HALLER YN CIPIO GWOBR HYFFORDDI BWYSIG
23 Tach 2006
Cyflwynwyd y brif wobr yng ngwobrau Hyfforddwr y Flwyddyn blynyddol Cyngor Chwaraeon Cymru i’r gwr fu’n gyfrifol am feithrin talent llu o nofwyr o safon y byd.
Derbyniodd Dave Haller, Prif Hyfforddwr Clwb Nofio Dinas Caerdydd, wobr ‘Hyfforddwr y Flwyddyn’ mewn seremoni grand yn Athrofa Chwaraeon Cymru’r Cyngor Chwaraeon wedi blwyddyn pryd gwelwyd ei ddisgyblion yn disgleirio ar y llwyfan nofio rhyngwladol.
Yn briodol, yn y lleoliad hwn yng Nghaerdydd y mae’r cyn-nofiwr sbrintio dull rhydd enwog, sy’n 61 oed, wedi bod yn meithrin talent David Davies – enillydd medal efydd Olympaidd ac enillydd medal aur yng Ngemau Cymanwlad 2006 yn y 1500m dull rhydd a’r efydd yn y 400m dull rhydd.
Ac mae Davies yn fwy na pharod i dynnu sylw at gyfraniad ei fentor at ei yrfa lwyddiannus:
"Mae fy medalau yn perthyn i Dave hefyd. Mae gyda mi ym mhob sesiwn hyfforddi ac mae’n wych am fy nghymell. Rydym mor ffodus i’w gael yma yng Nghymru – mae ei brofiad yn ddiguro, ei wybodaeth yn rhagorol ac, yn bwysicach na dim, mae’n hyfforddwr sy’n deall ac yn berson grêt."
Ac mae’r pencampwr 21 oed o’r Barri mewn cwmni da gan fod Mark Foster a’r pencampwyr Olympaidd, David Wilkie a Duncan Goodhew, wedi bod dan adain Haller ar un adeg hefyd.
Yn wir, nid yw cipio’r wobr hon yn ddieithr i Haller, sy’n hanu o’r Bontfaen. Derbyniodd yr un anrhydedd yn union yn ystod blwyddyn pryd gwelwyd Davies, yn 19 oed bryd hynny, yn nofio o’r newydd ac yn sicrhau medal efydd bythgofiadwy yn y dull rhydd 1500m yng Ngemau Olympaidd Athen yn 2004.
Ers hynny – gyda llygad barcud Haller yn ei wylio – mae Davies wedi datblygu’n rym dull rhydd nodedig iawn ar y llwyfan rhyngwladol.
Mae ei frwydro cyson gyda sêr y byd 1500m, Grant Hackett a Larsen Jensen, wedi ei godi i’r lefel uchaf yn y gamp a chadarnhaodd ei fedalau efydd yn Athen ac ym Mhencampwriaethau Nofio’r Byd yn 2005 ym Montreal bod gan Haller gystadleuydd arbennig iawn ar ei lyfrau, un gyda siawns o gipio aur Olympaidd.
Mae pencadlys Haller wedi llwyddo i ddenu cyd-nofiwr Olympaidd Davies hefyd, sef yr Albanwr, Gregor Tait, a gipiodd sawl medal ym Melbourne.
Adleolodd Tait o brifddinas yr Alban i Gaerdydd yn 2004 i weithio gyda Haller yn ystod y cyfnod yn arwain at Gemau Cymanwlad 2006 a sicrhaodd ddau fedal aur unigol ac un medal efydd unigol yng Nghanolfan Ddyfrol Melbourne, yn ogystal â medal efydd y tîm. O ychwanegu ei gyfanswm ef at ddau fedal Davies, cawn gyfanswm o chwe medal Cymanwlad i’r hyfforddwr.
Does dim rhaid dweud bod gyrfa Haller yn orlawn o uchafbwyntiau arbennig. Ymddeolodd fel nofiwr cystadleuol yn 1965 ac yna dechreuodd ar yrfa hyfforddi sydd wedi para am 41 o flynyddoedd.
