DALEY AR LAW I DDARLITHIO YN Y STADIWM

29 Medi 2005

"Mae’r gwaith caled bron a dechrau," ddywedodd. "Wnaeth cynnal y Gemau Olympaidd yn 2012 ddim datrys ein problemmau efo disymydrwydd ond fydd yna digon o cyfleoedd i ail-gyflwyno plant i chwaraeon a iechyd unwaith eto. Mae gan pawb dyletswydd i gyflawni – rhienni, y Llywodraeth a athrawon. Mae’n rhaid i ni cefnogi a annog ein plant i gael ei ysbrydoli gan y digwyddiad anferth yma."

Cefnogwyd hyn gan Gyngor Chwaraeon Cymru a Mudiad Holland House yn y stadiwm. Cafodd gwahoddedigion o’r cymunedau duon ac ethnig lleiafrifol lawr agored i leisio’r materion chwaraeon sy’n effeithio arnynt. Roedd y Prif Weinidog Rhodri Morgan, cynrychiolwyr awdurdodau lleol a chyn-athletwyr ac athletwyr cyfredol, yn cynnwys cyn-Bencampwr 400m Dan Do y Byd, Jamie Baulch, yn bresennol yn yr achlysur hefyd.

Cafodd y swyddogion datblygu lleol gyfle i ddangos enghreifftiau o brosiectau lleol llwyddiannus a’r llwyddiant a gafodd partneriaid a gwirfoddolwyr lleol wrth ysbrydoli pobl yn y cymunedau lle ceir llawer o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i gamu ar y traciau a’r caeau o’u cwmpas.

Meddai Dr Olinga Ta’eed o Fudiad Holland House:

"Rydym yn hynod falch unwaith eto o allu darparu fforwm ar gyfer cynnwys a chydweithrediad rhwng aelodau ein cymunedau ethnig a’r asiantaethau cyflwyno yng Nghymru. Gyda’n gilydd, rydym yn edrych ar y ffordd y gall chwaraeon a gweithgarwch corfforol drawsnewid ein bywydau er gwell. Mae Holland House yn fodel ar lefel gyffredin ar gyfer y gymuned ethnig yng Nghymru ac rydym yn falch o gael cynnig i fod yn bartner i Gyngor Chwaraeon Cymru yn y bartneriaeth unigryw ac iach hon."

Meddai Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, Philip Carling:

"Mae’n bwysig ein bod yn gwneud yn siwr ein bod bob amser yn cynnwys ac, yn wir, yn targedu’r ardaloedd daearyddol lle mae’r rhwystrau mwyaf yn atal cymryd rhan, a ble gallwn ni a’n partneriaid gael yr effaith fwyaf. Bydd cyfleoedd chwaraeon i bawb - ar lefel gystadleuol a hamdden - yn darparu sylfaen ar gyfer Cymru iach. Mae’r achlysur hwn yn garreg filltir bwysig yn y gwaith o gyflawni’r nod hwn."