Sut allwn ni helpu...?

Sportsmatch Cymru

Sportsmatch Cymru

Sportsmatch Cymru yw cynllun denu nawdd gan fusnes Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer chwaraeon a hamdden gorfforol yng Nghymru.

Y diben yw annog mwy o gefnogaeth gan fusnesau i chwaraeon a hamdden gorfforol drwy gyfateb nawdd masnachol £ am £ a thrwy hynny ddyblu effaith y nawdd i chwaraeon ar gyfer busnes a chwaraeon.

Pwy sy’n gymwys?

Unrhyw glwb neu gymdeithas chwaraeon gyda chyfansoddiad priodol, neu awdurdod lleol, a noddir gan sefydliad masnachol.

Beth sy’n gymwys?

Cytundebau nawdd sydd naill ai’n cynnwys buddsoddiad busnes newydd neu ychwanegol.

Y swm lleiaf y gellir gwneud cais amdano yw £300. Gall y swm gynnwys 3 noddwr - £100 y noddwr (cyfraniad o £100 gan bob noddwr fel lleiafswm).

Y swm mwyaf y gellir gwneud cais amdano yw £50,000.

Gall sefydliadau gyflwyno mwy nag un cais mewn blwyddyn ariannol, ar yr amod nad yw cyfanswm y ceisiadau i gyd yn dod i fwy na £50,000.

Sut i wneud cais

I wneud cais am grant gan Sportsmatch Cymru – Cysylltwch â swyddfa ranbarthol agosaf Cyngor Chwaraeon Cymru a fydd yn fodlon trafod y prosiect gyda chi a darparu cyngor a chyfarwyddyd lle bo angen.

Fel dewis arall, gallwch lawrlwytho’r cais a’r wybodaeth bellach o Adran Llwytho Grantiau a Chyllid y wefan hon.

BETH NAD YW’R CYNLLUN YN EI GEFNOGI:

Nid yw Sportsmatch Cymru’n agored i aelodau unigol o’r cyhoedd, ysgolion cynradd na chyrff cysylltiedig sy’n trefnu gweithgareddau ar gyfer plant, nac ar gyfer ysgolion uwchradd sy’n rhan o’r cynllun 5x60.

Hefyd, ni ellir cyllido’r gweithgareddau a ganlyn:

  • Gweithgareddau corfforol fel garddio, DIY, gwelliannau amgylcheddol, dawns perfformiad na sgiliau syrcas
  • Gweithgareddau sy’n bodoli eisoes
  • Gweithgareddau prif ffrwd a gyllidir gan y llywodraeth ganolog neu lywodraeth leol
  • Prosiectau a ystyrir fel rhai’n rhan o gostau rhedeg o ddydd i ddydd arferol y sefydliad
  • Prosiectau cyfalaf (prosiectau sy’n cynnwys adeiladu neu brynu tir).

Neu’r elfennau prosiect a ganlyn:

  • Cefnogaeth ariannol i unigolion
  • Eitemau personol o ddillad, offer neu git
  • Costau gweinyddu parhaus
  • Arlwyo a lletygarwch
  • Medalau, tystysgrifau neu dlysau
  • Teithiau cartref neu dramor
  • Cyfnewid, atgyweirio neu waith cynnal a chadw parhaus ar offer.

Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â’ch swyddfa ranbarthol os gwelwch yn dda.