Ymhlith yr uchafbwyntiau mae ei benodi fel hyfforddwr Olympaidd ar gyfer Gemau 1976 a 1980. Yn ystod ei gyfnod yn rheoli, daeth Tîm PF yn ail ym Mhencampwriaethau Dynion y Byd gan ennill Tîm y Flwyddyn Chwaraeon y BBC. Oherwydd ei dalent, bu yn Honk Kong am gyfnod o ddeng mlynedd cyn dychwelyd adref i ofalu am Glwb Dinas Caerdydd yn Athrofa Chwaraeon Cymru.
Ymhlith yr hyfforddwyr eraill a gipiodd wobrau heddiw roedd:
HYFFORDDWRAIG Y FLWYDDYN
Sue Parry, Nofio, Abergele
Mae Sue wedi rhoi bron i ddeng mlynedd i redeg Clwb Nofio Abergele ac mae wedi cyflawni sawl rôl yno, yn hyfforddi ac yn gweinyddu. Y clwb hwn yw’r unig sefydliad gwirfoddol yn y DG i ennill y Wobr Buddsoddwyr Mewn Pobl – a Sue oedd un o’r bobl allweddol a fu’n helpu i roi’r darnau pwysig at ei gilydd i sicrhau canlyniad llwyddiannus fel bod y clwb yn ennill y dyfarniad hwn.
Mae Sue wedi gwneud cynnydd drwy system addysgu CNA i fod yn hyfforddwr clwb lefel 3 ac yn ddiweddar cofrestrodd ar gyfer y cymhwyster lefel 4. Mae wedi hyfforddi nofwyr sydd wedi sicrhau llwyddiant mawr yn y Grwpiau Oedran Cenedlaethol yn Sheffield, gan gipio medalau aur, arian ac efydd niferus a sicrhau gwelliannau niferus wrth gymharu â blynyddoedd blaenorol
Eleni yn unig enillwyd 72 o fedalau mewn cyfarfodydd yn amrywio o gyfarfodydd dechreuwyr i rai rhyngwladol. Yn ychwanegol at ofynion corfforol hyfforddi, mae Sue yn rhoi oriau bob wythnos i gynllunio a pharatoi rhaglenni hyfforddi amrywiol ar gyfer pum sgwad ac mae’n teithio i Fanceinion yn wythnosol ble mae sgwadiau perfformio’n elwa o hyfforddiant cwrs hir hanfodol. Mae oddeutu 105 o nofwyr gyda galluoedd yn amrywio o ddechreuwyr i nofwyr gyda’r potensial i gyrraedd Safon y Byd yn elwa o’i harbenigedd a’i gallu bob wythnos.
2005-06 fu blwyddyn fwyaf llwyddiannus y clwb hyd yn hyn a gellir priodoli’r llwyddiant hwn i’r brwdfrydedd y mae Sue yn ei greu yn y sgwadiau a’i gallu i wthio athletwyr i’r eithaf. Yn ogystal â gweithio’n llawn amser, mae Sue yn rhoi 28 awr yr wythnos i’r clwb.
HYFFORDDWR GWIRFODDOL Y FLWYDDYN - PERFFORMIAD
Darrell Maynard, Athletau, Cwmbran
Mae Darrell wedi newid o fod yn athletwr i fod yn hyfforddwr mewn cyfnod cymharol fyr o amser. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae wedi cael llwyddiant rhyfeddol gyda’i athletwyr. Mae hyder a hyfforddiant Darrell wedi sicrhau bod dau athletwr yn gwneud cynnydd dramatig yn eu meysydd unigol. Enillodd Richard Hill (rhedwr 800m), sydd ar frig safleoedd Prydain ar gyfer 2006, le iddo’i hun yn nhîm Prydain ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop ac eleni sicrhaodd David Greene – a gafodd fedal ym Mhencampwriaethau Iau Ewrop – le ym Mhencampwriaethau Hyn Ewrop.
Mae Darrell hefyd wedi hyfforddi’r sbrintiwr 400m, Gareth Warburton, i sicrhau llwyddiant ym Mhencampwriaethau Dan Do’r Byd.
