BOWLIO’N ADFYWIO’R GALON A’R MEDDWL

22 Tach 2006

Mae cleifion cardiag Rhondda Cynon Taf yn camu ar y lawnt fowlio fel rhan o gynllun i adfer eu hiechyd.

Y cleifion eu hunain fu’n galw am gynnwys y gêm yn eu rhaglen adfer wedi darganfod bod y gamp yn arwain at fanteision corfforol a seicolegol iddynt.

Mae’r giwed fowlio newydd yn chwarae’r gêm yn rheolaidd yn awr, ond heb eu set bersonol eu hunain o offer, roedd y chwarae yn ystod yr haf yn cael ei gyfyngu i Lawnt Gelli Galed ac i ddefnyddio offer y clwb.

Ond gall y criw edrych ymlaen yn awr at chwarae’r gêm drwy gydol y flwyddyn. Mae grant gwerth £750 gan y Gist Gymunedol wedi galluogi i Wood ‘n’ Hearts brynu saith set o fowls, sy’n golygu y gallant chwarae’r gêm yng Nghanolfan Hamdden y Rhondda yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae’r sesiynau nid yn unig yn cynnig cyfle i ymarfer oddi mewn i’r cyfyngiadau a gynghorwyd ond hefyd mae agwedd gymdeithasol y gêm yn golygu eu bod hefyd yn dod yn ffrindiau gyda chleifion eraill.