Ywgynghoriad Cynllunio
Ceisiadau Cynllunio:
Cyngor Chwaraeon Cymru yw’r ymgynghorai statudol ar gyfer ceisiadau cynllunio sy’n effeithio ar gaeau chwarae ac mae’r gwaith ymgynghori hwn yn cynnwys defnyddio deddfwriaeth a chyfarwyddyd perthnasol i gyflwyno sylwadau i awdurdodau cynllunio am y ceisiadau cynllunio hyn. Yn aml iawn mae hyn yn cynnwys anfon gwrthwynebiad ysgrifenedig at yr awdurdod cynllunio a gohebu’n barhaus (yn cynnwys ymweliadau safle) i weithio gyda’r awdurdod i warchod a darparu cyfleusterau chwaraeon a hamdden oddi mewn i ddatblygiadau. Yn aml mae angen gohebu gyda chlybiau a phobl leol ynghylch datblygiadau arfaethedig. Mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n cydweithio’n agos gyda’r Gymdeithas Gaeau Chwarae Genedlaethol yn y maes hwn. Mae adolygiad Nodyn Cyngor Technegol 16 ar gyfer Chwaraeon a Hamdden yn 1998 wedi cynnwys staff Grŵp Cyngor Technegol y Cynulliad.
Cynlluniau Datblygu Unedol/Lleol/Dogfennau Corfforedig:
Yn ogystal â chyflwyno sylwadau ar geisiadau cynllunio, mae’r Adran yn ymateb i ymgynghoriadau ynghylch Cynlluniau Datblygu Unedol (a bydd yn ymateb i’r Cynlluniau Datblygu Lleol yn y dyfodol) ac ymgynghoriadau’n ymwneud â mynediad a hawliau tramwy. Mae strategaethau ymgynghori amrywiol yr awdurdodau lleol neu’r Cynulliad angen ymateb hefyd os ceir cyfle i hybu datblygiad cyfleoedd chwaraeon a hamdden.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Becca Mattingley