Yn ychwanegol at hyn, bu Darrell yn gweithio llawer gydag athletwyr ag anabledd sydd wedi gwneud cynnydd rhagorol. Dewiswyd ef yn Hyfforddwr Tîm ar gyfer tîm athletwyr gydag anabledd Cymru ar gyfer Gemau Cymanwlad 2006. Roedd hefyd yn hyfforddwr tîm ar gyfer Tîm PF a fu’n cystadlu ym Mhencampwriaethau IPC y Byd yn Assen, Yr Iseldiroedd. Mae wedi hyfforddi John McFall (Enillydd Medal Efydd Ewropeaidd, Enillydd Medal Arian IPC y Byd yn 2006 a rhif dau yn y Byd) a Lloyd Upsdell, a ddewiswyd ar gyfer y 100 metr ym Mhencampwriaethau IPC y Byd, a hyfforddodd Tracy Hinton wedi ei hanaf gan ei helpu i ddychwelyd i dderbyn Cyllid Safon y Byd unwaith eto.
Mae Darrell yn ddi-os wedi rhoi llawer o’i amser ac wedi darparu hyfforddiant o safon. Mae ei ymdrechion wedi’u gwobrwyo gyda chasgliad nodedig o fedalau a thorrwyd sawl record gan ei athletwyr.
HYFFORDDWR GWIRFODDOL Y FLWYDDYN – HYFFORDDWR CYMUNEDOL
Glyn Walters, Tenis, Pen-y-bont ar Ogwr
Ymunodd Glyn â Chlwb Tenis Dyffryn Garw yn 1973, gan ymwneud i ddechrau â’r clwb tri chwrt fel aelod gwerthfawr o’u tîm 1af. Daeth Glyn yn Gadeirydd y clwb yn 1995 ac mae wedi gweithio’n ddiflino drosto ers hynny a thros bobl ieuainc y gymuned leol.
Mae Glyn yn treulio 15-20 awr yr wythnos yn ddi-dâl yn gweithio i’r clwb tenis ac i’r gymuned leol. Yn ogystal â hyfforddiant, mae’n cynnal a chadw’r cyfleuster chwarae ac yn gwneud gwaith tebyg yn adeilad y clwb ei hun. Mae Glyn wedi codi £21,000 tuag at ailwynebu’r cyrtiau ac mae wedi diogelu dyfodol y clwb drwy gymryd y brydles ar y cyrtiau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Clwb iau yw Dyffryn Garw ac mae’n rhedeg rhaglenni hyfforddi a chystadlu cynhwysfawr i blant ac mae Glyn yn eu cydlynu yn ogystal â hyfforddi. Mae’r rhaglen yn cael ei chynnal dair noson yr wythnos yn ystod misoedd y gwanwyn, yr haf a’r hydref ac mae’n darparu ar gyfer plant 4 – 18 oed, gydag aelodaeth iau o 50.
Mae Glyn yn gweithio mewn partneriaeth gyda chynllun Campau’r Ddraig Cyngor Chwaraeon Cymru ac yn darparu Campau’r Ddraig yn y clwb, yn ogystal â gwyliau tenis rheolaidd ar gyfer ysgolion lleol. Mae hefyd yn darparu llawer iawn o weithgarwch tenis cymunedol ar gyfer yr ysgol gynradd leol – Babanod Gyngarw – a hefyd yn mynychu canolfan gofal dydd oedolion Pontycymer unwaith yr wythnos i ddarparu gweithgareddau tenis i oedolion sy’n gwella wedi dioddef o salwch meddwl. Yn ddiweddar, mae wedi ymwneud â gwyliau Chwaraeon Anabledd Cymru ar gyfer ysgolion ac mae’n helpu i ddarparu gweithgareddau tenis ar gyfer pobl ieuainc gydag amrywiaeth o weithgareddau corfforol.
Mae Glyn yn uchel iawn ei barch ym Mhontycymer gyda’r rhieni a’r plant yn meddwl y byd ohono. Mae’n darparu’r math o weithgarwch cymunedol drwy gyfrwng tenis sy’n cadw pobl ieuainc oddi ar y strydoedd ac yn rhoi cyfle iddynt gymryd rhan mewn chwaraeon sy’n cynnig manteision ffitrwydd corfforol, iechyd, seicolegol a chymdeithasol. Mae brwdfrydedd Glyn dros chwaraeon yn arwain tenis yng Nghlwb Tenis Dyffryn Garw ac yn sicrhau bod y ddarpariaeth denis yn parhau yn y gymuned am yr 80 mlynedd nesaf.
