TRIATHLON RHYNGWLADOL YN DOD I FLAENAU GWENT
27 Maw 2007
Bydd Triathlon rhyngwladol pwysig iawn yn cael ei gynnal ym Mlaenau Gwent ym Mehefin, diolch i arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
Cynhelir un o gymalau Cyfres Elît Corus 2007, cyfres o dair ras sy’n denu athletwyr o bob cwr o’r Deyrnas Unedig a’r byd, ym Mharc Bryn Bach, Tredegar ar 9 Mehefin.
Triathlon yw’r gamp sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, ac mae’n cyfuno nofio, rhedeg a beicio. Mae gan Gymru garfan gref o driathletiaid sydd ymhlith goreuon y byd ac sy’n profi llwyddiant rhyngwladol yn rheolaidd, gan gynnwys Helen Tucker, Andrea Whitcome a Mark Jenkins.
Dechreuir ras Parc Bryn Bach drwy nofio 1500m yn Llyn Bryn Bach, yna beicio 40km yn gyflym ar lwybr beicio’r parc ar hyd ffordd gaeedig. Bydd y cystadleuwyr yn gorffen drwy redeg 10km o amgylch y llyn. Y ras hon hefyd fydd Pencampwriaeth Triathlon Elît Prydain.
Yn ôl Helen Tucker (23), Pencampwraig Triathlon Prydain, sy’n dod o Ben-y-bont ar Ogwr, "Rwy’n falch iawn bod Cyfres Triathlon Elît Corus yn dod i Gymru ac y bydda i’n gallu amddiffyn fy nheitl o flaen fy mhobl fy hun. Dechreuais i gymryd rhan mewn Triathlon pan o’n i tua 16 oed, ar ôl i hyfforddwr triathlon Cymru gysylltu â’n clwb nofio ni a gofyn fyddai unrhyw un ohonon ni’n hoffi rhoi cynnig ar y gamp. Rwy wedi cael cefnogaeth a hyfforddiant rhagorol ac rwy wedi llwyddo i gyrraedd y podiwm mewn rasys Cwpan y Byd yn ogystal â dod yn bencampwraig hŷn Prydain. Rwy’n edrych ymlaen i gymryd rhan ym Mharc Bryn Bach; dylai fod yn ddiwrnod arbennig iawn gyda chymaint o driathletiaid da o Brydain a thramor yn bwriadu cystadlu."