AR Y TRAC YM MHLAS MENAI

31 Gorff 2006

Gan gynnig dewis diguro o gyrsiau chwaraeon dwr eisoes, mae gan Ganolfan Genedlaethol Plas Menai ger Caernarfon yn awr linyn arall i’w fwa.

Datblygwyd trac Sgiliau Beic Mynydd bron gilomedr o hyd a gynlluniwyd yn arbennig ar dir canolfan genedlaethol Cyngor Chwaraeon Cymru ar lannau’r Fenai. Cafodd y llwybr ei ddangos i’r cyhoedd heddiw (31 Gorffennaf) gan Alun Pugh AC, Gweinidog Chwaraeon y Cynulliad, a llu o blant ysgol lleol (31 Gorffennaf).

Cafodd y trac £30,000 – a alwyd yn ‘Trac Jackson’ er cof am y mynyddwr brwd John Jackson – ei adeiladu gan Simon Williams o Ffestiniog, sy’n ddylunydd gyda’r gorau yn y byd, a’i ariannu gan Blas Menai.

Mae Williams wedi cyfrannu ei arddull unigryw at lawer o gyrsiau beic mynydd gorau’r byd yn cynnwys y trac ar i waered yn Fort William, yr Alban. ‘Trac Jackson’ yw’r diweddaraf i gael ei ychwanegu at ei CV hyglod.

Roedd Alun Pugh, y Gweinidog Chwaraeon – sy’n seiclwr brwd ei hunan – wrth ei fodd gyda’r canlyniad.

"Mae’r trac yn ychwanegiad gwych i atyniadau presennol Plas Menai a bydd yn denu amrediad eang o bobl o blant sydd eisiau cael hwyl i seiclwyr mwy profiadol. Drwy ddarparu cyfleusterau fel y trac seiclo hwn, gobeithiwn y medrwn gael plant ifanc i gymryd rhan mewn ymarfer egniol a sefydlu arfer a fydd yn aros gyda hwy drwy gydol eu hoes".

Roedd y cynllunydd yn bresennol i weld y Gweinidog a Philip Carling, Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, ynghyd â phlant o Ysgol Sir Hugh Owen yn ymarfer eu sgiliau seiclo ar y trac sy’n cynnwys parc clogfaen a thri chylch sy’n addas ar gyfer dechreuwyr hyd at seiclwyr mwy profiadol.

Torrwyd y rhuban gan Mrs Eileen Jackson - gwraig y diweddar John Jackson - wrth i seiclwyr fynd ar y trac. Bu Mr Jackson yn Bennaeth y ganolfan ac yn Gyfarwyddwr Canolfan Mynydda Plas y Brenin.

Dywedodd Philip Carling, Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru:

"Mae Plas Menai yn parhau i ddatblygu fel cyfleuster hamdden sy’n denu teuluoedd, pobl sy’n frwd ar ffitrwyd a sêr chwaraeon fel ei gilydd. Mae gan ardal Gwynedd draddodiad balch o lwyddiant mewn chwaraeon a bydd cyflwyno’r trac newydd hwn yn sicrhau y gall hyn barhau.

"Mae seiclo yn weithgaredd y gall pobl o bob oedran a gallu cymryd rhan ynddo ac mae’r trac beic mynydd hwn yn rhoi cyfle iddynt roi cynnig ar agwedd arall ohono. Mae Plas Menai yn lleoliad lle gall pobl fwynhau chwaraeon a chadw’n heini ac iach gyda’u ffrindiau a’u teuluoedd a bydd y datblygiad newydd hwn yn ased bendant i’r ganolfan."