10 RHIF I NEWID EICH BYWYD
Drwy gydol ein hoes, mae cyflwr ein hiechyd yn cael ei ddiffinio gan rifau – faint o galorïau ddylech eu bwyta bob dydd, indecs màs delfrydol eich corff a chyfradd eich pwysedd gwaed i enwi dim ond rhai.
I gefnogi’r cynllun a lansiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Her Iechyd Cymru, mae Cyngor Chwaraeon Cymru wedi enwi deg o rifau pellach a fydd o gymorth i chi wneud newidiadau i’ch corff a’ch meddwl ac, o’u hychwanegu at y sylfeini, byddwch yn hynod iach!
5 y dydd!
Mae’r Cymry’n bwyta llai na thri chyfran o ffrwythau a llysiau y dydd ar gyfartaledd. Er hynny, mae astudiaethau wedi dangos bod bwyta pum cyfran o ffrwythau a llysiau y dydd yn cynnig amrywiaeth o fanteision iechyd.
Ceir llawer o fitamin C mewn ffrwythau a llysiau, a ffibr a maethynnau eraill. Drwy gymryd rhan mewn ymarfer corff a sicrhau bod pwysau eich corff yn iach, mae bwyta o leiaf pum cyfran o ffrwythau a llysiau y dydd yn eich gwneud yn iachach ac yn lleihau’r risg o gancr, afiechyd ar y galon, gordyndra, strôc, y clefyd siwgr a salwch difrifol arall.
10,000
Yn ddelfrydol, rhwng y camau diog yna ben bore i’r ystafell ymolchi a’r camau blinedig i fyny’r grisiau i’r gwely gyda’r nos, dylech fod yn cerdded 10,000 o gamau y dydd, sef rhyw 5 milltir neu 8 cilometr.
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn cerdded ryw 4,000-6,000 o gamau y dydd heb feddwl am y peth ac mae hyd yn oed y bobl sydd ar eu heistedd mewn swyddfa drwy’r dydd yn gwneud rhyw 2,000 o gamau.
Ond mae un peth yn sicr, fyddwch chi ddim yn gwybod sawl cam ychwanegol ddylech chi fod yn eu cymryd oni bai eich bod yn gwybod faint ydych yn ei gerdded yn barod.
Mae pedometrau’n amrywio o ran pris a safon ond mae gan y rhan fwyaf ohonynt sgrîn ddigidol sy’n dweud wrthych sawl cam rydych wedi’u cymryd. Maint bocs matsys yw pedometr, mae’n clipio ar eich gwregys ac mae’n cael ei ystyried gan yr arbenigwyr fel arf effeithiol iawn i’ch helpu i greu cenedl iachach.
5x30
Mae canllawiau’r Llywodraeth yn cynghori y dylai oedolion gymryd rhan mewn o leiaf 30 munud o weithgarwch cymedrol bum gwaith yr wythnos o leiaf. Dylai ymarferion o ddwysedd cymedrol wneud i chi deimlo ychydig yn gynhesach a cholli ychydig ar eich gwynt. Does dim raid i’r 30 munud fod ar un tro – gallwch ei rannu’n ddau chwarter awr neu’n dri deng munud. Er enghraifft, gall gynnwys cerdded yn gyflym am ddeng munud yn lle mynd ar y bws neu neidio i’r car i wneud siwrne fer.
8 x 8
Mae’r arbenigwyr yn awgrymu eich bod yn yfed wyth gwydraid o ddwr y dydd er mwyn byw yn iach.
Dwr yw bron i ddwy ran o dair o holl bwysau ein corff ac mae’n cael ei golli’n ddyddiol drwy anweddu wrth i ni anadlu ac wrth i ni chwysu wrth ymarfer.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn argymell ein bod yn adfer yr hylif a gollir drwy yfed lleiafswm o 1.5 litr o ddwr y dydd (6-8 gwydraid) er mwyn gwneud yn siwr bod y corff yn gallu gweithio ar ei orau.
