Ymchwil Weithredol
Mentro Allan:
Mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n cynrychioli’r Grŵp Llywio Gwerthuso, sy’n aelod o Dîm Cefnogi Canolog Mentro Allan, ac mae’n chwarae rhan allweddol mewn datblygu’r broses werthuso ar gyfer y rhaglen a llunio’r strategaeth werthuso gyffredinol. Bydd staff yr adran YaG yn gyfrifol am fod yn brif gyswllt at ddibenion gwerthuso gyda deg i bymtheg o brosiectau ledled Cymru. Bydd hyn yn cynnwys llunio adroddiadau gwerthuso bob chwe mis a rhoi cefnogaeth barhaus i’r staff cysylltiedig â’r prosiectau a’r rhaglenni lleol, yn ogystal ag adrodd yn ôl am y cynnydd a wnaed i Gronfa’r Loteri Fawr a Phartneriaeth Mentro Allan.
Prosiect Gweithle: Tesco, Brychdyn:
Fel rhan o Her Gweithleoedd Egnïol Cyngor Chwaraeon Cymru, mae’r adran Ymchwil a Gwerthuso’n rheoli astudiaeth ymchwil weithredol ar hyn o bryd yn edrych ar effeithiolrwydd rhaglen iechyd a gweithgarwch corfforol yn y gweithle – Clwb Heini Cymunedol.
