TRECHU ANNWYD A FFLIW

First Aid BoxOs nad ydych wedi’i gael eisoes, mae ar ei ffordd. Ydi, mae’r amser hwnnw o’r flwyddyn wedi cyrraedd eto a daw’r symptomau cyfarwydd yna i’r golwg – cur pen, trwyn wedi cau a chyhyrau’n brifo – yn arwyddion un ac oll bod tymor yr annwyd a’r ffliw ar ein gwaethae unwaith eto. Ond mae gwaith ymchwil yn dangos bod gweithgarwch corfforol rheolaidd o gymorth i gadw pob dolur gwddw a pheswch draw.

Bydd oedolion y DG yn cael annwyd a ffliw deirgwaith y flwyddyn o leiaf, oherwydd heintiau firol yn y trwyn a’r gwddw. Oedolion sy’n dod i gysylltiad â phlant bach sydd fwyaf tebygol o gael eu heintio. Mae’n arferol i blant fod yn sâl gydag unrhyw beth rhwng pump a saith annwyd y flwyddyn gan fod eu systemau imiwnedd yn dal i ddatblygu.

Ond cyn i ni lenwi ein cypyrddau’n walltgof gyda phowdwr ffliw a chwilio ar hyd silffoedd yr archfarchnad am ffynonellau o Fitamin C, dylid cofio bod gwaith ymchwil yn dangos bod gweithgarwch corfforol yn gallu rhoi hwb i’n system imiwnedd heb i ni orfod llyncu tabledi di-ben-draw.

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru – sy’n gyfrifol am gyflwyno gweithgarwch corfforol a chwaraeon fel ymateb i strategaeth Dringo’n Uwch Llywodraeth Cynulliad Cymru – yn annog mwy ohonom i drechu annwyd a ffliw drwy gymryd rhan mewn dim ond hanner awr o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos.

Yn ôl yr International Journal of Sports Medicine, mae cerdded yn gyflym am ddim ond 45 munud y dydd yn haneru cyfnod ein salwch. Yn fwy na hynny, gall gweithgarwch corfforol rheolaidd helpu i fagu mwy o allu i wrthsefyll haint yn y lle cyntaf.

Pryd rydym ni mewn perygl fwyaf?

Mae profiad personol yn dangos bod y rhan fwyaf ohonom yn debygol o ddal annwyd drwy gydol y flwyddyn ond ceir tystiolaeth gynyddol hefyd sy’n awgrymu ein bod yn arbennig o agored i annwyd a ffliw yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf.

Mae annwyd yn mynd o un i’r llall wrth i ni disian, pesychu a chydio mewn gronynnau llygredig sydd wedi’u gadael ar handlenni drysau, rheiliau a ffonau lle gall y firws oroesi am oriau. Dyna pam fod yr haint yn symud mor rhwydd yn y cartref neu mewn swyddfeydd prysur ac mae’n cael ei drosglwyddo’n gyflym iawn i’n trwyn ac i’n llygaid wrth i ni gyffwrdd â hwy.

Meddai’r Athro Ron Eccles o Ganolfan yr Annwyd Cyffredin yng Nghaerdydd, "Rydym yn byw mewn oes euraid ar gyfer firysau anadlol fel yr annwyd a’r ffliw cyffredin." Gyda swyddfeydd prysur a systemau cludiant gorlawn, mae’r bacteria sy’n gyfrifol am achosi annwyd cyffredin a ffliw yn cael cyflenwad diddiwedd o drwynau i’w heintio.

Sut mae ymarfer yn helpu annwyd a ffliw?

Yn ôl yr arbenigwyr, ceir dwy ffordd o reoli ffliw ac annwyd yn llwyddiannus:

  • Paratoi

Gwaetha’r modd, oni bai eich bod yn oruwchnaturiol, does neb yn gallu atal eu corff rhag cael haint oherwydd ceir sawl math o facteria firol sy’n achosi annwyd a ffliw.