HYFFORDDWR POBL ANABL Y BYD CHWARAEON – PERFFORMIAD
Neil Smith, Beicio, Casnewydd
Mae Neil wedi mentora ac annog athletwyr i gyrraedd rhai o uchelfannau Paralympaidd y byd Beicio. Mae’r beiciwr Jody Cundy wedi elwa o hyfforddiant rhagorol Neil ac mae’n teimlo bod Neil wedi bod yn hollbwysig wrth iddo newid o fod yn nofiwr Paralympaidd i fod yn feiciwr. Mae Neil wedi darparu’r sgil, yr anogaeth a’r arweiniad yn y cyfnod yn arwain at gystadlaethau ac mae hynny wedi helpu Jody i ennill dau fedal aur Paralympaidd yr IPC, dwy Record Byd yr UCI a dal record byd yr IPC yn y Sbrint 1km.
Mae’n treulio llawer o oriau bob wythnos yn hyfforddi yng Nghasnewydd ble mae nid yn unig yn arwain Jody ond hefyd yn cynnig ei brofiad a’i wybodaeth i helpu sgwad sy’n cynnwys Nathan Tyrell a James Brookman – dau o feicwyr iau talentog Cymru sy’n rhif un yn PF.
Mae Neil yn hyfforddwr ffantastig ac yn wych am gymell. Mae’n teimlo’n angerddol ynghylch meithrin talent y beicwyr unigol sydd dan ei ofal.
HYFFORDDWR POBL ANABL Y BYD CHWARAEON – CYFRANOGIAD
Matthew Broadbent, Nofio a Boccia, Penarth
Mae Matthew wedi rhoi mwy na thair blynedd o’i amser i helpu pob plentyn arbennig i sicrhau llwyddiant mewn chwaraeon i’r anabl (Boccia). Mae Matthew wedi bod yn hyfforddwr gwirfoddol cefnogol iawn erioed a heb ei gymorth ef, ni allai clwb y Boccia Blasters ddal ati.
Ymunodd Matthew â Chlwb Nofio Anabl Siarcod Pen-y-bont ar Ogwr fel hyfforddwr gwirfoddol yn 2003. Mae’r clwb yn cynnal sesiynau hyfforddi ddwywaith yr wythnos ac mae Matthew – sy’n ddefnyddiwr cadair olwyn ei hun ac sydd wastad i’w weld ar ochr y pwll – yn teithio rhyw 30 milltir yn aml iawn ar gludiant cyhoeddus. Mae ymrwymiad Matthew i hyfforddi wedi galluogi i nofwyr newydd gystadlu mewn galas ledled Cymru a Lloegr.
Yn ogystal â’r dechreuwyr, mae aelodau eraill o’r clwb wedi elwa o hyfforddiant Matthew. Mae Scott Brown wedi ymuno â Sgwad Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn awr, mae Alan Davies yn gobeithio cael ei ddewis ar gyfer Cystadlaethau Cenedlaethol Hyn y DSE fis Tachwedd ac mae Chris Perry’n hyfforddi gyda Sgwad Iau Academi Nofio FfChAC.
ATHRO-HYFFORDDWR Y FLWYDDYN - CYNRADD
Satu Haikala, Ysgol Gynradd Nantmel, Llandrindod
Yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf, mae Satu wedi gweithio’n ddiflino i ddatblygu amrywiaeth eang o chwaraeon ar ôl ysgol yn Ysgol Gynradd Nantmel. Ceir 65 o blant yn yr ysgol ac mae mwy na hanner y disgyblion yng Nghyfnodau Allweddol Un a Dau yn cymryd rhan mewn chwaraeon ar ôl ysgol ac ar benwythnosau. Ymhlith y chwaraeon hyn mae pêl rwyd, hoci, pêl droed, rownderi, athletau, criced kwik a thraws gwlad.
Gan nad oes gan yr ysgol neuadd i hwyluso’r chwaraeon amrywiol yn ystod misoedd y gaeaf, mae’r disgyblion yn cyfarfod ar ôl ysgol unwaith yr wythnos yn y ganolfan hamdden leol, ble maent yn cael cyfle i chwarae gemau’n erbyn ysgolion eraill - ar ôl ysgol ac ar benwythnosau, ac maent yn cymryd rhan mewn twrnamentau amrywiol.
