CADW'N HEINI YN YR HEN FECWS
23 Ebr 2007
Anghofiwch am fara ffres a chacennau cri, camwch drwy ddrws yr Hen Fecws yn Nhreruffydd ac fe gewch hyd i lond lle o fagiau cicio ac offer gym.
Yn 2006, cafodd yr hen fecws ei adnewyddu’n llwyr ar gost o £55,000 - a gyllidwyd yn rhannol gan grant gwerth £20,000 gan y loteri, drwy gyfrwng Cyngor Chwaraeon Cymru – i’w drawsnewid yn academi ffitrwydd a chwaraeon ymladd yn agored i’r gymuned gyfan.
A bron i flwyddyn ers agor ei drysau, mae Fighting Fit yn llewyrchus iawn.
Cynhelir sesiynau taecwando yno rhwng dydd Llun a dydd Iau a darperir ar gyfer pob oedran. Mae’r ystafell ffitrwydd yn fwrlwm o weithgarwch o fore gwyn tan nos.
Mae’r ganolfan yn ychwanegiad i’w groesawu mewn ardal heb ddigon o gyfleusterau hamdden ar gyfer pobl ieuainc. Yn lle troi eu traed ar gornel y stryd, mae’r bobl ieuainc wedi cael opsiwn iachach i gymryd rhan ynddi, i atal eu diflastod, ac mae’r oedolion yn cael gwneud rhywbeth iachach na gwylio’r teledu.
Yn llywio’r prosiect o’r dechrau, mae Jo Draper wedi buddsoddi amser ac arian yn Fighting Fit. Meddai: "Mae wedi bod yn llafur cariad i gyd. Mae ffitrwydd wedi bod yn eithriadol bwysig i mi erioed ac rwyf eisiau gweld mwy o bobl yn sylweddoli pa mor fuddiol ydyw.
"Wrth i’r gair fynd ar led, rydym wedi gweld mwy a mwy o blant yn ymuno â’r dosbarthiadau. Maent yn dod hyd at deirgwaith yr wythnos ac yn cael cymryd rhan mewn ymarfer hwyliog gyda’u ffrinidiau. A chan fod y cyfleuster ar garreg eu drws, nid yw cludiant ac amser yn broblem i’r rhieni."
I’r rhai sy’n amharod i fynychu clybiau iechyd mawr, mae Jo wedi canfod ateb. "Mae’n gym gymunedol yn cael ei rhedeg ar gyfer pobl y gymuned. Wrth i chi ddefnyddio’r offer, ’fyddwch chi byth ar eich pen eich hun, bydd gennych staff wrth law i’ch helpu drwy gydol eich ymarfer, yn eich cynghori ynghylch beth ddylech ac na ddylech fod yn ei wneud. Bydd y rhaglenni ymarfer personol yn eich rhoi ar y llwybr iawn o’r dechrau. Gall pobl dreulio awr heb gyflawni unrhyw beth, ond gyda ni byddant yn cael gwell canlyniadau yn hanner yr amser."
Mae’r ganolfan hefyd yn cynnig rhaglen 6 wythnos i ferched sydd eisiau colli pwysau a bod yn fwy siapus. Yn edrych ar y darlun cyfan wrth geisio rhoi sylw i golli pwysau, mae’r rhaglen yn cynnwys cynllun bwyta doeth a threfn ymarfer a oruchwylir. 
Ac nid yw Fighting Fit yn ei gyfyngu ei hun i’r gym ac i chwaraeon ymladd. Mae dosbarthiadau hyfforddiant cylched, aerobics a dawns wedi’u cyflwyno yn y ganolfan hefyd. A cheir cynlluniau ar droed i ddatblygu crèche ar y safle i’w gwneud yn haws fyth i rieni gael hyd i amser i ymarfer.
Mae’r ganolfan wedi gweld cynnydd cyson yn y niferoedd a nawr mae ganddi hyd at 20 o bobl ym mhob dosbarth a mwy na 90 o bobl yn defnyddio’r gym.