Grant Datblygu

Mae Grantiau Datblygu Cyngor Chwaraeon Cymru ar gael i gyllido prosiectau sy’n datblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn y gymuned.
Mae Grantiau Datblygu rhwng £1,001 a £25,000 ar gael ar gyfer prosiectau fel:
- Sefydlu timau newydd
- Addysgu hyfforddwyr
- Offer
- Llifoleuadau
- Datblygu mannau hyfforddi
- Prynu tir neu hawliau ar dir i ddatblygu mannau gweithgarwch
- Grantiau sefydlu i gefnogi mentrau newydd
Mae’r cynllun yn agored i unrhyw grŵp ar yr amod bod ganddo gyfansoddiad ysgrifenedig a chyfrif banc yn enw’r sefydliad.
Os yw eich prosiect angen llai na £1,000, mae’n bur debyg y bydd grant gan y Gist Gymunedol yn fwy addas. Cewch wybod mwy am y cynllun yn adran Cist Gymunedol y wefan hon.
I wneud cais am Grant Datblygu – cysylltwch â swyddfa ranbarthol agosaf Cyngor Chwaraeon Cymru, a fydd yn fodlon trafod y prosiect gyda chi a darparu cyngor a chyfarwyddyd lle bo angen.
Fel dewis arall, gallwch lawrlwytho’r cais a'r wybodaeth bellach o Adran Lawrlwytho Grantiau a Chyllid y wefan hon.
BETH NA FYDD Y GRANT DATBLYGU’N EI GEFNOGI:
Nid yw’r Grant Datblygu ar gael ar gyfer aelodau unigol o’r cyhoedd, ysgolion cynradd na chyrff cysylltiedig sy’n trefnu gweithgareddau ar gyfer plant, nac ar gyfer ysgolion uwchradd sy’n rhan o’r cynllun 5x60.
Hefyd, ni ellir cyllido’r gweithgareddau a ganlyn:
- Gweithgareddau corfforol fel garddio, DIY, gwelliannau amgylcheddol, dawns perfformiad na sgiliau syrcas
- Gweithgareddau / prosiectau sy’n bodoli eisoes ac sydd wedi dechrau eisoes
- Gweithgareddau prif ffrwd a gyllidir gan y llywodraeth ganolog neu lywodraeth leol
- Prosiectau a ystyrir fel rhai’n rhan o gostau rhedeg o ddydd i ddydd arferol y sefydliad
- Prosiectau’n cynnwys chwaraeon nad ydynt ar restr Cyngor Chwaraeon Cymru o weithgareddau cymeradwy
- Prosiectau wedi’u lleoli y tu allan i Gymru
Neu’r elfennau prosiect a ganlyn:
- Cefnogaeth ariannol i unigolion
- Eitemau personol o ddillad, offer neu git
- Costau gweinyddu parhaus
- Arlwyo a lletygarwch
- Medalau, tystysgrifau neu dlysau
- Teithiau cartref neu dramor
- Cyfnewid, atgyweirio neu waith cynnal a chadw parhaus ar offer.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â’ch Swyddfa Ranbarthol os gwelwch yn dda.
