DALEY AR LAW I DDARLITHIO YN Y STADIWM

29 Medi 2005

Roedd Thompson newydd fod yn Llundain yn gweithredu fel Llysgennad i gais Llundain 2012 ond roedd y Pencampwr Olympaidd, Byd a Chymanwlad yn fwy na pharod i adrodd straeon am ei brofiadau ef mewn chwaraeon o’r iard chwarae yn yr ysgol hyd at ei ymddangosiad cyntaf yn y decathlon yng Nghwmbran yn 16 blwydd oed. "I Gymru mae’r clod am fy llwyddiant," oedd ei ateb parod.

Drwy gydol ei yrfa, mae ewyllys Thompson i lwyddo wedi ei weld yn goresgyn sawl rhwystr ac yn chwalu ffiniau. Mae’n dal i gael ei ystyried fel un o’r athletwyr gorau erioed ac mae ei fuddugoliaethau niferus, un ar ôl y llall, yn dweud cyfrolau am ei effaith ar y byd athletau, ar ei gyd-aelodau yn nhîm Prydain ac ar ei wrthwynebwyr.

Gosododd y gwr 47 oed record ar ôl record yn y gamp o ddeg elfen. Derbyniodd ei deitl rhyngwladol mawr cyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad yn Edmonton, Canada yn 1978. Dilynwyd hyn gan record byd newydd a dau deitl Olympaidd ym Moscfa yn 1980 ac yna yn Los Angeles yn 1984. Roedd ei benderfyniad a’i frwdfrydedd i gystadlu’n ei alluogi i reoli ei gamp nes i anaf ei orfodi i ymddeol yn 1992.

Ers gadael y cylch cystadlu yn y decathlon, mae Thompson wedi mynd ati i hybu cyfranogiad mewn chwaraeon a ffyrdd o fyw iach ac egnïol - ac yn sicr felly wrth iddo ymgymryd â’i swyddogaeth fel llysgennad i Gemau Olympaidd Llundain 2012.