DAVIES YN MYNEGI'I SIOM O ORFOD TYNNU ALLAN O EWROP

14 Gorff 2006

David Davies a'i fedal aur yng Ngemau'r GymanwladHeddiw, datgelodd enillydd medal aur yn y Gymanwlad, David Davies, ei fod yn siomedig iawn o orfod colli’r cyfle i sicrhau lle ar y podiwm ym Mhencampwriaethau Ewrop yn ddiweddarach y mis hwn (26-30 Gorffennaf 2006).

Mae’r seren 21 oed o’r Barri – a nofiodd mor rhagorol i gipio medal aur y 1500m ac efydd y 400m dull rhydd yng Ngemau Melbourne 2006 – wedi gorfod wynebu cyfnod rhwystredig iawn ar ochr y pwll wedi llawdriniaeth ar droed heintus fis Mai. Ac mae’r broses o wella wedi cymryd mwy o amser na’r disgwyl.

Roedd Davies wedi cael ei gynnwys yn y sgwad cryf o 64 aelod o Brydain Fawr a oedd i fod i gystadlu am fedalau yn Hwngari, ond nawr bydd yn gorfod gwylio o’r gadair freichiau pan lwyfannir yr achlysur o 26ain Gorffennaf ymlaen.

"Roeddwn i eisiau aros tan y funud olaf cyn gwneud y penderfyniad i dynnu allan o’r Pencampwriaethau. Rwyf wedi treulio gormod o amser allan o’r dwr a thydw i ddim yn agos at fod yn heini ar gyfer rasio.

"Pencampwriaethau Ewrop yw un o gystadlaethau mwyaf y calendr nofio wedi’r Gemau Olympaidd a Phencampwriaethau’r Byd ac mae safon y cystadlu’n ddiguro. Felly, mae’n rhaid i chi fod ar eich gorau.
"Dyma’r unig gystadleuaeth fawr lle nad wyf wedi ennill medal ynddi, oherwydd roedd yn cyd-daro â Gemau Olympaidd Athen yn 2004 ac rwyf mor siomedig na fyddaf yno eto eleni.

"Mae’n anodd eithriadol gwylio’r cystadlu o’r cyrion ond rwyf wedi bod yn ôl yn y dwr ers peth amser a dydw i heb gael unrhyw broblemau gyda’m troed ers y llawdriniaeth.

"Rwy’n adeiladu tuag at y tymor nesaf yn awr a chystadlaethau cymhwyso Pencampwriaethau’r Byd fis Rhagfyr. Rwy’n gwbl ymroddedig i ddod yn ôl yn gryfach ac yn fwy heini yn nes ymlaen eleni."

Roedd disgwyl i’r 1500m dull rhydd fod yn un o uchafbwyntiau’r Pencampwriaethau gyda Davies yn herio rhif un enwog Rwsia, Yuri Prilukov, a gafodd ei wthio i’r pedwerydd safle gan y Cymro yng Ngemau Olympaidd Athen.

Y penwythnos hwn, bydd Davies yn cynnig rhai awgrymiadau arbennig iawn i seren Sioe Frecwast BBC Radio 1, a’i gyd-Gymro, Aled Jones, wrth iddo geisio nofio milltir er budd Sport Relief ym Manceinion.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Lynette Evans yng Nghyngor Chwaraeon Cymru ar 029 2033 8273 / lynette.evans@scw.co.uk
neu Layla Smith yn Nuff Respect ar 0208 891 4145 / layla@nuff-respect.co.uk