr / myfyriwr ym Mhrifysgol Talaith Dwyrain Tennessee, mae treulio amser yn ymarfer ac yn chwarae gydag aelodau eich tîm yn wych ac rwy’n teimlo’n lwcus iawn. Rwyf wedi graddio mewn Busnes yn ddiweddar felly byddaf yn colli hyn y flwyddyn nesaf.
A’r gwaethaf?
Fyddwch chi ddim yn synnu o’m clywed yn dweud mai chwarae’n wael yw’r peth gwaethaf. Mae delio ag unrhyw siom yn anodd iawn ond mae’n bur debyg ei fod yn gwneud i chi werthfawrogi’r amseroedd da yn well. Gall fod yn gamp unig weithiau – yn enwedig pan fo pethau’n mynd o le. Does gennych chi ddim tîm i rannu’r siom bob amser a dyna pam rwy’n credu y dylai golffwyr ieuainc gymryd rhan mewn chwaraeon tîm hefyd i’w helpu i ddatblygu persbectif.
Pwy yw eich ffrind gorau yn y byd golff?
Mae’n rhaid i mi ddweud mai fy ffrindiau gorau yw cyd-aelodau fy nhîm ym Mhrifysgol Talaith Dwyrain Tennessee. Roeddem yn byw, yn bwyta, yn hyfforddi, yn ymarfer ac yn cystadlu gyda’n gilydd felly roedd yn braf ein bod i gyd yn gallu cyd-dynnu.
Pe baech yn gallu newid un peth am eich camp, beth fyddai hynny?
Byddai gan y gêm broffesiynol fwy o gystadlaethau tîm fel Cwpan Ryder.
Pe baech chi ddim yn olffiwr, beth fyddech chi?
Pe bawn yn cael dewis, yr ateb fyddai cricedwr proffesiynol. Byddwn wrth fy modd yn chwarae criced dros Forgannwg a dyma oedd fy uchelgais pan oeddwn yn rhan o’r academi yno.
Sut ydych chi’n ymlacio ac yn anghofio am chwaraeon?
Rwy’n ei chael yn anodd i wneud hynny, yn enwedig pan fydd gen i waith academaidd i’w wneud, ond rwyf wedi cael rhyw faint o gyfle i brofi bywyd myfyriwr!