DALEY AR LAW I DDARLITHIO YN Y STADIWM
29 Medi 2005
Efallai fod Daley Thompson CBE wedi cadw ei esgidiau rhedeg yn dilyn gyrfa lwyddiannus iawn ar y trac a’r cae, ond dydi cawr y byd athletau ym Mhrydain heb droi ei gefn ar chwaraeon yn gyfan gwbl o bell ffordd. 
Y degathletwr deheuig oedd y prif atyniad yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd neithiwr (28 Medi 2005) wrth i Gyngor Chwaraeon Cymru a Mudiad Holland House groesawu "Cynulleidfa gyda Daley Thompson".
Trefnwyd yr achlysur i dynnu sylw at y bartneriaeth a gafodd ei meithrin yn ddiweddar rhwng y Cyngor a’r mudiad ar lefel gyffredin ar gyfer cymunedau ethnig wrth iddynt geisio tynnu sylw at fanteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol, a hefyd ceisio cynyddu nifer y bobl dduon a’r bobl o leiafrifoedd ethnig sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru.
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n cydnabod bod gwahanol grwpiau ethnig yng Nghymru’n wynebu anghydraddoldeb mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon. Er hynny, drwy gyfrwng rhwydwaith o swyddogion datblygu a llu o bartneriaethau lleol a chenedlaethol, mae Cyngor Chwaraeon Cymru a Mudiad Holland House yn gweithio’n gyson i oresgyn y rhwystrau a wynebir gan y cymunedau hyn, rhwystrau a all eu hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.