Gwasanaethau Ymchwil a Gwybodaeth

Gwerthuso

Menter Nofio Am Ddim

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru’n gweithredu fel asiant Llywodraeth Cynulliad Cymru gan gomisiynu a rheoli gwerthusiad o’r Fenter Nofio Am Ddim ar gyfer plant, pobl ieuainc a phobl hyn. Mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n cadeirio ac yn gwasanaethu Grwp Llywio’r Gwerthusiad.

Partneriaeth Hamdden Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru (PHAAGOC)

Mae’r cylch gorchwyl yn datgan ei bod yn ofynnol i CChC "gefnogi ar sail peilot wedi’i werthuso am 3 blynedd gan ddechrau yn 2005-06 y gwaith o weithredu’r cynllun a gyflwynwyd gan Bartneriaeth Hamdden Awyr Agored Gogledd Orllewin Cymru sy’n ceisio cynyddu cyfranogiad cymunedau lleol mewn gweithgareddau antur awyr agored". Mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso wedi cynllunio briff gwerthuso a bydd yn cefnogi’r gwaith o fonitro a gwerthuso’r cynllun peilot am gyfnod o dair blynedd drwy gyfrwng cyfarfodydd gyda staff y bartneriaeth ac ymweliadau â hwy, cynllunio deunyddiau monitro a chymorth gyda chynhyrchu adolygiadau blynyddol yn ogystal â chynhyrchu adroddiad gwerthuso cyffredinol.

Ffit Gyda’n Gilydd

Menter gan CChC yw Ffit Gyda’n Gilydd ac fe’i cyflwynwyd a’i threialu fis Ebrill 2005 gan geisio cynyddu lefelau gweithgarwch merched a genethod drwy gyfrwnt cerdded a loncian. Lleolwyd yr ymgyrch mewn chwe awdurdod lleol gyda’r bwriad o’i hehangu ledled Cymru. Arweiniodd yr adran Ymchwil a Gwerthuso werthusiad y fenter. Roedd hyn yn cynnwys casglu data ansoddol a meintiol er mwyn deall y prosesau o sefydlu Ffit Gyda’n Gilydd ac i fesur ‘llwyddiant’ y fenter. Cyflwynwyd darganfyddiadau’r gwerthusiad i Uwch-Reolwyr y Cymunedau Egnïol ac arweiniodd yr argymhellion at gefnogaeth ariannol i’r fenter am gyfnod peilot pellach o 12 mis.

Cynhelir gwerthusiad dilynol fis Ionawr 2007, dan arweiniad yr adran Ymchwil a Gwerthuso unwaith eto. Bydd yr adran yn cyflwyno darganfyddiadau’r ail gam hwn yn ogystal â chyfres o argymhellion ar gyfer y Cymunedau Egnïol fel bod modd dysgu gwersi am sut i ddatblygu canlyniadau hirdymor, cynaladwy ar gyfer dull cydlynol o weithredu er mwyn cynyddu lefelau gweithgarwch oedolion Cymru.

Panel Syniadau’r Sector Gwirfoddol

Mae Panel Syniadau’r Sector Gwirfoddol yn faes sy’n perthyn i Gymunedau Egnïol ac sy’n ymwneud â gweithio gyda sefydliadau gwirfoddol fel rhan o agenda CChC i edrych ar ffyrdd newydd a gwreiddiol o weithio ar a chyflwyno’r neges gweithgarwch corfforol i gymunedau ledled Cymru. Mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n aelod gweithredol o’r Panel Syniadau ac ymgynghorir â’r adran ynghylch pob mater yn ymwneud ag ymchwil, gwerthuso a monitro.