Fodd bynnag, mae Dr Mark Ridgewell, meddyg teulu ac arbenigwr ar feddygaeth chwaraeon yn dweud bod gweithgarwch corfforol o gymorth i roi hwb i’n hamddiffynfeydd naturiol cyn i ni gael ein heintio:

"Mae ymarferion aerobig cymedrol fel loncian, cerdded yn gyflym a beicio yn ystod y tymor annwyd a ffliw o gymorth i baratoi’r corff ar gyfer ymosodiad gan facteria dieithir drwy symbylu cylchrediad y gwaed a gwella swyddogaeth gardiag y corff. Mae hyn o gymorth i’r corff gynhyrchu macroffagau – celloedd gwyn allweddol sy’n ymosod ar facteria.

"Unwaith mae’n cael ei heintio, mae’r corff yn fwy parod i ymosod ar y firws yn gyflym. Felly er na fydd ymarfer yn ein hatal rhag dal annwyd a ffliw, bydd person sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn rheolaidd yn llai tebygol o ddioddef am gyfnod hir ac yn dyblu ei siawns o wrthsefyll haint pan fydd yn meddiannu’r cartref a’r gweithle."

  • Osgoi

Dengys tystiolaeth mai un o’r ffyrdd hawsaf o wneud drwg i’ch system imiwnedd yw drwy ddioddef o straen. Mae straen cynyddol bywyd modern mewn dinas yn gallu bod yn ffactor sy’n cyfrannu at lawer o heintiau annwyd cyffredin yn ein dinasoedd prysur.

Heb droi’n feudwy i osgoi haint, gallwch eich helpu eich hun drwy fynd allan i’r awyr agored i gerdded, yn arbennig yn ystod eich wythnos waith, pan gewch awr ginio neu egwyl ac yn ystod oriau cymudo prysur a chyda’r nos.

Gall gweithgarwch corfforol rheolaidd helpu i leddfu straen oherwydd mae’n cynhyrchu endorffinau cemegol sy’n hybu gallu’r corff i ymlacio. Mae ymarfer hefyd yn cael gwared ar docsinau o’r corff drwy ein hysgyfaint wrth i ni anadlu’n drwm a chwysu.

Faint o ymarfer ddylem ni gymryd rhan ynddo?

Yn ôl Dr Mark Ridgewell, gall ymarfer gormod gynyddu’r siawns o godi firws a dylid osgoi gweithgarwch corfforol bob amser os yn dioddef o dymheredd uchel.

Mae astudiaeth a gyhoeddwyd yn Medicine and Science in Sports and Exercise yn dangos nad oes raid i oedolion godi hanner can pwys na chofnodi milltiroedd lawer ar y felin gerdded na chymryd rhan mewn gweithgareddau tebyg eraill i gryfhau eu system imiwnedd cyn codi haint.

Meddai Dr Mark Ridgewell:

"Mae cymryd rhan mewn 30 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos ar gyflymdra sy’n gwneud i chi golli ychydig ar eich gwynt yn ddigon i gynyddu amddiffynfeydd naturiol y corff. Dydi hi byth yn rhy hwyr i ddechrau elwa o fanteision ymarfer ac mae pob ymdrech gymedrol yn talu ar ei chanfed."

OSGOI’R PRIF BERYGLON

AWYRIAD

  • Ewch oddi wrth eich desg yn rheolaidd am egwyl, yn arbennig mewn swyddfeydd prysur gydag awyriad, neu weithleoedd orlawn
  • Defnyddiwch eich amser cinio a phob egwyl i fynd am dro i gael awyr iach

MANNAU PRYSUR

  • Osgowch fannau prysur drwy fynd allan i gefn gwlad neu i lan y môr i gerdded

CLUDIANT CYHOEDDUS

  • Osgowch gludiant cyhoeddus neu fod yn y car wedi’ch cau i mewn drwy gerdded neu feicio cymaint ag y bo modd i’r gwaith
  • Cerddwch gyda’r plant i’r ysgol gymaint o weithiau ag y gallwch yn ystod yr wythnos

STRAEN

  • Defnyddiwch weithgarwch corfforol fel dull o leddfu straen, cwrdd â phobl newydd a chael hwyl

- Diwedd -

Am wybodaeth bellach am Gyngor Chwaraeon Cymru, cysylltwch â Hannah Pole ar 02920 33 8330 neu e-bost hannah.pole@scw.co.uk