CHWARAEON O A - Y Yn 2007

N Nofio! Ymarfer perffaith i bob rhan o’r corff! Gan fod y dwr yn cymryd y straen, mae’r ymarfer hwn yn ysgafn ar y cymalau, yn dda i’r galon ac yn siapio’r corff cyfan. Mae menter Nofio am Ddim Llywodraeth Cynullad Cymru ar gyfer pobl dros 60 oed yn mynd o nerth i nerth. Cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol am fanylion.

O Dydi oedran ddim yn eich rhwystro rhag cymryd rhan mewn camp neu weithgaredd corfforol newydd. Mae gan gadw’n heini lawer o fanteision – rydych yn teimlo’n fwy bywiog, gallwch gwrdd â phobl newydd a mwynhau gweithgaredd newydd, heriol o bosibl.

P Pilates! Y gair mawr yn y byd ymarfer ar hyn o bryd! Ymhlith y dilynwyr mae Madonna ac mae’n amlwg pam. Mae’n ymarfer sy’n gweithio ar yr egwyddor o wneud llai i ennill mwy. Mae’n canolbwyntio ar ailadrodd symudiadau’n araf a phwyllog er mwyn cryfhau’r cyhyrau a ddefnyddir yn llai aml.

Ph A Phêl Droed! Boed yn chwarae pump-bob-ochr mewn cynghrair Sul neu’n cicio pêl yn y parc gyda swimperi’n byst, mae chwarae pêl droed yn ffordd ddelfrydol o wella cydsymudiad a lefelau ffitrwydd cyffredinol.

R Rowlio lawr yr allt! Sglefrolio – mae gwisgo’r offer iawn yn rhoi ymarfer da i chi sy’n siapio’r cluniau ac yn gwella cydsymudiad. Mae hefyd yn hwyl i’r teulu i gyd!

Rh Rhaid deall cyfyngiadau eich corff. Peidiwch â’i gor-wneud hi a chofiwch bod raid i ymarfer fod yn hwyl bob amser!

S Stereoteipiau - Anghofiwch y stereoteipiau o gyms yn llefydd diflas llawn cyfarpar dychrynllyd a chyrff perffaith. Bydd gym da yn eich cyflwyno i’r cyfarpar ac yn llunio rhaglen ymarfer arbennig i chi.

T Tri deg munud o ymarfer bum niwrnod yr wythnos sydd ei angen i fyw’n iach!

Th A theimlo’n well! Byddwch yn llawer bywiocach ac egn?ol wedi dechrau ymarfer yn rheolaidd.

U Mewn UNDEB mae nerth. Beth am fynd â ffrind neu aelod o’r teulu gyda chi i ymarfer a rhannu eich amcanion a’ch nodau.

W Yr Wyddfa a’i chriw! Mae cerdded mynyddoedd gyda bag ar eich cefn yn magu cryfder a dygnedd. Os am ymarfer sy’n cyfuno cerdded, dringo, hyfforddiant pwysau ac aerobics, a hynny gan wynebu holl elfennau byd natur, cerdded yw’r gamp i chi. Yn ogystal â’r golygfeydd hardd a welwch, byddwch yn gymaint iachach wrth ymarfer y galon, yr ysgyfaint a’r cyhyrau.

Y Ymarfer, ymarfer, ymarfer! Mae coesau, boliau a phenolau, aerobics a bocsarfer ymhlith dim ond rhai enghreifftiau o’r dosbarthiadau a gynhelir yn eich canolfan chwaraeon leol a bydd amrywiaeth ar gyfer pob awydd a gallu.