CHWARAEON O A - Y Yn 2007
Yn ystod 2007 mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n eich herio i osgoi mynd yn ôl i’ch hen drefn a chadw’r addewid a wnaethoch i chi eich hun ar y 1af o Ionawr. Mae’n amser wynebu eich esgusodion, estyn yr esgidiau ymarfer a gosod nod i chi eich hun o fod yn berson newydd yn y Flwyddyn Newydd!
Darllenwch drwy’r rhestr isod yn nhrefn yr wyddor er mwyn cael cyngor defnyddiol ynghylch cadw’n heini a’r adeg yma y flwyddyn nesaf, eich addewid fydd nid CEISIO BOD YN HEINI ond AROS YN HEINI! Does ond gobeithio...
A Awyr agored! Mae chwaraeon yng nghefn gwlad Cymru yn cyfuno teithiau cerdded rhagorol gyda golygfeydd hyfryd.
B Mae beicio’n ffordd berffaith o werthfawrogi’r golygfeydd trawiadol sydd o’n cwmpas a hanes a gogoniant naturiol Cymru ar ei orau. Ac os ydych eisiau mynd am dro i’r wlad ar gefn beic, yna gall Bwrdd Croeso Cymru eich helpu i gael hyd i’r llwybrau sydd ymhlith y gorau yn y byd.
C Cicfocsio – yn llai ffurfiol na’r dosbarthiadau chwaraeon ymladd traddodiadol ond yn ffordd wych o losgi calor?au, dysgu sut i amddiffyn eich hunan a magu cydbwysedd a chydsymudiad.
Ch Chwyrnu’n braf! Nid yn unig mae ymarfer yn dda i wella cryfder, ffitrwydd a symudoledd a rhyddhau’r endorffinau pwysig hynny, mae hefyd yn eich helpu i gysgu’n dda a chwyrnu’n braf, gan roi cyfle i’r corff a’r meddwl adfywio a pharatoi at ddechrau eto y bore wedyn!
D Draig! Mae Campau’r Ddraig yn rhaglen gan Gyngor Chwaraeon Cymru sy’n ceisio annog plant i gadw’n heini ac iach o oed cynnar. Ymhlith y chwaraeon a gynigir mae rygbi, criced a phêl droed y Ddraig. Gall arwyr chwaraeon Cymru, fel Tanni Grey-Thompson, Scott Gibbs a Simon Jones, gyfrif eu hunain yn Llysgenhadon i Gampau’r Ddraig.
Dd Y Ddawns Enwocaf? Salsa. Llwybr at well corff! Mae 30 munud o ddawnsio salsa’n llosgi rhwng 200 a 400 o galor?au – cymaint ag y byddech yn eu lloosgi yn cerdded, nofio a reidio beic.
E Élite Cymru - Ceisiwch ysbrydoliaeth gan ein hathletwyr ieuainc addawol yng Nghymru.
F Foli!! Pêl foli! Gêm a chwaraeir ar y traeth fel arfer neu yn eich canolfan chwaraeon leol efallai. Yn cael ei chwarae ar gwrt gyda rhwyd uchel ac mae’n rhaid taro’r bêl drosto gyda’ch dwylo neu eich dwrn. Ymarfer da i fagu cryfder, i sicrhau cydsymudiad y dwylo a’r llygiad ac i fod yn gyffredinol heini.
Ff Ffrindiau. Cadwch yr elfen gymdeithasol o’r ymarfer yn rhan bwysig er mwyn sicrhau bod gennych gymhelliant i ddal ati.
G Gwnewch eich gorau i roi’r gorau i ysmygu er mwyn gwella cyflwr eich ysgyfaint a’ch gallu i ymarfer.
Ng Fy nghluniau mawr! Efallai fod pêl rwyd yn eich atgoffa o nicyrs gymnasteg mawr diolwg – ond mae pethau wedi newid! Mae clybiau’n darparu ar gyfer y categori ‘O diar, dwi heb gydio mewn pêl ers deng mlynedd’ a’r rhai sy’n chwarae ar lefel genedlaethol.
H Hyderus? Mentrus? Beth am roi cynnig ar chwaraeon eithafol? - "Ffurfiwch giw i wneud Naid Bynji!"
I Ioga – dyma ffordd ddelfrydol i ymlacio a siapio’r corff yr un pryd. Yn canolbwyntio ar anadlu, meddwl ac ymestyn, mae’n sicrhau cydweithrediad rhwng y corff a’r meddwl er mwyn hybu synnwyr o deimlo’n dda.
J Joio. Mae’n rhaid i chi gymryd rhan mewn gweithgaredd rydych eisiau dychwelyd dro ar ôl tro ato.
L Ewch yn ôl at loncian, yr hen ffefryn! Y cyfan rydych ei angen yw pâr golew o esgidiau ymarfer a ffordd agored (neu beiriant cerdded o gofio am ein tywydd ni yma yng Nghymru). Mae’n ymarfer da i losgi calor?au, tynhau’r cyhyrau a lleddfu straen.
Ll Llosgwch galor?au drwy ymarfer gan siapio’r corff a cholli pwysau!
M Mwynhau! Dysgwch fwynhau ymarfer a fyddwch chi byth eisiau rhoi’r gorau iddi wedyn!