Er hynny, canfu arolwg diweddar gan wneuthurwr diodydd o Brydain, Silver Spring, bod llai nag un o bob 10 ohonom yn yfed digon o ddwr i fod o fudd i’n hiechyd (Chwefror 2005).
1/4
Mae 26% o bobl Cymru’n ysmygu. Er hynny, mae 27% o bobl Cymru’n gyn-ysmygwyr sydd wedi llwyddo i roi’r gorau i’r arfer sy’n lladd cyfartaledd o fwy na 300 o bobl yn y DG bob dydd.
Rydym yn gwybod bod ysmygu’n cyfrannu at gancr yr ysgyfaint, afiechyd ar y galon, llid yr ysgyfaint ac emphysema. Yn fwy na hynny, ceir problemau iechyd eraill, sydd wedi derbyn llai o gyhoeddusrwydd, yn sgil ysmygu. Gall effeithio ar eich gallu i flasu ac arogli. Mae ysmygwyr yn fwy tebygol o ddatblygu crychau ar eu hwyneb o oedran iau a chael problemau gyda’u dannedd. Mae wlseri yn y stumog yn mynd yn waeth wrth ysmygu ac mae creithiau, yn cynnwys creithiau llawdriniaethau, yn cymryd mwy o amser i wella os ydych yn ysmygu.
15
...munud. Dyna faint ddylai unigolyn iach a heini ei gymryd i gerdded milltir. Mae gwneud hynny’n llosgi’r un faint o galor?au ag y mae rhedeg milltir mewn 8.30 munud.
Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru eisiau creu cyfleoedd i bawb fwynhau’r awyr agored. Cewch wybod mwy am y Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a’r Llwybrau Cenedlaethol ledled Cymru a dechrau mwynhau mynd am dro yng nghanol tirlun trawiadol Cymru drwy edrych yn www.ccw.gov.uk
30 - 37
Maint gwasg merched Prydain yn 1960 oedd 30 modfedd ar gyfartaledd. Ers hynny, mae wedi cynyddu saith modfedd, i 37. Mae arbenigwyr wedi datgan bod unrhyw ddynes gyda gwasg mwy na 35" yn or-dew yn feddygol.
289
Dyma faint o galoriau sydd mewn donut jam. Byddai’n rhaid i ddynes sy’n ddeg stôn redeg am 29 munud ar gyflymdra o filltir mewn deg munud i losgi’r caloriau yma. Mae’n werth ystyried a ydych yn fodlon cosbi eich hun am bron i hanner awr am funud o bleser!
9%
Mewn unrhyw wythnos, bydd rhyw 9% o boblogaeth y DG yn dioddef o fân-iselder. Gall ymarfer yn rheolaidd atal hyn, gan wneud i chi deimlo’n iachach a gwella eich system imiwnedd. Bydd hefyd yn galluogi’r meddwl i ymdopi’n well gyda bywyd modern prysur.
95
Y nifer o galoriau y mae’n rhaid i chi eu hepgor mewn diwrnod i golli rhyw 10 pwys mewn blwyddyn. Osgowch y silffoedd fferins a byrbrydau melys yn yr archfarchnad a pheidiwch ag estyn am y ddwy fisged olaf yn y tin a bydd y pwysi’n syrthio oddi ar eich corff. Gwaetha’r modd, mae’r gwrthwyneb yn wir hefyd. O fwyta 95 calori ychwanegol y dydd, bydd gennych ddeg pwys ychwanegol i’w gario o gwmpas erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae Her Iechyd Cymru yn galw ar sefydliadau a phobl i gydweithio i wneud Cymru’n lle iachach a gwell i fyw ynddo. Gallwch osod her bersonol i chi eich hun i gymryd camau i wella eich iechyd, neu her gyda’ch teulu neu’ch ffrindiau. Am becyn gweithredu rhad ac am ddim gyda syniadau ynghylch beth allwch chi ei wneud, ffoniwch 0845 606 4050 neu ewch am dro i www.healthchallenge.wales.gov.uk