Mae Satu wedi annog criw brwdfrydig o rieni i helpu ac mae’n barod i roi o’i hamser rhydd er bod ei hymrwymiad fel athrawes yn enfawr mewn ysgol bentref.
Mae Satu yn athletwraig ei hun hefyd ac mae’n llwyddo i gyfuno’r ddwy swyddogaeth yn effeithiol.
ATHRO-HYFFORDDWR Y FLWYDDYN - UWCHRADD
Tracy Davies, Ysgol Gyfun y Coed-Duon, Y Coed-Duon
Mae Tracy wedi gweithio fel athrawes AG yn yr ysgol ers 1995. Wedi ailstrwythuro’r staff, fe’i penodwyd yn gyd-Arweinydd Tîm ar gyfer AG yn yr ysgol ac mae’r ysgol wedi datblygu enw da rhagorol am chwaraeon ac addysg awyr agored yn yr AALl a thu hwnt.
Yn 2005, adran AG yr ysgol oedd enillydd cyntaf Gwobr Goffa Dr Sue Noake wedi derbyn enwebiad gan Gymdeithas Chwaraeon Caerffili am ei gwaith yn hybu cyfranogiad chwaraeon mewn amrywiaeth o gampau ymhlith y disgyblion.
Mae gan bawb feddwl mawr o Tracy, nid yn unig y staff a’r disgyblion yn yr ysgol, ond staff a disgyblion yng Nghlwstwr Ysgolion Islwyn a’r AALl, oherwydd ei heffaith aruthrol ar chwaraeon ysgol.
Er ei bod wedi hyfforddi disgyblion unigol i’r lefelau uchaf, gellid dadlau mai am yr amrywiaeth anhygoel o weithgareddau y mae wedi’u sefydlu i’r disgyblion ar bob lefel y mae’n haeddu’r wobr, ac yn arbennig am ei gwaith gyda’r rhai na fyddai’n cymryd rhan mewn chwaraeon fel arall yn sicr. Mae Tracy wedi ymwneud â hoci, pêl rwyd, rownderi, gymnasteg, dawns, tenis, athletau, traws gwlad, sgïo, pêl droed, rygbi, clybiau ffitrwydd, addysg awyr agored a Champau’r Ddraig ac ym mhob camp mae wedi cyfrannu at gael disgyblion i gyrraedd safonau rhanbarth, cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae gwaith Tracy yn yr ysgol yn ysbrydoli mwy o gyfranogiad a gwell lefelau ffitrwydd ac mae’n hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol i ddatblygu ffyrdd o fyw iach, yn arbennig ymhlith y genethod. Trwy hynny, mae’n datblygu sylfaen gadarn ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol, pan fydd y disgyblion yn symud ymlaen at addysg bellach ac wedi derbyn swyddi yn y dyfodol. Mae wedi bod yn allweddol wrth helpu disgyblion i godi llawer iawn o arian at Ymchwil Cancr drwy gymryd rhan yn y ‘Ras Fywyd’ ac yn lleol ar gyfer yr apêl ‘Relay for Life’.
Meddai’r Gweinidog Chwaraeon, Alun Pugh, a wnaeth y cyflwyniadau heddiw:
"Heb gyfraniad gwerthfawr yr hyfforddwyr, yn broffesiynol ac yn gymunedol, ni fyddem yn gallu gwireddu dyheadau Dringo’n Uwch, ein strategaeth ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Dyna pam ein bod yn buddsoddi £3.9m yn y Cynllun Hyfforddi ar gyfer Cymru.
"Rydym eisiau cynyddu nifer yr hyfforddwyr a’r arweinwyr gwirfoddol a phroffesiynol yng Nghymru. Rydym hefyd yn ceisio gwella safon yr hyfforddi drwy gyfrwng addysg a hyfforddiant i greu mwy o gyfleoedd i bawb yn ein cymunedau ledled Cymru gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, fel ymateb i Her Iechyd Cymru."
Am wybodaeth bellach ynghylch sut i gymryd rhan mewn hyfforddiant ar bob lefel, ewch am dro i wefan Hyfforddiant Cymru yn www.hyfforddiantcymru.com neu cysylltwch â 0845 045 0904 / e-bost: coachingwales@scw.co.uk